Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Lansio ymgynghoriad cyn newidiadau posibl i reolaethau mewnforio Fukushima

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio barn rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach ar reolaethau a osodir ar hyn o bryd ar fwyd wedi’i fewnforio o’r ardal.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae rheolaethau wedi cael eu gosod ar fewnforion bwyd o Japan gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) ers digwyddiad niwclear ym mis Mawrth 2011. 

Mae'r ASB bellach yn cynnal adolygiad arfaethedig o'r rheolaethau hyn i ddarparu cyngor ar ddiogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd i Weinidogion, felly gellir gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen y rhain wrth symud ymlaen.

Gellir mewnforio mwyafrif y cynhyrchion bwyd o Japan eisoes heb unrhyw gyfyngiadau na gwiriadau ar lefelau ymbelydredd. Fodd bynnag, mae rheolaethau yn parhau ar waith ar gyfer nifer cyfyngedig o gynhyrchion o rai rhanbarthau yn Japan.

Mae hyn wedi effeithio nifer o rywogaethau pysgod , madarch gwyllt a llysiau Japaneaidd wedi'u fforio yn yr ardaloedd hyn.

Mae'r cyfrifoldeb am ddadansoddiad risg diogelwch bwyd radiolegol, sydd dros y degawd diwethaf wedi arwain at leihau cyfyngiadau yn raddol, wedi dod bellach  i ran yr ASB ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Safonau Bwyd yr Alban yn yr Alban, yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
 
Mae gwyddonwyr yr ASB, gyda chymorth COMARE – Pwyllgor arbenigol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Agweddau Meddygol Ymbelydredd yn yr Amgylchedd – wedi dod i'r casgliad y byddai cael gwared ar y lefel uchaf o 100 becquerel y cilogram (Bq/kg) ar gyfer radiocesiwm (ffurfiau ymbelydrol cesiwm) ar gyfer bwyd sy'n cael ei fewnforio o Japan i'r DU yn arwain at gynnydd dibwys mewn ymbelydredd ac unrhyw risg gysylltiedig i ddefnyddwyr y DU. 

Cyhoeddwyd yr asesiad risg gwyddonol er gwybodaeth ac mae ar gael i'w weld ar-lein.

ASB yn Esbonio

Becquerel yw'r uned fesur safonol ar gyfer ymbelydredd, neu yn yr achos penodol hwn o radiocesiwm – isotop ymbelydrol o gesiwm, a ffurfir yn dilyn damwain niwclear. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we ymbelydredd mewn bwyd.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn cynnig cyfle i randdeiliaid a'r cyhoedd ehangach ddweud eu dweud ar y camau posibl nesaf ar gyfer y DU.

Mae'r rhain yn cynnwys cadw'r rheolaethau cyfredol, eu tynnu'n llwyr, neu gymhwyso'r rheolaethau i hyd yn oed nifer llai o gynhyrchion.

Meddai Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB:

“Rhoddwyd rheolaethau mewnforio ar waith i ddechrau fel mesurau brys yn dilyn digwyddiad niwclear Fukushima yn 2011. Dim ond mewn symiau bach y mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu mewnforio i'r DU, yn bennaf ar gyfer pobl â deiet Japaneaidd a bwytai sy’n arbenigo mewn bwyd Japaneaidd.

“Ers hynny, adolygwyd y rheoliadau hyn yn rheolaidd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r cyfrifoldeb hwn bellach wedi'i drosglwyddo i'r ASB, ynghyd â FSS, ac rydym ni wedi cwblhau asesiad risg i fewnforio i’r DU ac asesiad effaith economaidd. Rydym ni’n croesawu pob barn ar newidiadau posibl i'r rheolaethau, cyn i ni gynghori Gweinidogion ar y camau nesaf.

“Ein blaenoriaeth trwy gydol y broses hon yw diogelwch bwyd, ac mae buddiannau defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor annibynnol arbenigol yn seiliedig ar y wyddoniaeth a'r dystiolaeth ddiweddaraf i sicrhau bod yr holl fewnforion bwyd i'r DU yn cydymffurfio â'n safonau uchel presennol ac yn diogelu buddiannau defnyddwyr."

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB, ac mae angen ymatebion erbyn 11 Chwefror 2022. 

I gael rhagor o wybodaeth am ein proses  asesu, rheoli a chyfleu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gwyliwch ein fideo ‘ASB yn Esbonio: Dadansoddi Risg'.