Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Pennod 1 – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Cyflwyniad
Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.
Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 94% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 86% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (footnote 1).
Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- NS-SEC (footnote 2): roedd yr ymatebwyr sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (82%) yn llai tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â phob math arall o gyflogaeth (er enghraifft, 96% o’r rhai mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol, a 93% o’r rhai mewn galwedigaethau canolradd).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta (95%) o gymharu â’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (84%).
Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr heb blant dan 6 oed yn eu cartref (88%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod labeli bwyd yn gywir na’r rhai â phlant dan 6 oed (79%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 91% o’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000 o gymharu â 81% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (77%) yn llai tebygol o fod yn hyderus bod labeli bwyd yn gywir o gymharu â phob math arall o gyflogaeth (er enghraifft, 88% o’r rhai mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol, ac 88% o’r rhai mewn galwedigaethau canolradd).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 89% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 77% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
- Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (87%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (77%).
Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (77%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd (footnote 3).
Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 55 a 64 oed (81%) a 65 a 74 oed (82%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r rheiny rhwng 25 a 34 oed (70%).
- Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr heb blant dan 6 oed yn y cartref (78%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr hynny â phlant dan 6 oed yn y cartref (68%).
- Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (79%), Swydd Efrog a’r Humber (79%), De-ddwyrain Lloegr (80%), De-orllewin Lloegr (80%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (80%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny yn Llundain (69%).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (79%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (69%) (footnote 4).
Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi
Ymwybyddiaeth o’r ASB
Roedd y rhan fwyaf (92%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB (footnote 5).
Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol na’r ymatebwyr iau o fod wedi clywed am yr ASB (er enghraifft, roedd 98% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi clywed am yr ASB o gymharu â 80% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed, ac 87% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm rhwng £32,000 a £63,999 (95%), £64,000 a £95,999 (96%) a mwy na £96,000 (96%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 (86%).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 92% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (69%).
- Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (95%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (75%) (footnote 6).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (74%).
- Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (77%).
Gwybodaeth am yr ASB
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 8% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 50% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim byd amdani; dywedodd 5% nad oedden nhw wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2; a dywedodd 5% nad oedden nhw erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1) (footnote 7).
Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10
Ymddiriedaeth a hyder yn yr ASB
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau roedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd y rhan fwyaf (78%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 19% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall i wneud ei gwaith, a dywedodd 1% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith (footnote 8).
Dywedodd y rhan fwyaf (83%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd wyth o bob deg (81%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd, ac roedd dros dri chwarter (77%) yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (footnote 9).
Pryderon ynghylch bwyd y tu mewn a’r tu allan i’r DU
Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o fynegi pryderon (footnote 10) ynghylch diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (footnote 11) (65%) o gymharu â bwyd a gynhyrchir yn y DU (38%). Yn yr un modd, roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch bwyd o’r tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label (64%) o gymharu â bwyd a gynhyrchir yn y DU (38%) (Ffigur 2).
Ffigur 2. Lefel y pryder ynghylch bwyd a gynhyrchir y tu mewn a’r tu allan i’r DU.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10
Roedd lefel y pryder am ddiogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i'r DU yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr 45 oed neu hŷn yn fwy tebygol o fynegi pryderon am ddiogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, nododd 53% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed bryder o gymharu â 70% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed, a 75% o’r ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed.
- Maint y cartref: roedd y rhai sy’n byw mewn cartrefi llai yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai mewn cartrefi mwy. Er enghraifft, nododd 75% o’r ymatebwyr mewn cartrefi un person bryder o gymharu â 57% mewn cartrefi â phump o bobl neu fwy.
- Plant yn y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi heb blant o dan 16 oed (68%) yn fwy tebygol o fynegi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â chartrefi â phlant o dan 16 oed (58%).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (68%), galwedigaethau canolradd (69%) a galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (67%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydyn nhw erioed wedi gweithio (48%), a myfyrwyr llawn amser (51%).
- Ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig (74%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai sy'n byw mewn ardaloedd trefol (63%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n coginio (49%).
- Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa am fwyd (67%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n siopa am fwyd (46%).
Roedd lefel y pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, roedd 76% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed a 77% o’r rhai dros 75 oed yn poeni a oedd bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â 54% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed a 59% rhwng 35 a 44 oed.
- Maint y cartref: roedd cartrefi llai yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â chartrefi mwy. Er enghraifft, nododd 73% o’r ymatebwyr mewn cartrefi un person bryder o gymharu â 63% o’r ymatebwyr mewn cartrefi â phedwar o bobl, a 50% mewn cartrefi â phump o bobl neu fwy.
