Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Cyflenwi Anifeiliaid Hela Gwyllt i Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy

Disgwylir y bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau sy’n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad yn digwydd mewn sefydliadau trin helgig cymeradwy (AGHEs).

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r rheiny sy’n ymwneud â phob cam o’r prosesau cynhyrchu a dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt i AGHEs (er enghraifft, helwyr, ystadau saethu, prynwyr helgig, cludwyr a bwtrïoedd ac ati) gydymffurfio â chyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd trwy wneud y canlynol: 

  • cydymffurfio â’r gofynion perthnasol mewn deddfwriaeth berthnasol. Nid yw’r eithriadau a nodir yn y rheoliadau hylendid bwyd yn gymwys i chi.
  • cofrestru fel gweithredwr busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol.
  • bodloni’r gyfraith diogelwch bwyd a gofynion deddfwriaeth berthnasol.
  • cludo anifeiliaid hela gwyllt yn hylan ac yn ddiogel. Gweler yr adran ar Gludo i gael rhagor o wybodaeth.  

4.1 Trin Anifeiliaid Hela Gwyllt Mawr i'w Cyflenwi i AGHEs

Mae’r gofynion penodol ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt mawr i’w rhoi ar y farchnad drwy AGHE’s wedi’u nodi yn y rheolau hylendid penodol sy’n gymwysi fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid.

Mae’r camau y dylid eu dilyn wrth hela anifeiliaid hela gwyllt mawr i’w cyflenwi i AGHE wedi’u nodi isod:

  • ar ôl lladd, rhaid cael gwared ar stumogau a choluddion (offal gwyrdd) anifeiliaid hela gwyllt mawr cyn gynted â phosibl (wedi’u diberfeddu), ac os oes angen, eu gwaedu.  Gall y stumog, y coluddion a rhannau eraill o'r corff gan gynnwys y pen, naill ai gael eu gwaredu'n ddiogel ar y safle lladd, neu mewn bwtri, ar yr amod nad yw hyn yn cyfaddawdu'r angen iddynt gael eu symud yn brydlon.
  • yna mae'n rhaid i berson cymwys gynnal archwiliad o’r corff ac o unrhyw organau perfeddol (viscera) sy’n cael eu tynnu i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd. Rhaid i’r archwiliad hwn gael ei gynnal cyn gynted â phosib ar ôl y lladd.
  • yn dilyn yr archwiliad uchod, ac ar yr amod na chanfuwyd unrhyw nodweddion annormal, ni welwyd unrhyw ymddygiad annormal cyn lladd, ac nid oes amheuaeth o halogiad amgylcheddol, rhaid i’r person cymwys gyhoeddi ac atodi datganiad wedi’i rifo y mae’n rhaid iddo gynnwys y dyddiad, yr amser a’r man lladd.  Cyflawnir hyn fel arfer trwy dagio neu labelu er mwyn eu cysylltu â’i gilydd. Cyfeiriwch at Atodiad A am enghraifft o’r datganiad.  Yn y sefyllfa hon, nid oes angen i’r pen na’r organau perfeddol fynd gyda'r corff, ac eithrio yng nghyswllt y rhywogaethau hynny sy'n agored i Trichinosis (er enghraifft baeddod gwyllt ac unrhyw rywogaethau moch eraill), y mae'n rhaid i’w pennau a’r llengig fynd gyda’r corff i’r AGHE.
  • ar ôl archwilio’r corff, os yw'r person cymwys yn amau bod yna nodweddion annormal, rhaid i’r pen (nid yr ysgithrau na’r cyrn) a’r holl organau perfeddol, heblaw am y stumog a'r coluddion fynd gyda'r corff i’r AGHE. Yn y sefyllfa hon, rhaid i'r heliwr roi gwybod i’r awdurdod cymwys (Milfeddyg Swyddogol yr ASB) am yr annormaleddau sydd wedi eu hatal rhag cyhoeddi’r “datganiad heliwr”. Os ydych chi’n amau y gallai anifail fod wedi’i effeithio â chlefyd hysbysadwy, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • os nad oes person cymwys ar gael i gynnal yr archwiliad uchod, rhaid i’r pen (nid yr ysgithrau na’r cyrn) a'r holl organau perfeddol heblaw am y stumog a’r coluddion fynd gyda’r corff i’r AGHE.
  • os yw’r pen, yr organau perfeddol a rhannau eraill o’r corff yn mynd gyda’r anifeiliaid hela gwyllt i AGHE, mae angen cynnal cydberthynas (correlation) ddigonol. 
  • rhaid dechrau oeri o fewn cyfnod rhesymol ar ôl lladd a chael tymheredd trwy’r cig o ddim mwy na 7°C. Fodd bynnag, ni ddylid rhewi’r carcas. Lle bo amodau hinsoddol yn caniatáu, nid oes angen oeri gweithredol. Dylai’r ffactorau hyn gael eu hymgorffori yng ngofynion rheoli diogelwch bwyd y sefydliad derbyn.
  • yna dylid cludo’r carcas i AGHE cyn gynted â phosib ar ôl yr archwiliad. Wrth gludo i’r AGHE, rhaid osgoi pentyrru (gosod carcasau ar ben ei gilydd) i helpu’r broses oeri. Ar ôl cyrraedd AGHE, bydd yr anifeiliaid hela gwyllt mawr yn cael eu harchwilio’n ffurfiol gan y Milfeddyg Swyddogol neu’r Arolygydd Hylendid Cig (MHI) cyn gosod marc iechyd ar y carcas.

