Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi ymgynghoriad ar y canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ceisio safbwyntiau ar ganllawiau newydd sy’n ymwneud â chig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM). 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2024

Mae’r ASB wedi datblygu canllawiau newydd i roi cymorth i fusnesau bwyd yn dilyn cyfres o ddyfarniadau llys ar y diffiniad o MSM. Ceir MSM trwy dynnu cig o’r esgyrn, gan leihau gwastraff bwyd, a rhaid ei gynhyrchu mewn ffordd hylan a diogel.   
 
Mae gan ddyfarniadau’r llys oblygiadau ar gyfer cynhyrchu MSM yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan eu bod wedi darparu eglurder ynghylch beth yw MSM, sut y dylai busnesau bwyd ddehongli’r diffiniad, a sut y dylent ei gymhwyso i’w cynhyrchion.    
 
Mae dyfarniadau’r llys wedi pennu tri maen prawf ar gyfer dosbarthu MSM: y defnydd o esgyrn y mae’r cyhyrau cyfan eisoes wedi’u gwahanu oddi wrthynt (neu garcasau dofednod sydd yn dal i fod â chig arnynt); y defnydd o’r dulliau gwahanu mecanyddol i adfer y cig hwnnw; a cholli neu addasu strwythur ffeibr cyhyrau’r cig a adferwyd.   
 
Bydd canlyniad y dyfarniadau llys hyn yn effeithio ar rai busnesau, ac mae’r ASB yn deall y gallai fod angen amser ar fusnesau bwyd er mwyn iddynt allu addasu eu prosesau a’r ffordd y maent yn dosbarthu cynhyrchion yn unol â’r dyfarniadau.   
 
Mae’r ASB yn ymgynghori â defnyddwyr, y diwydiant, a rhanddeiliaid eraill ar ba mor addas yw ein canllawiau newydd, yn ogystal â gofyn am fewnbwn ar asesiad effaith gan y busnesau hynny y bydd gweithredu’r canllawiau yn effeithio arnynt. Bydd dull yr ASB o weithredu’r canllawiau yn cael ei lywio gan ganlyniad yr asesiad effaith, a gynhelir fel rhan o’r ymgynghoriad. 

“Rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar y canllawiau newydd yn dilyn dyfarniad y llys ar MSM. Rydym yn deall y bydd y dyfarniad hwn yn effeithio ar fusnesau, felly mae’n bwysig ein bod ni’n ceisio safbwyntiau defnyddwyr a’r diwydiant ar y canllawiau er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosib.  
   
“Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod busnesau’n cael digon o gyfle i rannu safbwyntiau. Busnesau bwyd sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith bwyd, ac mae’r ASB wedi ymrwymo i ddatblygu canllawiau newydd ar MSM i helpu busnesau i ddeall canlyniadau dyfarniadau’r llys.    
 
“Byddwn yn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad, yr asesiad effaith a’r camau nesaf i sicrhau bod busnesau a defnyddwyr yn ymwybodol o’r datblygiadau.”   

Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB:

Daw’r ymgynghoriad i ben am 5pm, ddydd Mercher 22 Mai. 

Ewch ati i ddweud eich dweud nawr: Ymgynghoriad ar y canllawiau ar gig wedi'i wahanu'n fecanyddol (MSM).