Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad: Rhagor o gynhyrchion CBD wedi’u hychwanegu at y rhestr gyhoeddus

Mae bron i 2,500 o gynhyrchion CBD newydd wedi’u hychwanegu at restr gyhoeddus yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yr wythnos hon. Mae’r rhestr CBD gyhoeddus yn dangos pa gynhyrchion sydd ar y farchnad sy’n destun cais credadwy am awdurdodiad gyda’r ASB.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 April 2022

Yn ogystal â’r 3,536 o gynhyrchion CBD sydd ar y rhestr ar hyn o bryd, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth, mae 2,446 o gynhyrchion eraill wedi’u hychwanegu heddiw (dydd Mercher 27 Ebrill).

Roedd cyhoeddi’r rhestr ar 31 Mawrth 2022 wedi cyflymu’r broses o gyflwyno tystiolaeth hollbwysig i’r ASB. Felly mae’r ASB wedi cymryd y cam hwn i ddiweddaru’r rhestr. Mae dros 1,700 o gynhyrchion newydd a ychwanegwyd at y rhestr yn ymwneud â cheisiadau a gyflwynwyd i’r ASB cyn y dyddiad cau ar 31 Mawrth, ond a oedd angen tystiolaeth bellach gan fusnesau i sicrhau bod y cynhyrchion yn bodloni meini prawf y rhestr gyhoeddus cyn y gellid eu hychwanegu. Mae tua 700 o gynhyrchion wedi’u hychwanegu i gywiro gwall clercol.

Mae hwn yn un o ddau ddiweddariad y cyhoeddodd yr ASB yn flaenorol y byddem yn ei wneud cyn 30 Mehefin 2022. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr. Yr unig ddiweddariadau a wneir ar ôl hyn fydd adlewyrchu statws y cynhyrchion yn ein proses awdurdodi bwydydd newydd.

Meddai Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB: 

‘Mae llunio’r rhestr gyhoeddus wedi bod yn dasg enfawr. Mae’r rhan fwyaf o ychwanegiadau at y rhestr gyhoeddus yno oherwydd na roddodd busnesau’r wybodaeth gywir i ni cyn Mawrth 31. Rydym ni’n ymddiheuro am y nifer bach o fylchau yn y rhestr wreiddiol yn dilyn gwallau clercol.  Mae’r cynhyrchion hyn bellach wedi’u hychwanegu. 

‘Rydym yn annog unrhyw fusnesau CBD sydd â thystiolaeth sy’n cysylltu eu cynhyrchion â cheisiadau credadwy i’w hanfon atom cyn gynted â phosib, ond heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2022. Ni fyddwn yn derbyn tystiolaeth ar gyfer cynhyrchion i’w cynnwys ar y rhestr gyhoeddus ar ôl y dyddiad hwn. Gall busnesau sy’n dymuno darparu tystiolaeth ar gyfer eu cynhyrchion i’w cynnwys, o bosib, ar y rhestr gyhoeddus hefyd ddarparu tystiolaeth o astudiaethau y maent wedi’u comisiynu, er enghraifft astudiaethau gwenwynegol. Gellir bod wedi comisiynu’r rhain naill ai cyn neu ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Mawrth 2021, a rhaid cyflwyno’r dystiolaeth o’r comisiynu cyn 26 Mai.’

Gall awdurdodau lleol a manwerthwyr gysylltu â’r ASB i gael rhagor o wybodaeth am statws cynnyrch nad yw ar y rhestr.

Rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau eraill am fwydydd CBD newydd, ond ni ddylai cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn gael eu gwerthu nes bod y broses asesu diogelwch wedi’i chwblhau a bod sicrhad o ran awdurdodiad – sy’n arferol ar gyfer bwydydd sy’n newydd i ddeiet y DU.