Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad i feini prawf cynhyrchion CBD a all barhau i gael eu gwerthu o 1 Ebrill 2021

Dylai busnesau CBD barhau i gyflwyno eu ceisiadau bwyd newydd cyn y dyddiad cau ar 31 Mawrth 2021.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 March 2021

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ailadrodd ei chyngor i'r diwydiant CBD i gyflwyno eu ceisiadau bwyd newydd a symud tuag at gydymffurfio â rheoliadau bwyd newydd. Dylai cwmnïau sydd â cheisiadau sydd wedi'u dilysu'n addas allu parhau i werthu eu cynhyrchion yng Nghymru ac yn Lloegr nes iddynt gael eu hystyried gan bwyllgorau gwyddonol annibynnol a bod penderfyniad awdurdodi wedi'i wneud. 

Mae'r meini prawf ar gyfer cynhyrchion a all barhau i gael eu gwerthu o 1 Ebrill 2021 wedi'u diweddaru. Yn flaenorol, dim ond cynhyrchion a oedd ar werth adeg cyhoeddiad yr ASB (13 Chwefror 2020) ac a oedd yn gysylltiedig â chais a oedd wedi'i ddilysu erbyn 31 Mawrth 2021 a oedd i'w cynnwys. Er mwyn cynyddu'r cyfle i basio dilysiad, mae hyn bellach yn cynnwys yr holl gynhyrchion a oedd ar werth ar 13 Chwefror 2020 ac sy'n gysylltiedig â chais a gyflwynwyd cyn 31 Mawrth 2021 sy'n cael eu dilysu wedi hynny. 

Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:

‘Gwneud cais am awdurdodiad bwyd newydd yw'r unig ffordd y gall cynhyrchion CBD barhau i gael eu gwerthu yma. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn annog pob busnes i gyflwyno ceisiadau o ansawdd da ar frys. 

Fodd bynnag, rydym ni wedi derbyn nifer fawr o geisiadau yn agos at y dyddiad cau. Mae hyn yn golygu, er mwyn prosesu'r rhain yn iawn, ein bod ni’n addasu meini prawf y cynhyrchion y caniateir iddynt barhau i gael eu gwerthu o 1 Ebrill.

'Ers peth amser bellach rydym ni wedi bod yn cefnogi dull pragmatig a chymesur o reoleiddio CBD. Mae ein hymrwymiad i sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod bod y cynhyrchion hyn yn cael eu gwirio am ddiogelwch yn parhau i fod yn gadarn.'

Mae ceisiadau yn destun gwiriad gweinyddol 8 diwrnod, ac yna gall gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith i ddilysu cais. Bydd y ceisiadau dilys hyn yn parhau trwy broses awdurdodi sy'n cynnal gwiriadau diogelwch i bennu a ellir awdurdodi cynhyrchion i'w gwerthu. 

Byddwn ni’n cyhoeddi rhestr o gynhyrchion sy'n gysylltiedig â cheisiadau wedi’u dilysu ar ein gwefan ym mis Ebrill ac yn ei diweddaru'n rheolaidd. 

Bydd yr ASB hefyd yn cyhoeddi rhestr o gynhyrchion sy'n gysylltiedig â cheisiadau nad ydynt eto wedi bodloni’r gofynion cyfreithiol i'w dilysu ond sydd wedi nodi cynlluniau digon cadarn i brofi eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu'r wybodaeth sy'n weddill. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth o gynlluniau i gwblhau'r broses asesu risg, gyda dyddiad cau clir ar gyfer cyflwyno'r wybodaeth sy'n weddill.

Nid yw dilysu yr un peth ag awdurdodi, ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cais wedi'i ddilysu yn cael ei awdurdodi yn y pen draw. Rhaid i bob cais ddilyn y broses dadansoddi risg gynhwysfawr.
Bydd awdurdodau lleol yn parhau i orfodi deddfwriaeth bwyd newydd. Rydym ni wedi eu cynghori mai dim ond cynhyrchion a oedd ar werth adeg cyhoeddiad yr ASB ac sy'n gysylltiedig â chais bwyd newydd addas a gyflwynwyd cyn 31 Mawrth 2021 a ddylai fod ar werth o 1 Ebrill 2021.

Beth yw CBD?

Mae CBD yn gemegyn a geir yn naturiol yn y planhigyn canabis. Dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd ei dynnu a'i werthu fel rhin (extract) CBD ar wahân. Gellir dod o hyd i rin CBD mewn ystod o gynhyrchion fel olewau, melysion, cynhyrchion becws a diodydd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynhyrchion CBD wedi'u hawdurdodi i’w gwerthu fel bwyd.

Cadarnhawyd CBD fel cynnyrch bwyd newydd ym mis Ionawr 2019. O dan y rheoliadau bwyd newydd, rhaid i’r rheoleiddiwr diogelwch bwyd werthuso ac awdurdodi bwyd neu gynhwysion bwyd nad oes hanes o’u bwyta cyn mis Mai 1997 cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad.

Yr ASB sy’n gyfrifol am reoleiddio CBD fel bwyd newydd. Nid yw hyn yn cynnwys colur, anweddau (vapes), cynhyrchion sy'n gwneud honiadau meddyginiaethol neu gynhyrchion sy'n cael eu hystyried yn gyffuriau oherwydd eu bod yn cynnwys sylweddau dan reolaeth.

Yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor ar Wenwyndra, mae'r ASB yn cynghori, fel mesur rhagofalus, na ddylai unigolion sy'n feichiog, yn bwydo ar y fron neu'n cymryd unrhyw feddyginiaeth gymryd cynhyrchion CBD. Cynghorir oedolion iach hefyd i feddwl yn ofalus cyn cymryd CBD, ac rydym ni’n argymell dim mwy na 70mg y dydd (tua 28 diferyn o CBD 5%) oni bai bod hynny o dan gyfarwyddyd meddygol.

Awdurdodi bwyd newydd

Dylai busnesau sy'n dymuno gwerthu eu cynhyrchion ym Mhrydain gyflwyno eu ceisiadau bwyd newydd trwy'r system Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio newydd a weithredir ar y cyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban.

Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn amlinellu cyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy'n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys rheoliadau bwyd newydd a dylai busnesau sy'n dymuno gwerthu cynhyrchion CBD yng Ngogledd Iwerddon barhau i gyflwyno ceisiadau awdurdodi bwyd newydd i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Gorfodi

Yr ASB yw adran y llywodraeth sydd â'r cyfrifoldeb polisi am ddiogelwch bwyd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, ond mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi rheoliadau bwyd newydd o ddydd i ddydd. Rydym ni’n cyhoeddi canllawiau i gefnogi cysondeb o ran dull gweithredu, ond yn y pen draw, awdurdodau lleol sy'n gwneud penderfyniadau gorfodi penodol yn seiliedig ar ffeithiau achosion ac amgylchiadau penodol.