Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn Campylobacter mewn cyw iâr yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dadansoddi 20 mlynedd o ddata ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn Campylobacter o gyw iâr a fanwerthir yn y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 September 2022

Nod yr astudiaeth oedd asesu unrhyw dueddiadau yn ystod y cyfnod 20 mlynedd hwn ac mae’n darparu llinell sylfaen ar gyfer gwerthuso’r gostyngiadau y gobeithir eu gweld mewn AMR yn y dyfodol.

Ceir AMR pan fydd bacteria’n addasu i  i ddatblygu ymwrthedd i effeithiau lladdol cyffuriau gwrthficrobaidd, fel gwrthfiotigau. Mae’r ymwrthedd hwn wedyn yn gwneud heintiau o’r fath ymysg pobl yn anoddach eu trin gan gyffuriau. Gall AMR ddatblygu mewn unrhyw facteria, gan gynnwys Campylobacter. Campylobacter yw prif achos gwenwyn bwyd bacteriol yn y byd datblygedig, ac amcangyfrifir bod mwy na hanner miliwn o achosion bob blwyddyn yn y DU.

Meddai Arweinydd Gwyddoniaeth yr ASB mewn Asesu Risg Microbiolegol, Dr Paul Cook:  

Er bod y data’n dangos cynnydd amlwg mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn Campylobacter i rai sylweddau gwrthficrobaidd, mae’n galonogol na fu unrhyw gynnydd sylweddol mewn ymwrthedd ers 2014.

Mae unrhyw gynnydd mewn AMR mewn Campylobacter yn bryder ac mae gwyliadwriaeth barhaus yn hanfodol. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn cyw iâr a chigoedd eraill a monitro unrhyw dueddiadau hirdymor mewn ymwrthedd, gan  hyrwyddo arferion hylendid bwyd da i leihau amlygiad i facteria sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a diogelu defnyddwyr.
 

Ers ei ffurfio yn 2000, mae’r ASB wedi comisiynu nifer o arolygon manwerthu ac astudiaethau samplu ledled y DU a oedd yn cynnwys profi am Campylobacter mewn cyw iâr. Profwyd ymhellach gyfran sylweddol o’r arunigion Campylobacter a ganfuwyd i asesu ymwrthedd i ystod o sylweddau gwrthficrobaidd. 

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad hwn yn amrywio rhwng y pum prif fath o gyffuriau gwrthficrobaidd sydd wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth. Roedd ymwrthedd i cwinolonau (siproflocsasin ac asid nalidicsig) a thetraseiclin yn gyffredin yn y mathau mwyaf cyffredin o Campylobacter o gyw iâr (Campylobacter jejuni a Campylobacter coli). O’i gymharu, roedd ymwrthedd i erythromycin a streptomycin yn llawer mwy anghyffredin yn yr arunigion Campylobacter a archwiliwyd. Roedd ymwrthedd Gentamicin yn anghyffredin iawn. 

Mae yna ffyrdd effeithiol i ddefnyddwyr leihau amlygiad i facteria AMR. Mae hyn yn cynnwys glanhau arwynebau yn gywir, coginio bwyd yn drylwyr, oeri bwyd ar y tymheredd cywir a thrin bwyd mewn modd hylan fel nad yw’n croeshalogi â bwydydd neu arwynebau eraill. Ar gyfer unrhyw ffrwythau neu lysiau sy’n cael eu bwyta’n amrwd, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu golchi’n drylwyr neu eu pilio gan y bydd hyn yn helpu i gael gwared ar unrhyw faw gweladwy neu halogiad bacteriol.  

I gael rhagor o wybodaeth am olygu genomau, gan gynnwys fideo ‘Yr ASB yn esbonio’, ewch i’n tudalen we AMR. Mae’r adroddiad ymchwil (Saesneg yn unig) ar gael ar ein tudalennau ymchwil.