Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2022

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2022 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Birmingham, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 9 Mawrth.  Mae’n gyfarfod agored ac mae croeso i’r cyhoedd fod yn bresenol. Gallwch chi hefyd gofrestru i wylio ar-lein.

Mae'r agenda'n cynnwys:

  • Lansio Strategaeth yr ASB
  • Mewnforion o Fukushima
  • Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth
  • Adolygiad Blynyddol o'r Broses Dadansoddi Risg

Bydd diweddariad ar y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Busnes yn y prynhawn.

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol, yn unol â chanllawiau Covid. Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cyflwyno cwestiwn

Gallwch chi gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd, 8 Mawrth drwy anfon e-bost i board.sec@food.gov.uk.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 9 Mawrth, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.

COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022

Rydym ni’n croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes agored am y tro cyntaf ers i reolau Covid olygu bod yn rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol. 

Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.