Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a Chanllawiau Ymarfer diwygiedig, a chyflwyno Fframwaith Cymwyseddau yng Nghymru

Penodol i Gymru

Heddiw, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cyhoeddi'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod) a'r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig, ac yn cyflwyno Fframwaith Cymwyseddau yng Nghymru wedi ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2020.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 July 2021

Mae’r Cod yn darparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd (PHAs) ar y dull y dylent ei ddefnyddio i reoleiddio busnesau bwyd. 

Mae’r ASB wedi adolygu a diwygio’r Cod, gan ddwyn i ystyriaeth yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad diweddar, a chan sicrhau bod y Cod yn adlewyrchu blaenoriaethau, polisïau, a gofynion deddfwriaethol cyfredol, fel bod cyflawni gweithgareddau rheoli bwyd swyddogol gan awdurdodau lleol a PHAs yn parhau i fod yn effeithiol, yn gyson ac yn gymesur.

Mae'r newidiadau allweddol yn y diwygiad hwn i’r Cod yn cynnwys: 

  • moderneiddio'r gofynion cymwysterau trwy ehangu’r rhestr o gymwysterau ‘addas’ i alluogi awdurdodau lleol a PHAs i gydnabod yn llawn botensial carfan ehangach o weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd yr amgylchedd a safonau masnach er mwyn cynnal gweithgareddau rheoli bwyd swyddogol, a bwrw eu bod yn gallu dangos eu bod yn gymwys 
  • disodli'r gofynion cymhwysedd cyfredol gyda'r Fframwaith Cymwyseddau sy'n diffinio cymhwysedd yn ôl gweithgaredd yn hytrach na rôl 
  • y diwygiadau golygyddol angenrheidiol yn sgil Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2019, a goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) 
  • strwythur a fformat diwygiedig i wella darllenadwyedd a hyrwyddo cysondeb wrth ddehongli a gweithredu 

Meddai Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:

“Rydym ni’n cydnabod bod angen i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd ddefnyddio eu pobl fedrus lle mae eu hangen fwyaf, ac rydym ni wedi ymrwymo i ddiwygio rheoliadol eang sy'n cynorthwyo cyflawni hyn. 

Bydd y Cod a’r Canllawiau Ymarfer diwygiedig, a chyflwyno’r Fframwaith Cymwyseddau, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd ddefnyddio gweithwyr proffesiynol allweddol, gan eu galluogi i recriwtio unigolion â chymwysterau addas i ymgymryd â gweithgareddau penodol, pe byddent yn dewis gwneud felly. 

Bydd hyn yn helpu i leddfu'r heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth recriwtio pobl i ddarparu eu gwasanaeth bwyd, gan sicrhau ar yr un pryd y gall defnyddwyr barhau i ddibynnu ar reolaethau bwyd sy’n cael eu cynnal gan bobl â chymwysterau addas.

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y Cod yn cael ei adolygu ymhellach er mwyn gweithredu rhaglen foderneiddio'r ASB ar gyfer diwygio'r model cyflenwi rheoliadol. Bydd hyn yn sicrhau trefn addas a chynaliadwy a fydd yn diogelu defnyddwyr”.

I gael rhagor o wybodaeth am y Codau Ymarfer, y Canllawiau Ymarfer a'r Fframwaith Cymwyseddau, ewch i dudalen we Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yr ASB. I ddarllen crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, ewch i'r dudalen ymgynghori

Cyhoeddodd yr ASB Godau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Chanllawiau Ymarfer diwygiedig, a chyflwynodd Fframwaith Cymwyseddau ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2021.