Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Lansio ymgynghoriad yn ymwneud â’r diwydiant pryfed bwytadwy ym Mhrydain

Nodi cynlluniau i ganiatáu i bryfed bwytadwy aros ar y farchnad tra byddant yn mynd trwy’r broses awdurdodi ar gyfer Bwydydd Newydd

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2022

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi nodi cynlluniau i ganiatáu i bryfed bwytadwy aros ar y farchnad tra byddant yn mynd trwy'r broses awdurdodi ar gyfer Bwydydd Newydd sy’n asesu eu diogelwch. 


Disgrifir y cynlluniau mewn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd heddiw. Mae'r ASB yn awyddus i gyflwyno'r newidiadau cyfreithiol angenrheidiol cyn gynted â phosibl, gan ddibynnu ar yr ymatebion a ddaw i law. 

Meddai Cyfarwyddwr Polisi’r ASB, Rebecca Sudworth:

“Bydd ein cynigion yn helpu busnesau y mae’r ansicrwydd ynghylch pryfed i’w bwyta gan bobl ers diwedd Rhagfyr 2020 wedi effeithio arnynt.  

“Pan adawon ni’r Undeb Ewropeaidd (UE), ni chafodd y mesurau pontio yn ymwneud â bwydydd newydd, gan gynnwys pryfed bwytadwy, eu diwygio i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau gyflwyno ceisiadau i reoleiddwyr ym Mhrydain Fawr. 

“Bydd angen i gynhyrchion pryfed bwytadwy fynd trwy’r broses awdurdodi lawn ym Mhrydain Fawr er mwyn aros ar y farchnad, felly rydym yn annog busnesau i siarad â ni am gyflwyno eu ceisiadau ac i drafod y cymorth y gallwn ei ddarparu trwy’r broses.  

“Rydyn ni eisiau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn pryfed bwytadwy, yn enwedig sefydliadau masnach a busnesau bwyd, allu dweud eu dweud trwy ein hymgynghoriad.” 

Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd yr ASB lythyr yn nodi bod y mesurau pontio wedi dod i ben ar 2 Ionawr 2020. Roedd hyn yn anghywir ac mae'r ASB bellach wedi egluro i awdurdodau lleol fod darpariaeth y cyfnod pontio yn parhau i fod yn gymwys ym Mhrydain Fawr.  

Bydd y cynigion a nodir heddiw yn caniatáu i bryfed bwytadwy aros ar werth os oeddent yn cael eu marchnata yn yr UE neu’r Deyrnas Unedig (DU) cyn 1 Ionawr 2018 ac yn destun cais i’r UE am awdurdodiad fel bwyd newydd erbyn 1 Ionawr 2019. 

Rhaid gwneud cais i’r ASB neu Safonau Bwyd yr Alban awdurdodi’r pryfed hyn erbyn 31 Rhagfyr 2023 er mwyn i’r cynnyrch aros ar y farchnad tra bod y cais yn cael ei asesu.  

Mae asesiad risg cyffredinol, a gynhaliwyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban i gefnogi’r ymgynghoriad, wedi canfod bod y risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â chynhyrchion pryfed bwytadwy yn isel, os oes mesurau priodol ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau hylendid wrth fagu'r pryfed i osgoi halogiad, triniaeth wres, a labelu sy’n nodi risgiau alergedd. 

Mae ymchwil yr ASB yn dangos bod gan ddefnyddwyr yn y DU ddiddordeb ac awydd cynyddol am ddeiet iach, cynaliadwy, gyda phwyslais ar ddewisiadau amgen i gig. Dengys hefyd y byddai mwy na chwarter (26%) o ddefnyddwyr y DU yn fodlon rhoi cynnig ar fwyta pryfed bwytadwy – ac mai’r rhesymau mwyaf cyffredin dros hyn yw pryderon amgylcheddol neu awydd am gynaliadwyedd

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Cymdeithas Pryfed Bwytadwy y DU, Dr Nick Rousseau:  

"Mae ein sector wedi bod yn ffermio pryfed ac yn datblygu cynhyrchion bwyd newydd, cyffrous ac arloesol yn y DU ers blynyddoedd lawer a dim ond parhau i dyfu mae’r sector.   

“Mae ymchwil o dreialon helaeth a phrofion defnyddwyr a gynhaliwyd gan ein haelodau yn dangos bod cynhyrchion pryfed bwytadwy, o'u ffermio a'u gweithgynhyrchu'n broffesiynol, yn cynnig cynhyrchion bwyd maethlon, blasus a diogel i ddefnyddwyr sy'n poeni am yr amgylchedd, a bod y cynhyrchion hyn yn gallu bodloni cyfran sylweddol o'u hanghenion o ran protein.   

“Bydd cefnogaeth yr ASB yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gallu i brofi ein hunain yn y farchnad.”   

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i ymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB