Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Prif Ganfyddiadau

Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Pennod 1 – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd. 

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 94% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 86% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (footnote 1)

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • NS-SEC (footnote 2): roedd yr ymatebwyr sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (82%) yn llai tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â phob math arall o gyflogaeth (er enghraifft, 96% o’r rhai mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol, a 93% o’r rhai mewn galwedigaethau canolradd).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta (95%) o gymharu â’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (84%).

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr heb blant dan 6 oed yn eu cartref (88%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod labeli bwyd yn gywir na’r rhai â phlant dan 6 oed (79%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 91% o’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000 o gymharu â 81% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (77%) yn llai tebygol o fod yn hyderus bod labeli bwyd yn gywir o gymharu â phob math arall o gyflogaeth (er enghraifft, 88% o’r rhai mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol, ac 88% o’r rhai mewn galwedigaethau canolradd).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 89% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 77% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn). 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (87%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu  â’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (77%).

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd 

Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (77%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd (footnote 3).

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 55 a 64 oed (81%) a 65 a 74 oed (82%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r rheiny rhwng 25 a 34 oed (70%).
  • Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr heb blant dan 6 oed yn y cartref (78%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr hynny â phlant dan 6 oed yn y cartref (68%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (79%), Swydd Efrog a’r Humber (79%), De-ddwyrain Lloegr (80%), De-orllewin Lloegr (80%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (80%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny yn Llundain (69%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (79%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (69%) (footnote 4)

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Ymwybyddiaeth o’r ASB

Roedd y rhan fwyaf (92%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB (footnote 5).

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol na’r ymatebwyr iau o fod wedi clywed am yr ASB (er enghraifft, roedd 98% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi clywed am yr ASB o gymharu â 80% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed, ac 87% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm rhwng £32,000 a £63,999 (95%), £64,000 a £95,999 (96%) a mwy na £96,000 (96%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 (86%).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 92% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (69%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (95%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (75%) (footnote 6).  
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (74%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (77%).

Gwybodaeth am yr ASB

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 8% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 50% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim byd amdani; dywedodd 5% nad oedden nhw wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2; a dywedodd 5% nad oedden nhw erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1) (footnote 7).
 

Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Disgrifiad;Canran yr ymatebwyr (%)
Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB;6
Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn";5
Rwy wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani
;32
Rwy’n gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith;51
Rwy’n gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith;6

Lawrlwytho’r siart hon


Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10

Ymddiriedaeth a hyder yn yr ASB

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau roedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.  Dywedodd y rhan fwyaf (78%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 19% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall i wneud ei gwaith, a dywedodd 1% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith (footnote 8).

Dywedodd y rhan fwyaf (83%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd wyth o bob deg (81%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd, ac roedd dros dri chwarter (77%) yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (footnote 9)

Pryderon ynghylch bwyd y tu mewn a’r tu allan i’r DU

Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o fynegi pryderon (footnote 10) ynghylch diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (footnote 11) (65%) o gymharu â bwyd a gynhyrchir yn y DU (38%). Yn yr un modd, roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch bwyd o’r tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label (64%) o gymharu â bwyd a gynhyrchir yn y DU (38%) (Ffigur 2).

Ffigur 2. Lefel y pryder ynghylch bwyd a gynhyrchir y tu mewn a’r tu allan i’r DU.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pwnc yn ymwneud â bwyd Ddim yn bryderus o gwbl Ddim yn bryderus iawn Ychydig yn bryderus Yn bryderus iawn
Mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 15 42 26 12
Mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn ddiogel ac yn hylan 15 43 27 11
Mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 4 26 43 21
Mae bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn ddiogel ac yn hylan 4 25 46 19

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10

Roedd lefel y pryder am ddiogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i'r DU yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr 45 oed neu hŷn yn fwy tebygol o fynegi pryderon am ddiogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, nododd 53% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed bryder o gymharu â 70% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed, a 75% o’r ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed.
  • Maint y cartref: roedd y rhai sy’n byw mewn cartrefi llai yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai mewn cartrefi mwy. Er enghraifft, nododd 75% o’r ymatebwyr mewn cartrefi un person bryder o gymharu â 57% mewn cartrefi â phump o bobl neu fwy.
  • Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi heb blant o dan 16 oed (68%) yn fwy tebygol o fynegi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â chartrefi â phlant o dan 16 oed (58%).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (68%), galwedigaethau canolradd (69%) a galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (67%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydyn nhw erioed wedi gweithio (48%), a myfyrwyr llawn amser (51%).
  • Ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig (74%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai sy'n byw mewn ardaloedd trefol (63%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n coginio (49%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa am fwyd (67%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n siopa am fwyd (46%).

Roedd lefel y pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, roedd 76% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed a 77% o’r rhai dros 75 oed yn poeni a oedd bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â 54% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed a 59% rhwng 35 a 44 oed.
  • Maint y cartref: roedd cartrefi llai yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â chartrefi mwy. Er enghraifft, nododd 73% o’r ymatebwyr mewn cartrefi un person bryder o gymharu â 63% o’r ymatebwyr mewn cartrefi â phedwar o bobl, a 50% mewn cartrefi â phump o bobl neu fwy.
  • Plant: roedd cartrefi heb blant o dan 6 oed (66%) a heb blant o dan 16 oed (67%) yn fwy tebygol o nodi pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â chartrefi â phlant o dan 6 oed (53%) a dan 16 oed (57%).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (66%), y rhai mewn galwedigaethau canolradd (66%), cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain (66%) a’r rhai mewn galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (65%) yn fwy tebygol o nodi pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (49%).
  • Rhanbarth (Lloegr) : mae lefelau pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label yn amrywio yn ôl rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr sy’n byw yn y De-orllewin (71%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy'n byw mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr, gan gynnwys y Gogledd-ddwyrain (56%), y Gogledd-orllewin (60%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (57%). 
  • Ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig: roedd yr ymatebwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (74%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol (62%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n coginio (45%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n siopa am fwyd (44%).