Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn croesawu dedfryd o garchar mewn achos o droseddau bwyd

Mae tri dyn wedi’u dedfrydu ar ôl erlyniadau llwyddiannus gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru i achos o ddwyn gwerth £300,000 o gig cyw iâr a thwyll yng Ngogledd Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 February 2024

Cafwyd Rana Dhaia o Wolverhampton yn euog. Plediodd Darren Williams ac Elliott Smith, ill dau o Ynys Môn, yn euog i ladrad. O ganlyniad, cafodd y tri dyn ddedfrydau ddydd Gwener, 2 Chwefror yn Llys y Goron Caernarfon

  • mae Rana Dhaia wedi’i ddedfrydu i dreulio cyfnod o bedair blynedd a thri mis yn y carchar
  • mae Darren Williams wedi cael dedfryd o ddwy flynedd o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, gyda gofyniad i wneud 300 awr o waith di-dâl
  • mae Elliot Smith wedi cael dedfryd o ddwy flynedd o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, gyda gofyniad i wneud 250 awr o waith di-dâl

Gwnaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan weithio gyda phartneriaid, gynnal ymweliad dirybudd a, thrwy hynny, gael gafael ar dystiolaeth a oedd o gymorth i’r heddlu.

Canfuwyd nodiadau dosbarthu ffug wedi’u hysgrifennu â llaw a oedd yn nodi bod gwerth £300,000 o gig cyw iâr wedi’u dwyn, gan arwain at broblemau olrheiniadwyedd posib. Mae’n bwysig iawn bod modd olrhain dofednod trwy’r system fwyd i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta.  

Cafodd y tri dyn eu harestio wedi i’r awdurdodau weithredu ar sail y warant chwilio. Gwnaeth y busnes o Ogledd Cymru, 2 Sisters Food Group, gydweithio’n llwyr â’r ymchwiliad a rhoi tystiolaeth ar gyfer yr erlyniad. 

Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 

“Rydym yn croesawu’r dedfrydau hyn, gan eu bod yn anfon neges ataliol gref i’r rhai sy’n ystyried cyflawni troseddau bwyd. Hoffwn ddiolch i’r CPS ac i Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith partneriaeth rhagorol wrth sicrhau’r euogfarnau hyn. Gyda’n gilydd, gallwn frwydro’n gryf yn erbyn twyll bwyd ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu.” 

Dywedodd Emmalyne Downing, Adfocad y Goron:  

“Gwnaeth y tri diffynnydd fanteisio ar eu sefyllfa o fewn y cwmnïau i dwyllo 2 Sisters Food Group. Gall achosion o dwyll fod yn gymhleth. Gweithiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn agos gydag Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru i adeiladu achos cryf yn erbyn y diffynyddion. Arweiniodd y dystiolaeth a gyflwynwyd at euogfarnau ar gyfer y tri unigolyn dan sylw”. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl David Hall o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: 

“Rydym yn croesawu’r canlyniad sydd wedi golygu euogfarnau ar gyfer Williams, Smith a Dhaia yn dilyn gwaith gyda phartneriaid o’r Asiantaeth Safonau Bwyd. 

“Gwnaeth y troseddau hyn gostio miloedd o bunnoedd i 2 Sisters Food Group, a gallent hefyd fod wedi cael goblygiadau pellgyrhaeddol oherwydd problemau o ran olrheiniadwyedd pe na baent wedi cael eu dal. 

“Hoffwn ddiolch i’r CPS am eu rhan yn yr ymchwiliad hwn sydd wedi arwain at ganlyniad heddiw.” 

Gall unrhyw un sy’n amau troseddau bwyd roi gwybod i’r NFCU amdanynt yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol nad ydynt wedi’u cofrestru yn y DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.