Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chyngor Southwark yn sicrhau £70,000 mewn gorchmynion atafaelu, mewn achos o dwyll cig anghyfreithlon
Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Chyngor Southwark wedi llwyddo i sicrhau dau orchymyn atafaelu, sy’n dod i gyfanswm o fwy na £70,000, am roi bwyd ar y farchnad nad yw’n addas i’w fwyta gan bobl.
Cynhaliwyd gwrandawiad atafaelu o dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn y Llys Troseddol Canolog yn gynharach y mis hwn. Rhoddwyd gorchmynion atafaelu ar wahân, gwerth £35,483.63 yr un, i Anthony Fear ac i Fears Animal Products Limited, sy’n cyfateb i gyfanswm o £70,967.26.
Ym mis Awst 2025, cafodd Anthony Fear, unig gyfarwyddwr Fears Animal Products Limited, ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar am gynllwynio i dwyllo drwy roi bwyd nad oedd yn addas i’w fwyta gan bobl ar y farchnad. Cafodd ei wahardd hefyd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni am chwe blynedd.
Cyhoeddwyd y ddedfryd yn dilyn ymchwiliad cymhleth a ddechreuodd pan ddaeth swyddogion Southwark o hyd i 1.9 tunnell o sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3 – gan gynnwys ieir cyfan a darnau ohonynt, ceilliau ŵyn a byrgyrs cig eidion – a oedd yn cael eu prosesu i’w gwerthu i’r gadwyn fwyd mewn ffatri torri cig anghyfreithlon yn Llundain.
Mae disgwyl i Fears Animal Products Limited gael ei ddedfrydu yn ystod y misoedd i ddod.
“Mae’r canlyniad hwn yn anfon neges glir – p’un a ydych chi’n unigolyn neu’n gwmni, does dim lle i guddio. Os ydych chi wedi elwa o weithgarwch troseddol, byddwn ni’n dod o hyd i chi ac yn tynnu’r elw hwnnw oddi arnoch chi. Mae’r camau a gymerwyd gan ein tîm ymchwilio ariannol yn atgyfnerthu’r ffaith nad yw troseddu’n talu.”
“Mae sicrhau gorchmynion atafaelu o dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn rhan allweddol o’n strategaeth yn erbyn twyll bwyd difrifol. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad oes neb yn elwa o drosedd ac anfon neges ataliol glir at unrhyw un sy’n ystyried dilyn yr un llwybr. Yn ogystal ag wynebu dedfrydau o garchar, caiff unrhyw elw a wneir gan droseddwyr bwyd fel Anthony Fear ei dynnu oddi arnyn nhw.
Mae ein hymchwilwyr ariannol yn arbenigo mewn nodi’r elw hwnnw ac unrhyw asedau realeiddiadwy, dim ots pa mor bell mae rhai troseddwyr yn mynd i’w cuddio.”
“Mae’r achos hwn yn tynnu sylw at y risgiau difrifol y mae sefydliadau bwyd anghyfreithlon yn eu peri i iechyd y cyhoedd, a pham mae camau gorfodi cadarn mor bwysig.
Mae gan ddefnyddwyr hawl i ddisgwyl bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel ac yn bodloni’r safonau priodol. Mae’r canlyniad hwn yn anfon neges gref na fyddwn ni’n goddef y rhai sy’n rhoi elw o flaen diogelwch pobl. Byddwn ni’n parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn gweithgarwch anghyfreithlon fel hyn, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu iechyd a hyder ein cymunedau.”
Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar food.gov.uk neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).