Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Prif Ganfyddiadau

Bwyd a Chi 2, Cylch 10 - Pennod 5: Bwyta Gartref

Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymddygiadau ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd, gan gynnwys glanhau, golchi dwylo, coginio, oeri, labeli dyddiad a chroeshalogi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026

Cyflwyniad

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel. Mae’r ASB hefyd yn rhoi canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref.

Mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu hymddygiadau mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys gwybodaeth a’u hymddygiadau mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd, sef: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.

Mae yna ddwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’; y modiwl craidd sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o’r prif gwestiynau sy’n cael eu trafod yn flynyddol, a’r modiwl ‘archwiliad dwfn’ sy’n cynnwys cwestiynau ychwanegol ac sy’n cael ei anfon bob 2 flynedd. Mae'r bennod hon yn adrodd ar gwestiynau o'r modiwl craidd 'Bwyta gartref'. (footnote 1)

Glanhau

Golchi dwylio yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn paratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl trin bwyd amrwd, a chyn paratoi bwyd parod i’w fwyta.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (70%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd, a nododd 29% o’r ymatebwyr eu bod y gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, tra dywedodd 1% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn. (footnote 2)

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (92%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd, a dywedodd 7% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd llai na 1% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn. (footnote 3)

Dywedodd tua pedwar o bob deg o’r ymatebwyr (44%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta, dywedodd 52% o ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 3% nad ydyn nhw byth yn golchi eu dwylo cyn bwyta. (footnote 4)

Golchi dwylio wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio dwylo (sanitising gel) neu weips cyn bwyta pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd tua chwech o bob deg (62%) o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser yn golchi eu dwylo, neu’n defnyddio gel neu weips diheintio dwylo, pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref, roedd 29% yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu’n llai aml, ac nid oedd 8% byth yn gwneud hyn. (footnote 5)

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar oeri bwyd yn gywir i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu.

Ydy’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd yr oergell ac, os ydynt, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir y tu mewn i oergell, dywedodd 60% o’r ymatebwyr sydd ag oergell y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd un rhan o bump (19%) o’r ymatebwyr y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd, dywedodd 5% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd, ac nid oedd 16% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell. (footnote 6)

O’r ymatebwyr hynny oedd ag oergell, dywedodd chwech o bob deg eu bod yn monitro’r tymheredd (60%); naill ai â llaw (49%) neu drwy ddefnyddio larwm tymheredd mewnol (11%). (footnote 7)

O’r ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell â llaw (hynny yw nad ydynt yn dibynnu ar larwm oergell), dywedodd 49% eu bod yn gwirio’r oergell unwaith yr wythnos neu’n amlach, fel yr argymhellir gan yr ASB. (footnote 8)

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nad yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (80%) eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd. Fodd bynnag, dywedodd 19% nad ydyn nhw bob amser yn gwneud hyn. (footnote 9)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml y maent yn bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r suddion yn binc. (footnote 10) O’r rheiny sy’n bwyta cyw iâr neu dwrci, dywedodd tua naw o bob deg (89%) nad ydynt byth yn bwyta cyw iâr na thwrci pan fydd yn binc neu pan fydd y suddion yn binc. Fodd bynnag, nododd 9% o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta cyw iâr neu dwrci o leiaf yn achlysurol pan fydd yn binc neu pan fydd y suddion yn binc. (footnote 11)

Ailgynhesu

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (55%), a’r dulliau lleiaf cyffredin oedd defnyddio thermomedr neu brôb (15%) neu roi llaw dros y bwyd neu gyffwrdd ag ef (13%) (Ffigur 21). (footnote 12)

Mae’r ASB yn argymell ailgynhesu bwyd unwaith yn unig. Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (81%). Byddai 10% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a byddai 3% yn ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith. (footnote 13)

Ffigur 21. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta.

Ffigur 21. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta.
Y dull a ddefnyddir Canran yr ymatebwyr (%)
Rhoi llaw dros y bwyd / yn ei gyffwrdd 13
Defnyddio thermomedr/prôb 15
Blasu'r bwyd 27
Gwirio (check) ei fod yr un tymheredd ym mhob rhan o’r bwyd 30
Defnyddio amserydd 34
Troi'r bwyd 35
Gweld stêm yn dod ohono 36
Gweld ei fod yn ffrwtian 37
Dilyn y cyfarwyddiadau ar y label 46
Gweld a yw’r canol yn boeth 55

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10

Bwyd dros ben

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar sut i storio bwyd dros ben. Mae’r ASB yn argymell bod pobl yn bwyta bwyd dros ben o fewn dau ddiwrnod neu’n ei rewi. Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba mor hir y byddent yn cadw bwyd dros ben yn yr oergell. Dywedodd tua chwech o bob deg (63%) o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn deuddydd, dywedodd 28% o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn 3-5 diwrnod, a dywedodd 2% y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu fwy. (footnote 14)

