Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Rhagfyr 2022

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2022 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 November 2022

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2022 wedi’u cyhoeddi.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Llundain, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 7 Rhagfyr ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch gofrestru i wylio ar-lein.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2022
  • Blaenoriaethau’r flwyddyn
  • Rhaglen Trawsnewid Gweithredol a Chwmpas y Dyfodol
  • Diweddariad ar Wyddoniaeth yr ASB 2022

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2022 yn gyfarfod agored ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol, yn unol â chanllawiau Covid-19. Gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01772 767731

E-bost: fsaboardmeetings@glasgows.co.uk

Cyflwyno cwestiwn

Gallwch gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd ddydd Llun 5 Rhagfyr drwy anfon e-bost i board.sec@food.gov.uk.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.

COVID-19 a Chyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2022

Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol unwaith eto yng nghyfarfod agored y Bwrdd a’r Pwyllgor Busnes am y pedwerydd tro ers i reolau COVID-19 olygu bod rhaid ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn rhithiol. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ffrydio’r cyfarfod yn fyw i’r rhai na allant fod yn bresennol. 

Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.