Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Cyflwyniad
Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 10 rhwng 9 Hydref 2024 a 7 Chwefror 2025.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. (footnote 1) Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Bwyd a Chi 2: Cylch 10
Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 10 rhwng 9 Hydref 2024 a 7Chwefror 2025. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,690 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 3,965 o gartrefi ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 25.6%).
Arolwg modiwlaidd yw Bwyd a Chi 2, gyda modiwlau ‘craidd’ sy’n cael eu cynnwys ym mhob cylch, modiwlau ‘cylchdro’ sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, a modiwlau ‘untro’ sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes o ddiddordeb. Mae’r modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys: ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd); Diogeledd bwyd’ (craidd); ‘Bwyta gartref’ (craidd); ‘Gorsensitifrwydd i fwyd’ (cylchdro); ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ (craidd).
Cafodd yr Alban ei chynnwys yn yr holiadur ar gyfer Cylch 10, a hynny dan nawdd ariannol Safonau Bwyd yr Alban (FSS). Roedd y cwestiynau a ofynnwyd i gyfranogwyr o’r Alban yn adlewyrchu’r rhai a ofynnwyd yng Nghymru a Lloegr gyda geiriad amgen yn ôl yr angen ar gyfer cwestiynau a oedd yn cyfeirio at gyrff llywodraeth a chynlluniau hylendid bwyd sy’n benodol i’r wlad. Mae’r holl gynnwys yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.Adroddir ar ganfyddiadau yr Alban ar wahân gan FSS. (footnote 2)
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 10. Nid yw’r holl gwestiynau a ofynnwyd yn arolwg Cylch 10 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y set ddata a’r tablau cysylltiedig.
Cyd-destun
Cynhaliwyd Cylch 10 o’r arolwg Bwyd a Chi 2 rhwng Hydref 2024 a Chwefror 2025 yn ystod chwe mis cyntaf llywodraeth newydd, a hynny yn dilyn etholiad cyffredinol y DU a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, bu newidiadau gwleidyddol ac economaidd parhaus, gan gynnwys cyhoeddi cyllideb newydd ym mis Hydref 2024, a hynny ar ddechrau gwaith maes Cylch 10. O ran materion ehangach fel yr argyfwng costau byw, gwnaeth chwyddiant prisiau bwyd aros yn uchel drwy gydol y cyfnod hwn. Dylid nodi hefyd fod ffynonellau allanol wedi tynnu sylw at ostyngiad yn lefelau ymddiriedaeth yn y llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. (footnote 3) Mae’n bosib bod y digwyddiadau a’r amgylchiadau hyn, neu rai ohonynt, wedi effeithio ar yr ymatebion a gasglwyd yn ystod gwaith maes Cylch 10.
Dehongli’r canfyddiadau
I dynnu sylw at y prif wahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaethau absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p <0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os tybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. Mae seren sengl yn nodi nad yw’r gwerth yn cael ei adrodd gan fod maint y sylfaen yn is na 100 ac, o ganlyniad, efallai nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth (*).
Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r fath ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymateb).
- Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
-
Yn yr Alban, y swyddfa anweinidogol, Safonau Bwyd yr Alban, sy’n gyfrifol am wella maeth, sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, a sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod beth maen nhw’n ei fwyta.
-
Gweler yma am ymchwil a chyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan FSS
-
Gweler Edelman Trust Institute (2024), Mynegai Cywirdeb Ipsos (2023 a 2024) ac arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (2024)