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai pobl olchi cig na dofednod amrwd. Wrth olchi cig amrwd, gellir lledaenu bacteria niweidiol ar eich dwylo, eich dillad, eich offer a’ch arwynebau gwaith.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi cyw iâr amrwd. (footnote 15)Dywedodd tua chwech o bob deg (58%) o’r ymatebwyr nad ydyn nhw byth yn golchi cyw iâr amrwd. Fodd bynnag, dywedodd 39% o’r ymatebwyr eu bod nhw’n gwneud hyn yn achlysurol o leiaf. (footnote 16)

Sut a ble mae’r ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (71%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (50%). Dywedodd tua pedwar o bob deg o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio (41%) a’u bod yn gorchuddio cig a dofednod amrwd â ffilm/ffoil (35%), gydag 13% o’r ymatebwyr yn cadw’r cynnyrch ar blât. (footnote 17)

Dywedodd y rhan fwyaf (62%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ble bynnag y mae lle yn yr oergell, dywedodd 12% eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell, a dywedodd 7% eu bod yn eu storio yn rhan uchaf yr oergell. (footnote 18)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd. 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Nododd oddeutu dwy ran o dair (64%) o’r ymatebwyr yn gywir mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Fodd bynnag, dywedodd rhai o’r ymatebwyr (11%) mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. (footnote 19)

Dywedodd tua dwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn coginio neu baratoi bwyd. Yn ogystal, nododd 32% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 1% o’r ymatebwyr nad oeddent byth yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. (footnote 20)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. (footnote 21) Dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (73%), na physgod eraill (65%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai tua hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (53%) na physgod mwg (50%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Salad mewn bagiau (70%) a chaws (70%) oedd y bwydydd yr oedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn eu bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua chwech o bob deg o’r ymatebwyr yn bwyta iogwrt (63%), llaeth (59%) a chigoedd wedi’u coginio (59%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 22). (footnote 22)

Ffigur 22. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.

Ffigur 22. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.
Math o fwyd 7+ diwrnod 3-6 diwrnod 1-2 diwrnod Byth
Pysgod Cregyn 1 2 22 73
Unrhyw bysgod eraill 4 28 65
Cig amrwd fel cig eidion, cig oen neu borc neu ddofednod amrwd 1 7 37 53
Pysgod mwg 2 13 32 50
Llaeth 1 17 40 38
Cigoedd wedi'u coginio 1 17 41 39
Iogwrt 5 23 35 35
Salad mewn bagiau 2 23 45 27
Caws 19 27 24 24

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10  

Newidiadau i arferion bwyta

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r newidiadau a wnaed gan yr ymatebwyr i’w harferion bwyta a siopa bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr, pa newidiadau, o restr o opsiynau, a wnaed ganddynt yn ystod y 12 mis blaenorol, os o gwbl. Y newidiadau mwyaf cyffredin a nodwyd gan yr ymatebwyr oedd bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (47%), dechrau bwyta mwy o ffrwythau a/neu lysiau (35%), a dechrau lleihau gwastraff bwyd (35%). Dywedodd tua un rhan o bump o’r ymatebwyr eu bod wedi dechrau prynu bwyd heb lawer o ddeunydd pecynnu neu ddim o gwbl (21%), wedi dechrau prynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol neu fwyd sydd yn ei dymor (21%), a’u bod wedi bwyta llai o gig, dofednod, neu bysgod (20%). Fodd bynnag, dywedodd 3% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrwyd a dywedodd 21% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a oeddent wedi gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrwyd yn y 12 mis blaenorol (Ffigur 23). (footnote 23)

Newidiadau i arferion bwyta ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd

Ffigur 23. Newidiadau a wnaed gan ymatebwyr yn ystod y 12 mis blaenorol

Ffigur 23. Newidiadau a wnaed gan ymatebwyr yn ystod y 12 mis blaenorol
Newidiadau a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol Canran yr ymatebwyr (%)
Stopped eating meat or poultry or fish completely 2
Started buying foods that have been produced with minimal water usage and / or minimal deforestation 4
Started buying foods grown organically 8
Started buying animal products with high welfare standards 9
Ddim yn gwybod 21
Dim un o'r rhain 3
Wedi rhoi’r gorau i fwyta cig, dofednod neu bysgod 3
Wedi cael bwyd o ardal sbwriel/bin 3
Prynu bwydydd gyda'r defnydd lleiaf o ddŵr/datgoedwigo 5
Prynu pysgod o ffynonellau cynaliadwy 9
Prynu cynhyrchion masnach deg 10
Dechrau tyfu ffrwythau/llysiau 11
Prynu bwydydd sydd wedi’u tyfu’n organig 12
Prynu cynhyrchion anifeiliaid â safonau lles uchel 13
Bwyta/yfed llai o gynhyrchion llaeth 13
Bwyta llai o gig, dofednod neu bysgod 20
Prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol/bwyd yn ei dymor 21
Prynu bwyd heb lawer o ddeunydd pecynnu/dim o gwbl 21
Bwyta mwy o ffrwythau/llysiau 35
Lleihau gwastraff bwyd 35
Bwyta llai o fwyd wedi'i brosesu 47

Lawrlwytho’r siart hon

(footnote 24)

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10