Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Mis Rhagfyr 2023

Mae cyfarfod mis Rhagfyr Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn digwydd heddiw am 9am.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 December 2023

Cynhelir y cyfarfod ym Mryste, dan arweiniad cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Mae dal i fod amser i gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • Gorsensitifrwydd i Fwyd
  • Adolygiad Blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
  • Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig
  • Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod mis Rhagfyr 2023 y Bwrdd yn gyfarfod agored, a gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cwestiynau i’r Bwrdd

I weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod, ewch i dudalen y Bwrdd ar ein gwefan.