Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Mawrth 2024

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2024 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 March 2024

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Leeds, a’i gadeirio gan Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher, 20 Mawrth, ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch hefyd gofrestru i’w wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys: 

  • clefydau a gludir gan fwyd
  • bridio manwl
  • diweddariad ar ddiwygio cynhyrchion rheoleiddiedig
  • rheoli risg strategol
  • adolygiad llywodraethu

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2024 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd a’r cyhoedd sy’n gallu bod yn bresennol. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cyflwyno cwestiwn   

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.  
 
Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd, felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac eglur â phosib.  
 
Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod y cyfarfod ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig.  
 
Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i’r cyfarfod. Cyhoeddir yr atebion ar y dudalen berthnasol yn adran Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB ar ein gwefan.  
 
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm ddydd Llun 18 Mawrth gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.