Gwasanaeth cymorth newydd i helpu busnesau bwyd arloesol gyda phroses y DU o awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), mewn cydweithrediad â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), wedi lansio gwasanaeth peilot newydd er mwyn cynorthwyo busnesau sy’n datblygu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ar gyfer marchnad y DU.
Ymhlith y cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd sydd wrthi’n cael eu datblygu, mae amrywiaeth o fwydydd fel ffiled cyw iâr wedi’i gwneud o gelloedd cyw iâr a byrgyr cig eidion wedi’i wneud o gelloedd buwch. Efallai y byddwch chi’n clywed y cynhyrchion hyn yn cael eu disgrifio weithiau fel “cig a dyfir mewn labordy”.
Mae’r sector bwyd arloesol yn tyfu’n gyflym. Mae nifer bach o geisiadau ar gyfer bwydydd a wneir drwy feithrin celloedd wedi dod i law’r ASB ac FSS yn barod, ac maent yn disgwyl y daw mwy yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae angen i ni fod yn barod i asesu’r ceisiadau hyn pan fyddant yn dod i law.
Bydd y gwasanaeth cymorth busnes newydd hwn (a fydd ar gael yn Saesneg yn unig am y tro, tra bo’r gwasanaeth yn mynd drwy cynllun peilot) yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i gwmnïau sy’n mynd drwy’r broses o awdurdodi eu cynhyrchion.
“Rôl yr ASB yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel cyn iddo gael ei werthu yn y DU. Gan fod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd bellach yn cael eu datblygu mewn ffyrdd newydd ac arloesol, mae’n hanfodol eu bod yn parhau i fodloni ein safonau uchel o ran diogelwch. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu busnesau i ddeall beth sydd ei angen arnynt i brofi bod eu cynhyrchion yn ddiogel, a’u tywys drwy’r broses awdurdodi. Drwy ei gwneud hi’n haws i gwmnïau wneud pethau’n iawn o’r cychwyn cyntaf, gallwn gefnogi twf yn y sector cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a thrwy hynny roi dewis ehangach o fwyd diogel i ddefnyddwyr.”
Gan ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, bydd darpar-ymgeiswyr ym maes cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn gallu siarad yn uniongyrchol â thîm yr ASB/FSS cyn cyflwyno cais, fel eu bod yn glir ynghylch gofynion hanfodol fel casglu data, nodi peryglon, a safonau diogelwch cyffredinol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cefnogaeth strwythuredig i fusnesau ar ôl iddynt gyflwyno ceisiadau. Mae hyn yn golygu y gall busnesau sy’n ymateb i Geisiadau am Wybodaeth gael mynediad at ganllawiau ychwanegol i’w helpu i ddeall ac ymdrin ag unrhyw fylchau a nodwyd yn eu ceisiadau.
Drwy gydol y broses, bydd yr ASB ac FSS yn casglu gwybodaeth am dechnolegau sy’n dod i'r amlwg mewn perthynas â chynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Bydd y casgliad hwn o dystiolaeth yn golygu y gallwn ddarparu proses awdurdodi fwy gwybodus a symlach, gan sicrhau diogelwch cynhyrchion o’r fath cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad.
Ein nod yw ehangu’r gwasanaeth cymorth peilot hwn i gynhyrchwyr bwyd wedi’i eplesu’n fanwl (precision-fermented) yn y dyfodol. Ffurf fodern o’r broses eplesu draddodiadol a ddefnyddir i wneud cynhyrchion fel proteinau llaeth buwch a phowdrau protein o ficro-organebau yw eplesu manwl. Mae enghreifftiau’n cynnwys ceuled (rennet) a ddefnyddir wrth gynhyrchu caws.
Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth cymorth busnes – gan gynnwys sut i anfon Ffurflen Ymholiad cyn Cyflwyno (PSEF), y mathau o gymorth sydd ar gael, a chanllawiau ar baratoi coflen ar gael ar wefan yr ASB.
Hanes diwygio
Published: 24 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mehefin 2025