Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Profi am Drichinella mewn Baeddod Gwyllt a rhywogaethau eraill sy’n dueddol o gael Trichinosis

Mae Trichinella yn barasit a all effeithio ar lawer o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys pobl, gan achosi clefyd a elwir yn trichinosis.

Gall pobl gael eu heintio trwy fwyta cig amrwd, cig heb ei goginio’n iawn neu gig wedi’i brosesu o foch, baeddod gwyllt, ceffylau neu helgig sy’n cynnwys mwydod larfal microsgopig (a elwir yn ‘trichinae’) ym meinwe’r cyhyrau. Ymysg pobl, mae’r symptomau sy’n gysylltiedig â haint yn aml yn cynnwys dolur rhydd, crampiau yn yr abdomen ac anhwylder. Wrth i’r clefyd ddatblygu, gall y symptomau gynnwys twymyn, poen yn y cyhyrau a chur pen. Mewn achosion difrifol, gall organau hanfodol gael eu heffeithio a allai arwain at lid yr ymennydd, niwmonia neu hyd yn oed farwolaeth.

Bydd baeddod gwyllt yn chwilota am fwyd a allai gael ei heintio â Trichinella. O ganlyniad, mae posibilrwydd y gallai baeddod gwyllt gael eu heintio â Trichinella. Yn yr un modd, mae posibilrwydd y bydd anifeiliaid eraill, gan gynnwys rhywogaethau moch gwyllt, yn cael eu heintio â Trichinella.

Mae baeddod gwyllt a dderbynnir mewn AGHEs yn destun prawf trichinella gorfodol fel arfer. Os bydd sampl yn profi’n bositif am Trichinella, bydd y labordy profi yn hysbysu’r ASB a’r heliwr. Yna bydd y carcas yn cael ei olrhain a’i wrthod am ei fod yn anaddas i’w fwyta gan bobl.  Dolen i ganllawiau’r ASB ar gyfer profion trichinella.

Arferion gorau

Er nad yw’n orfodol, mae’n arfer gorau i brofi baeddod gwyllt a fwriedir i’w bwyta’n bersonol gennych chi eich hunan neu i’w cyflenwi’n uniongyrchol i ddefnyddwyr neu fanwerthwyr lleol, er mwyn rhoi hyder mewn diogelwch bwyd. Dylai helwyr sy’n samplu baeddod gwyllt anfon y sampl i labordy priodol i’w brofi. Gellir archebu cynwysyddion ar gyfer storio a chludo samplau ynghyd ag amlenni rhadbost gyda’r cyfeiriad arnynt ar gyfer postio samplau cyn hela gan APHA

Mae APHA wedi datblygu canllawiau i helwyr ar brofi trichinella mewn baeddod gwyllt ar wefan APHA (PDF) sy’n esbonio sut y dylid cymryd samplau o faeddod gwyllt gwylltion a manylion am sut i gael pecyn samplu/anfon cyn hela.