Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2022/23

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar y cyd ar gyfer Cymru, San Steffan, a Gogledd Iwerddon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r rhain yn ymdrin â’n perfformiad a’n gweithgarwch yn 2022/23 ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 January 2024

Yn y rhagair, mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, yn dweud: 

“Hoffwn ganmol Tîm Gweithredol yr ASB am ei holl waith dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnal safonau bwyd a diogelu iechyd y cyhoedd. Diolch hefyd i bawb a fu’n ymwneud â pharatoi’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn ofalus sy’n galluogi eraill i graffu ar ein gwaith. Mae Bwrdd yr ASB wedi bod yn monitro perfformiad drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn hyderus bod yr ASB yn parhau i wneud gwaith da o ran cynnal safonau bwyd uchel.” 

Yn yr adroddiad, dywed Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles: 

“Mae’r adroddiad hwn yn nodi cyflawniadau’r ASB dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gynnwys ein gwaith o ymateb i fwy na 2,000 o ddigwyddiadau bwyd, a’n rôl wrth arolygu busnesau cig a llaeth. Ar draws gwyddoniaeth, diwygio arferion rheoleiddio a dadansoddi risg, mae’r ASB yn cyflawni ei chenhadaeth o sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo.

“Roedd pwysau annisgwyl yn golygu y bu hyd yn oed fwy o alw ar staff ac adnoddau’r ASB yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan ystyried y cyd-destun hwn, mae hyder defnyddwyr mewn diogelwch a dilysrwydd bwyd wedi parhau’n uchel.” 

Darllenwch yr adroddiad llawn i ddarganfod mwy am ein gweithgarwch a’n perfformiad yn ystod 2022/23. 

Ein blwyddyn mewn rhifau 

Roedd gweithgarwch a pherfformiad ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys y canlynol: 

Hylendid a safonau 

  • Roedd 91% o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB ar 31 Mawrth 2023 (90% ar 31 Mawrth 2022).   
  • O’r rhai sydd â rhywfaint o wybodaeth am yr ASB, mae 75% yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label (dim newid ers 31 Mawrth 2022). 

Busnesau bwyd cig 

  • Cafodd 98.7% o weithredwyr busnesau bwyd cig ganlyniadau archwilio da neu foddhaol ar y cyfan ar 31 Mawrth 2023 (ychydig yn is na’r 98.9% a gafodd sgôr dda neu foddhaol ar y cyfan ar 31 Mawrth 2022).   
  • Cwblhawyd 97% o archwiliadau cig llawn yn Ch4 2022/23 (wedi cynyddu o 82% yn Ch4 2021/22). 

Awdurdodau lleol  

  • Cyflawnwyd 99.5% o ymyriadau mewn sefydliadau categori A.  
  • Cyflawnwyd 99.0% o ymyriadau mewn sefydliadau categori B.    

Troseddau bwyd 

  • Cyflawnwyd 85 o darfiadau (wedi cynyddu o 67 yn 2021/22 – mae tarfiadau’n cofnodi’r effaith y mae’r Uned yn ei chael mewn perthynas â mynd i’r afael â gweithgarwch troseddol a thwyllodrus fel gweithredu gwarant chwilio). 

Ein pobl  

  • Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil – Sgôr ymgysylltu o 69% ar arolwg pobl y gwasanaeth sifil (wedi cynyddu o 68% yn arolwg 2021). Mae ymgysylltu’n mesur ymrwymiad gweithwyr i nodau a gwerthoedd sefydliadol, a chymhelliant i gyfrannu at lwyddiant sefydliadol.