Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyflwyno Bwyd a Chi 2

Rydym yn cyflwyno ambell newid i’n prif arolwg defnyddwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

O 2020 ymlaen, byddwn yn cyfuno ein harolwg Bwyd a Chi a’n Harolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd mewn un arolwg modiwlaidd newydd er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym ni fynediad at y data mwyaf cynrychioliadol a chywir ar gyfer defnyddwyr.  

Mae Bwyd a Chi, sef ein prif arolwg ymchwil cymdeithasol, yn rhoi cipolwg manwl i ni ar ymddygiadau bwyd. Mae ein Harolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd yn monitro newid mewn agweddau, deall tueddiadau a mesur effaith ymgyrchoedd. Mae'r ddau yn Ystadegau Swyddogol, sy'n darparu set ddata agored unigryw a ddefnyddir gan ddadansoddwyr a llunwyr polisi ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â chan y gymuned academaidd ehangach. 

Rydym yn cyfuno’r ddau beth mewn arolwg modiwlaidd newydd gan ddefnyddio methodoleg gwthio dros y we, sy'n cynnwys mwy o bynciau gyda sampl mwy o faint, yn enwedig yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. 

Bydd y dull newydd hwn yn: 

  • golygu y gallwn adrodd yn gyflymach
  • darparu cyfleoedd i groesgyfeirio ymddygiadau yn erbyn agweddau 
  • cyflwyno modiwlau newydd nad ydynt yn rhai craidd, a chael gwared ar fodiwlau eraill wrth i flaenoriaethau newid

Enw'r arolwg diweddaraf hwn fydd Bwyd a Chi 2, a bydd yn cael ei gynnal bob chwe mis.

Mae ein cynlluniau wedi’u hadolygu a'u llywio gan y Pwyllgor Cynghori annibynnol ar gyfer Gwyddor Gymdeithasol sydd wedi cytuno y bydd y newid hwn i’r fethodoleg yn cynnig nifer o fanteision a chyfleoedd. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau addasrwydd yr arolwg at y dyfodol, rydym ni’n derbyn y bydd hyn yn amharu ar y gyfres amser bresennol.