4.2 Trin Anifeiliaid Hela Gwyllt Bach i’w cyflenwi i AGHEs

Nodir y gofynion penodol ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt bach i’w rhoi ar y farchnad trwy AGHEs mewn deddfwriaeth. 

Mae’r camau y dylid eu dilyn wrth hela anifeiliaid hela gwyllt bach i’w cyflenwi i AGHE wedi’u nodi isod:

  • rhaid i’r person cymwys gynnal archwiliad i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd. Rhaid i’r archwiliad gael ei gynnal cyn gynted â phosibl ar ôl lladd.
  • os canfyddir nodweddion annormal yn ystod yr archwiliad, ymddygiad annormal cyn lladd, neu os amheuir bod yna halogiad amgylcheddol, rhaid i'r person cymwys roi gwybod i’r awdurdod cymwys.
  • dim ond os yw’r corff yn cael ei gludo i AGHE cyn gynted â phosib ar ôl yr archwiliad y gellir rhoi cig o anifeiliaid hela gwyllt bach ar y farchnad. Fe’ch anogir i gyflwyno datganiad helwyr ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt; fodd bynnag, nid yw’n ofyniad cyfreithiol. Gweler Atodiad A am ddatganiad ‘person cymwys’ awgrymedig.
  • rhaid dechrau oeri o fewn cyfnod rhesymol ar ôl lladd a chael tymheredd trwy’r cig o ddim mwy na 4°C. Lle bo amodau hinsoddol yn caniatáu, nid oes angen oeri gweithredol.
  • rhaid cynnal neu gwblhau’r broses diberfeddu, heb oedi gormodol ar ôl cyrraedd yr AGHE, oni bai bod yr awdurdod cymwys (yr ASB) yn caniatáu fel arall.

Rhaid cyflwyno anifeiliaid hela gwyllt bach a gludir i AGHE i’w harchwilio gan yr ASB (Awdurdod Cymwys).

Arferion gorau
Ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt bach, yr arfer gorau yw y byddai datganiad ‘person cymwys’ yn cyd-fynd â’r helgig a gyflenwir i AGHE. Ar gyfer helwyr sy’n cyflenwi i fanwerthwr defnyddiwr terfynol, ystyrir ei bod yn arfer gorau i’r person cymwys gwblhau ac atodi datganiad i garcasau anifeiliaid hela mawr. 

4.3 4.3 Trin Offal i’w Fwyta gan Bobl

Diffinnir offal fel cig ffres heblaw cig y carcas, gan gynnwys organau perfeddol a gwaed.

Rhaid i anifeiliaid hela gwyllt mawr gael eu cyflwyno gyda datganiad heliwr ac nid oes angen i’r offal gyd-fynd â’r carcas yn absenoldeb annormaleddau a ddatgenir gan yr heliwr. Rhaid i anifeiliaid hela mawr sydd â datganiad heliwr sy’n nodi bod annormaleddau wedi’u canfod fod cynnwys yr offal cydberthynol ynghyd âr carcas. Os nad yw datganiad yr heliwr yn cyd-fynd ag anifeiliaid hela gwyllt mawr, rhaid i’r Milfeddyg Swyddogol/MHI gyflwyno’r offal i’w arolygu gan weithredwr y busnes bwyd. Mae’n rhaid i anifeiliaid hela gwyllt mawr a’r offal sy’n cyd-fynd â nhw gael eu nodi’n glir i ddangos eu bod yn cydberthyn; gwneir hyn fel arfer trwy dagio neu labelu er mwyn eu cysylltu â’i gilydd. Os nad oes cydberthynas glir rhwng yr offal a’r corff, ni ellir eu cyflenwi i’w bwyta gan bobl.  

Pan fydd yr offal o anifeiliaid hela gwyllt mawr wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, rhaid i gyflenwr yr AGHE allu dangos, mewn ffordd sy’n bodloni’r sefydliad sy’n derbyn, ei fod wedi cael ei drin yn hylan ac y gellir profi cydberthynas lawn ac olrhain rhannau’r corff ac anifeiliaid hela gwyllt mawr.  Y sefydliad derbyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnyrch y mae’n ei dderbyn yn bodloni'r gofynion a nodir yn ei gynllun HACCP ei hun. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod gan y cyflenwr y seilwaith angenrheidiol i sicrhau bod y gadwyn oer yn cael ei chynnal yn ôl yr angen, a bod modd atal croeshalogi.