Yr ASB yn cyhoeddi rhybudd rhagofalus i bobl sydd ag alergeddau i beidio â bwyta siocled dull Dubai
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi dod o hyd i nifer o gynhyrchion siocled dull Dubai nad ydynt yn bodloni’r safonau diogelwch bwyd a labelu gofynnol.
Cyhoeddodd yr ASB rybudd yn gynharach eleni y gallai rhai cynhyrchion siocled dull Dubai fod yn anniogel i bobl ag alergeddau. Mae’r ASB yn ymwybodol y gallai rhai o’r cynhyrchion hyn gynnwys alergenau, fel pysgnau a sesame, nad ydynt wedi’u datgan ar y label. Mae’r wybodaeth hon wedi rhannu â busnesau a grwpiau’r diwydiant fel y gallant gymryd camau i sicrhau bod y cynhyrchion maen nhw’n eu gwerthu yn ddiogel ac wedi’u labelu'n gywir.
Mae’r ASB wrthi’n adolygu data samplu o gynhyrchion sydd ar werth i wirio a ydynt yn bodloni’r safonau gofynnol o ran diogelwch bwyd a labelu. Hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau a bod y canlyniadau llawn yn hysbys, mae’r ASB yn cynghori defnyddwyr ag alergeddau i osgoi bwyta siocled dull Dubai fel cam rhagofalus.
“Mae siocled dull Dubai wedi dod yn hynod boblogaidd, ond rydym wedi darganfod bod rhai cynhyrchion yn cynnwys pysgnau a sesame, ac nad yw’r rhain wedi’u nodi ar y label. I rywun sydd ag alergeddau, gallai hyn fod yn beryglus.
Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae risg na fydd rhai cynhyrchion sydd ar werth yn bodloni ein safonau llym yn y DU.
Ni ddylai pobl sydd ag alergedd fwyta siocled dull Dubai. Os ydych chi’n prynu anrheg i rywun sydd ag alergeddau, ein cyngor yw osgoi prynu’r cynhyrchion hyn. Mae hyn yn cynnwys pob alergedd, nid dim ond alergedd i bysgnau a sesame. Gall pobl heb alergeddau fwyta’r cynhyrchion hyn, yn enwedig lle cânt eu cyflenwi gan frandiau a manwerthwyr ag enw da.
Dylai pobl allu ymddiried bod y bwyd mewn siopau yn y DU yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Felly, rydym yn atgoffa busnesau o’u cyfrifoldeb i sicrhau diogelwch y cynhyrchion bwyd maen nhw’n eu gwerthu. Rydym hefyd wedi rhannu ein pryderon ag elusennau alergedd fel y gallant ein helpu i sicrhau bod gan ddefnyddwyr yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus.
Rydym yn parhau i fonitro’r cynhyrchion hyn, a byddwn yn rhoi cyngor pellach, felly tanysgrifiwch i’n rhybuddion bwyd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.”
“Mae CTSI yn cefnogi cyngor rhagofalus yr ASB yn llwyr, ac yn rhannu ei hymrwymiad i gadw defnyddwyr yn ddiogel ac iach, yn enwedig o ran alergenau mewn bwyd. Gall y rhain fod yn angheuol i’r rhai sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
Mae’r gofynion cyfreithiol yn glir – mae angen nodi a labelu unrhyw fwyd sy’n cynnwys alergenau yn glir. Mae hyn er mwyn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus a diogel. Mae peidio â gwneud hyn yn anghyfreithlon ac yn beryglus iawn hefyd, gan ei fod yn gwneud bwydydd o’r fath yn anniogel i’r rhai sydd ag alergeddau bwyd. Rydym yn annog pob busnes bwyd, gan gynnwys manwerthwyr a mewnforwyr, i gymryd camau ar unwaith i gydymffurfio. Dylai busnesau nad ydynt yn siŵr a yw’r rhybudd hwn yn effeithio arnynt gysylltu â’u gwasanaeth Safonau Masnach lleol i gael cyngor ac arweiniad.
Dylai’r cyhoedd fod yn sicr bod gweithwyr proffesiynol Safonau Masnach ledled y wlad – p’un a ydynt yn cynghori busnesau neu’n gorfodi cydymffurfiaeth – yn gweithio’n agos gyda’r ASB a’r cwmnïau yr effeithir arnynt i sicrhau bod cynhyrchion yn bodloni’r holl ofynion diogelwch a labelu. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw pobl yn ddiogel a chynnal ymddiriedaeth yn y gadwyn cyflenwi bwyd.”
I’r bobl hynny sy’n dewis prynu siocled dull Dubai, cyngor yr ASB yw sicrhau eich bod chi’n prynu o fanwerthwr ag enw da, a gwirio bod label y cynnyrch yn Saesneg ac yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- enw’r bwyd (er enghraifft, siocled llaeth gyda phast cnau pistasio)
- rhestr gynhwysion, gyda’r alergenau wedi’u pwysleisio
- pwysau’r bwyd mewn gramau
- dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’
- enw a chyfeiriad y busnes yn y DU neu’r UE sy’n gyfrifol am yr wybodaeth am y cynnyrch. Os nad yw’r bwyd yn dod o’r DU neu’r UE, rhaid cynnwys enw a chyfeiriad y mewnforiwr.
Am fwy o wybodaeth am alergeddau bwyd a sut i fod yn ddiogel, ewch i food.gov.uk/cy.