- Plant: roedd cartrefi heb blant o dan 6 oed (66%) a heb blant o dan 16 oed (67%) yn fwy tebygol o nodi pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â chartrefi â phlant o dan 6 oed (53%) a dan 16 oed (57%).
- NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (66%), y rhai mewn galwedigaethau canolradd (66%), cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain (66%) a’r rhai mewn galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus ac ailadroddus (65%) yn fwy tebygol o nodi pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir neu nad ydynt erioed wedi gweithio (49%).
- Rhanbarth (Lloegr) : mae lefelau pryder ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label yn amrywio yn ôl rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr sy’n byw yn y De-orllewin (71%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy'n byw mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr, gan gynnwys y Gogledd-ddwyrain (56%), y Gogledd-orllewin (60%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (57%).
- Ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig: roedd yr ymatebwyr sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (74%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol (62%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n coginio (45%).
- Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (66%) yn fwy tebygol o nodi pryderon ynghylch a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw’n siopa am fwyd (44%).
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi… a) bod y bwyd rydych chi’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta, b) bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (er enghraifft, cynhwysion, gwybodaeth am faeth, gwlad tarddiad)? Ymatebion: Yn hyderus iawn, Yn eithaf hyderus, Ddim yn hyderus iawn, Ddim yn hyderus o gwbl, Mae’n amrywio, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 5690, pawb a ymatebodd.
-
System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
-
Cwestiwn: Pa mor hyderus ydych chi yn y gadwyn cyflenwi bwyd? Hynny yw, yr holl brosesau sy’n gysylltiedig â dod â bwyd at eich bwrdd. Ymatebion: Yn hyderus iawn, Yn eithaf hyderus, Ddim yn hyderus iawn, Ddim yn hyderus o gwbl, Mae’n amrywio, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 5690, pawb a ymatebodd.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Pa rai o’r cyrff canlynol, os unrhyw rai, ydych chi wedi clywed amdanynt? Dewiswch bob un sy’n berthnasol. Ymatebion: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), (Lloegr) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), (Lloegr) Y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, (Lloegr) Asiantaeth yr Amgylchedd, (Lloegr) Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, (Cymru a Lloegr) Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), (Cymru) Iechyd Cyhoeddus Cymru, (Cymru) Cyfoeth Naturiol Cymru, (Gogledd Iwerddon) Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (PHA), (Gogledd Iwerddon) Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA), (Gogledd Iwerddon) Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI), (Gogledd Iwerddon) Safefood, Dim un o’r rhain. Sylfaen = 3926; pawb a ymatebodd ar-lein. Nodwch: roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg a oedd yn sôn am yr ASB. Mae diffyg ymateb yn dangos nad oedd yr ymatebydd wedi clywed am y sefydliad neu nad oedd wedi ateb y cwestiwn.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Faint, os o gwbl, ydych chi’n ei wybod am yr Asiantaeth Safonau Bwyd, y cyfeirir ati hefyd fel yr ASB? Ymatebion: Rwy’n gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith, Rwy’n gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith, Rwy wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani, Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB. Sylfaen = 5690, pawb a ymatebodd. Nodwch: roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg a oedd yn sôn am yr ASB.
-
Cwestiwn: I ba raddau rydych chi’n ymddiried yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wneud ei gwaith? Hynny yw, sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Ymatebion: Rwy’n ymddiried ynddi’n fawr, Rwy’n ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi, Dydw i ddim yn ymddiried ynddi o gwbl, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3477; yr holl ymatebwyr a oedd yn gwybod llawer neu ychydig am yr ASB a’i gwaith. Nodwch: mae’r atebion ‘Rwy’n ymddiried ynddi’n fawr’ ac ‘Rwy’n ymddiried ynddi’ yn cyfrif fel ‘ymddiriedaeth’.
-
Cwestiwn: Wrth feddwl am yr Asiantaeth Safonau Bwyd / yr asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, pa mor hyderus ydych chi...a) y gellir dibynnu arni i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd); b) ei bod wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd; c) ei bod yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd? Ymatebion: yn hyderus iawn, yn weddol hyderus, ddim yn hyderus iawn, ddim yn hyderus o gwbl, ddim yn gwybod. Sylfaen = 5690, pawb a ymatebodd. Sylwer: mae’r atebion ‘yn hyderus iawn’ ac ‘yn weddol hyderus’ yn cyfrif fel ‘hyderus’. O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gwybod ychydig neu ddim byd am yr ASB, gofynnwyd iddyn nhw am ‘yr asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd’; o ran y rheiny a oedd yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB, gofynnwyd iddyn nhw am yr ASB.
-
Naill ai’n bryderus iawn neu ychydig yn bryderus
-
Gofynnwyd i’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon am y DU ac Iwerddon