Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi rhybudd ynghylch Wonka Bars ffug

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â phrynu na bwyta ‘Wonka Bars’ ffug, sy’n cael eu gwerthu mewn siopau ac ar-lein ledled y wlad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 March 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 March 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â phrynu na bwyta ‘Wonka Bars’ ffug, sy’n cael eu gwerthu mewn siopau ac ar-lein ledled y wlad.

Gallai’r bariau ffug fod yn anniogel i’w bwyta, gan ei bod yn bosib eu bod yn cael eu cynhyrchu gan fusnesau anghofrestredig a chan unigolion a allai fod yn mynd yn groes i gyfreithiau hylendid, labelu a olrheiniadwyedd bwyd.

Canfuwyd bod rhai Wonka Bars ffug a dynnwyd oddi ar y farchnad yn cynnwys alergenau na chafodd eu rhestru ar y label, gan beri risg iechyd fawr i unrhyw un ag alergedd neu anoddefiad bwyd.

Daw rhybudd yr ASB ar ôl cynnydd sydyn yn nifer yr adroddiadau bod bariau siocled ffug ar werth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd:

“A’r Pasg lai na mis i ffwrdd, mae’n bwysicach nag erioed bod rhieni a mamau cu a thadau cu yn ymwybodol o’r risgiau y gallai’r bariau siocled ffug hyn eu peri i’w plant, yn enwedig y rheiny ag alergedd neu anoddefiad bwyd.

“Nid oes unrhyw ffordd o wybod pa gynhwysion sydd yn y bariau hyn, na pha arferion hylendid bwyd sy’n cael eu dilyn gan y bobl sy’n eu cynhyrchu.

“Os ydych chi wedi prynu’r bariau siocled ffug hyn, peidiwch â’u bwyta na’u rhoi i ffrindiau na’r teulu.”

Mae unrhyw siocled sy’n dwyn brandio Wonka nad yw’n cynnwys nodau masnach swyddogol ‘Ferrero’ neu ‘Ferrara Candy Company’ ar y label yn debygol o fod yn gynnyrch ffug, ac nid oes modd gwybod a yw’n ddiogel i’w fwyta.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i ymchwilio ymhellach i adroddiadau gyda chymorth partneriaid awdurdodau lleol.

Mae llythyrau wedi'u hanfon at awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ymchwilio a gorfodi cyfraith bwyd, i'w cynghori i dynnu unrhyw gynhyrchion ffug rhag cael eu gwerthu lle bo risg hysbys i iechyd y cyhoedd, neu amheuaeth y gallai fod risg o’r fath.

Cynghorir unrhyw aelodau o’r cyhoedd sydd wedi prynu neu weld Wonka Bars ffug ar silffoedd neu ar-lein i godi’r mater gyda’r manwerthwr ac adrodd i’w hawdurdod lleol am y mater fel y gellir cymryd camau.