Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Mae’r ASB yn croesawu gwaharddiad y DU ar fewnforio cnofilod o Lithwania a ddefnyddir at ddibenion bwydo anifeiliaid anwes

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi croesawu’r gwaharddiad ar ôl i gysylltiad gael ei gadarnhau rhwng achos o Salmonela mewn pobol a chnofilod a ddefnyddir at ddibenion bwydo ymlusgiaid, sy’n tarddu o safle yn Lithwania.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 February 2022

Bydd y gwaharddiad ar waith nes bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn nodi fel arall. Daw yn sgil ymchwiliad ar y cyd gan UKHSA, yr ASB, DEFRA ac APHA i achosion o salmonela ymhlith mwy na 900 o bobl yn y DU. Mae'r ASB a’i phartneriaid yn parhau i annog pobl i fod yn ofalus iawn wrth drin unrhyw lygod wedi'u rhewi, gan gynnwys cynnyrch llygod a deunydd pecynnu, oherwydd y risg o Salmonela.


Dylai pobl fod yn arbennig o wyliadwrus, gan olchi eu dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr yn syth ar ôl cyffwrdd â’r cynnyrch a’u hymlusgiaid a’r offer a’r amgylchedd cysylltiedig hefyd, oherwydd y risg o salwch. 

Mae cyngor cyffredinol pellach ar leihau’r risg o gael Salmonela ar gael ar-lein.

Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB):

“Wrth i ni barhau i weld cynnydd yn nifer yr achosion o Salmonela Enteritidis sy'n gysylltiedig â chnofilod a ddefnyddir at ddibenion bwydo a gafodd eu mewnforio o Lithwania dros y misoedd diwethaf, rydym yn croesawu penderfyniad Defra i wahardd y cynhyrchion hyn rhag cael eu mewnforio a'u gwerthu yn y DU.


Er bod y gwaharddiad hwn wedi’i gyflwyno i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu, ni allwn bwysleisio ddigon pa mor bwysig yw arferion hylendid da wrth drin bwyd anifeiliaid anwes amrwd neu hwnnw sydd wedi’i rewi, yn ogystal â’r ymlusgiad ei hun.”


Dylid storio’r bwyd anifeiliaid yn briodol, yn ddelfrydol mewn adran storio neu rewgell bwrpasol, ac ni ddylai ddod i gysylltiad â bwyd i’w fwyta gan bobl. Dylid dadmer y bwyd anifeiliaid yn naturiol ar bapur newyddion neu dyweli papur bob amser, a hynny ar dymheredd ystafell, a dylid ei gadw oddi wrth fwyd i bobl ac arwynebau lle caiff bwyd ei baratoi. Dylid diheintio unrhyw arwynebau ac offer a ddefnyddir yn drylwyr. 


Rhaid i berchnogion anifeiliaid anwes a’r rhai sy’n trin yr anifeiliaid hyn olchi eu dwylo’n drylwyr gan ddefnyddio sebon a dŵr cynnes yn syth ar ôl trin bwyd anifeiliaid anwes wedi’i rewi ac wedi’i ddadmer, ac ar ôl trin unrhyw ymlusgiaid, eu hoffer a’u hamgylchedd.” 

Cyngor i berchnogion ymlusgiaid o ran bwydo eu hanifeiliaid anwes

Efallai y bydd gan berchnogion nadroedd a phobl eraill sy’n defnyddio llygod wedi’u rhewi fel bwyd bryderon am sicrhau lles eu hanifeiliaid, gan y bydd y gwaharddiad ar fewnforio yn achosi prinder yn y tymor byr. Dylai fod digon o lygod i sicrhau lles y nadroedd a’r anifeiliaid eraill, gan gynnwys adar, sy’n bwyta llygod, os bydd perchnogion yn addasu eu harferion bwydo cyfredol. Bydd cyngor manwl i berchnogion ymlusgiaid yn cael ei gyhoeddi ar-lein.

Cyngor i rieni a gwarchodwyd plant sy'n trin ymlusgiaid 

Mae hyn wedi effeithio ar blant yn arbennig, felly rydym ni’n annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod pawb yn golchi eu dwylo'n drylwyr â dŵr cynnes a sebon bob tro y byddant yn trin y llygod ac yn eu bwydo i’w hanifeiliaid anwes, a phob tro y byddant yn trin eu hymlusgiaid, er mwyn lleihau’r risg y byddant yn mynd yn sâl gyda Salmonela. Gallai'r filodfa (vivarium) a'r mannau y bydd yr ymlusgiaid yn crwydro ynddynt fod wedi’u halogi â salmonela. Dylid dilyn arferion hylendid da.

Os byddwch chi neu aelodau eraill o’r teulu yn mynd yn sâl gyda symptomau fel dolur rhydd, poen yn yr abdomen a thwymyn, cysylltwch â’ch meddyg neu GIG 111 a rhoi gwybod eich bod yn berchen ar ymlusgiad.  Os oes gennych chi symptomau, gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi’ch dwylo’n rheolaidd ac osgoi paratoi bwyd i eraill.  Peidiwch â mynd i’r gwaith na’r ysgol am 48 awr ar ôl i’r symptomau beidio er mwyn lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo’r haint.  

Diwedd

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am arferion hylendid da yma.