Yr ASB yn cwblhau rhaglen PATH-SAFE pedair blynedd bwysig er mwyn gwella gwaith y DU o gadw gwyliadwriaeth ar glefydau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cwblhau’r rhaglen pedair blynedd ar Gadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE) am gost o £24 miliwn, gan nodi carreg filltir bwysig yn ymdrechion y DU i ganfod ac ymateb i fygythiadau gan bathogenau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Arweiniodd yr ASB raglen ymchwil beilot drawslywodraethol a thraws-sector ar y cyd â 65 a mwy o bartneriaid, gan gynnwys UKHSA, Defra, APHA, FSS, EA, VMD, DHSC a Cefas. Defnyddiodd y rhaglen ddull Iechyd Cyfunol, gan gydnabod bod cysylltiad cryf rhwng iechyd pobl, anifeiliaid a’r amgylchedd.
Diben y rhaglen PATH-SAFE, a gafodd ei lansio yn 2021, oedd ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phathogenau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd a’u rheoli, yn ogystal â gwella bio-wyliadwriaeth ar draws system amaeth-fwyd y DU. Mae wedi darparu offer, data a phartneriaethau newydd sydd eisoes yn dylanwadu ar strategaethau cenedlaethol a’r ymateb i frigiadau o achosion.
Prif lwyddiannau
- Dulliau newydd o gadw gwyliadwriaeth: Datblygodd y rhaglen ddulliau newydd o gadw gwyliadwriaeth, gan gynnwys monitro dŵr gwastraff, sydd wedi helpu i amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â gollyngiadau gwastraff ysbytai a lledaeniad pathogenau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd i’r amgylchedd
- Data a mewnwelediad cryfach: Cafodd dros 8,300 o samplau a 12,500 o ynysyddion eu dilyniannu, ac mae rhywfaint o’r data hwn wedi helpu i greu llinellau sylfaen newydd, gan wella dealltwriaeth o bathogenau a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn gwahanol gyd-destunau fel da byw a bwyd anifeiliaid wedi’i fewnforio
- Arloesedd ar raddfa fawr: Crëwyd llwyfannau data genomig ar gyfer pathogenau fel Salmonela ac E-coli, ac maent bellach yn cael eu treialu ar draws y llywodraeth
- Cydlynu gwell: Gwnaeth y rhaglen PATH-SAFE gryfhau partneriaethau traws-sector a chroesawu rhanddeiliaid newydd o’r diwydiant a llywodraeth leol
- Dylanwad strategol: Mae’r rhaglen PATH-SAFE wedi cael ei chrybwyll mewn strategaethau mawr yn y DU, gan gynnwys Strategaeth Diogelwch Biolegol y DU, a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer 2024–2029, gan ddangos ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ehangach
- Effaith gynnar y polisi: Mae cynnwys y rhaglen mewn adroddiadau ymchwil a gwyliadwriaeth uchel eu proffil, fel yr adroddiad ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Milfeddygol a’r adroddiad ar Gadw Gwyliadwriaeth ar Werthiannau, yn cynnig tystiolaeth gynnar o’i heffaith bosib yn yr hirdymor
Metrigau effaith o’r rhaglen PATH-SAFE

Ffeithlun yn crynhoi’r rhaglen PATH-SAFE (2021–2025), a oedd yn canolbwyntio ar gadw gwyliadwriaeth ar bathogenau ar draws amaethyddiaeth, bwyd a’r amgylchedd. Mae metrigau allweddol o’r rhaglen yn cynnwys: £24 miliwn wedi’i fuddsoddi ar draws 30 o brosiectau, gan gynnwys 65 a mwy o bartneriaid cyflawni dan arweiniad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wyth partner yn y llywodraeth, gan ymgysylltu â thros 200 o randdeiliaid. Mae allbynnau’n cynnwys: 180+ o gyhoeddiadau, 8,300+ o samplau newydd wedi’u casglu, 2,500+ o samplau arferol wedi’u dadansoddi, 10,000+ o samplau yn yr archif wedi’u harchwilio, a 18,000 o ddilyniannau genom wedi’u cynhyrchu. Mae’r cyflawniadau’n cynnwys Llwyfan Data Genomig flaenllaw, 25 o offerynnau a modelau wedi’u datblygu, 15 o fentrau bio-wyliadwriaeth, 12 digwyddiad yn cyrraedd dros 1,200 o bobl, a dros 150 o weithgareddau cyfathrebu. Cynhaliodd y rhaglen 18 o gyfarfodydd ‘cymunedau buddiant’ gydag 85 o aelodau. Roedd y cyfraniadau’n ymestyn ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban, gan ddefnyddio dull Iechyd Cyfunol sy’n integreiddio iechyd anifeiliaid, pobl a’r amgylchedd.
Edrych tua’r dyfodol
Canfu gwerthusiad annibynnol fod y rhaglen wedi darparu gwerth cryf am arian, wedi helpu i leihau dyblygu ar draws sectorau, ac wedi gosod y sylfaen ar gyfer system wyliadwriaeth fwy integredig ac effeithlon. Mae’r gwerthusiad yn amlinellu nifer o argymhellion cyffredinol i wneud y mwyaf o effaith hirdymor y gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynyddu dulliau llwyddiannus drwy gyllid pwrpasol a mabwysiadu ehangach
- Rhannu offer, data a dysgu ar draws sefydliadau i gynyddu gallu
- Parhau i fonitro canlyniadau hirdymor a chydweithio ar draws sectorau
- Cefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â rhwystrau o ran rhannu data ar draws y llywodraeth drwy gyfrannu at ddatblygu canllawiau clir ar ddiogelu data, safonau metadata, cysylltedd, ac anonymeiddio
- Blaenoriaethu a chydlynu mentrau gwyliadwriaeth yn y dyfodol ar draws adrannau
Mae’r ASB wedi ymrwymo i gefnogi’r camau nesaf hyn a pharhau i hyrwyddo dull Iechyd Cyfunol cydgysylltiedig o gadw gwyliadwriaeth.
Gan adeiladu ar waith PATH-SAFE, mae’r ASB yn datblygu Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd genedlaethol i gryfhau gwaith monitro diogelwch a dilysrwydd bwyd y DU. Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar godi capasiti labordai, datblygu dulliau profi, cefnogi cydweithio trawslywodraethol, a defnyddio arloesedd a data i ddiogelu bioddiogelwch. Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen we’r Rhaglen Gwyliadwriaeth Bwyd a thudalen cyfarfod mis Medi Bwrdd yr ASB.
“Mae PATH-SAFE wedi dangos beth sy’n bosib pan fyddwn yn cydlynu ar draws sectorau gan rannu’r un genhadaeth. Erbyn hyn, mae gennym ni offer newydd, partneriaethau cryfach, a mewnwelediadau ymarferol sydd eisoes yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau. Y cam nesaf yw sicrhau bod y momentwm hwn yn parhau gyda buddsoddiad hirdymor a pherchnogaeth drawslywodraethol glir.”
Mae’r adroddiad gwerthuso llawn a’r deunyddiau ategol ar gael yma.