Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y defnydd o blastig a ddaw o’r amgylchedd agored

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y defnydd o blastig a ddaw o’r amgylchedd agored mewn deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 March 2022

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn galw ar fanwerthwyr, cynhyrchwyr a chyflenwyr i gyflwyno tystiolaeth ar ddiogelwch plastigau a ddaw o’r amgylchedd agored ac sy’n cael eu hailgylchu i'w defnyddio fel deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd. 

Mae’r alwad am dystiolaeth yn ymwneud â phlastigau ‘sy’n mynd i’r môr’ (ocean-bound), yn ogystal â’r plastigau hynny sy’n dod o’r môr neu’r tir. Ystyrir bod plastig a gafwyd o systemau casglu gwastraff ac ailgylchu trefol y tu allan i’r cwmpas.

Canfu gwerthusiad cychwynnol ar blastig sy’n mynd i’r môr gan Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau sy’n Dod i Gysylltiad â Bwyd, sy’n rhoi cyngor annibynnol i’r ASB ar y dystiolaeth sydd ar gael, na fu’n bosibl gwarantu bod modd defnyddio’r deunyddiau hyn mewn cynhyrchion sy’n dod i gysylltiad â bwyd heb risg – naill ai mewn cysylltiad uniongyrchol â bwyd, neu fel haen ganol. Mae angen tystiolaeth bellach i lywio asesiad risg cynhwysfawr llawn.

Nododd gwerthusiad cychwynnol y Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Ddeunyddiau sy'n Dod i Gysylltiad â Bwyd fod gwybodaeth gyfredol am halogiad posibl yn gyfyngedig, sy’n golygu nad yw presenoldeb sylweddau sy’n garsinogenig, mwtagenig neu’n wenwynig i atgenhedlu (CMR) yn hysbys.

Meddai Timothy Chandler, Uwch Gynghorydd Polisi Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd yn yr ASB:
 
“Rydym ni’n llwyr gefnogi egwyddorion cynaliadwyedd ailgylchu ac ailddefnyddio plastig gwastraff o ffynonellau amgylcheddol, ond rhaid i ni sicrhau bod yr ymdrechion hyn yn cael eu gwneud mewn ffordd nad yw’n peryglu diogelwch bwyd.

“Yn ddiweddarach eleni, bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn rhan o asesiad risg cynhwysfawr y pwyllgor gwyddonol priodol ar ddiogelwch y deunyddiau hyn mewn deunydd pecynnu a chynhyrchion sy’n dod i gysylltiad â bwyd.” 

Mae’r ASB hefyd yn awyddus i wybod sut mae gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr yn ystyried deunydd sy’n dod o wledydd sydd â seilweithiau rheoli gwastraff gwahanol i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a lle mae gwybodaeth am ddefnydd neu gamddefnydd blaenorol o blastig yn llai sicr.

Mae rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae’r ASB yn ei cheisio ar gael yma. Dylid cyflwyno ymatebion i environmentalplastic@food.gov.uk erbyn 6pm, dydd Mawrth, 20 Medi 2022.