Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Pennod 3: Bwyta allan a bwyd tecawê
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Cyflwyniad
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Fel arfer, rhoddir sgoriau i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, a faniau a stondinau bwyd.
Mae’r ASB yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, a hynny er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod safonau hylendid yn dda iawn, ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr o dan y Cynllun. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith (footnote 1). Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB.
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Amlder bwyta allan ac archebu bwyd tecawê
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ble roeddent wedi bwyta bwyd yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Y math mwyaf cyffredin o sefydliad yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo oedd bwyty (59%) neu gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i fwyta ar y safle neu i fynd â bwyd oddi ar y safle) (59%). Roedd dros bedwar o bob deg person wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty (46%), neu mewn tafarn neu far (45%), tra bod 38% wedi bwyta bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd); ac roedd 31% wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Nid oedd bron i un o bob deg (8%) o’r ymatebwyr wedi bwyta yn unrhyw un o’r busnesau bwyd a restrwyd yn ystod y 9 wythnos flaenorol (Ffigur 10) (footnote 2).
Ffigur 9. Math o fusnes bwyd yr oedd yr ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10
Bwyta allan a bwyd tecawê yn ôl pryd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i frecwast, cinio a swper. Roedd ymatebwyr yn lleiaf tebygol o fwyta allan neu brynu tecawê i frecwast, gyda 43% o’r ymatebwyr erioed yn gwneud hyn. Dywedodd tua thri o bob deg (29%) o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i ginio unwaith yr wythnos neu’n amlach. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fwyta allan neu brynu bwyd tecawê i swper, gyda 63% yn gwneud hyn 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml a 25% yn gwneud hyn tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (Ffigur 10) (footnote 3).
Ffigur 10. Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10
Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan
Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan mewn bwytai, tafarndai, bariau, caffis, siopau coffi neu siopau brechdanau. Roedd y rheiny sy’n bwyta allan yn fwyaf tebygol o ystyried ansawdd y bwyd (81%) a’u profiad blaenorol o’r lle (77%) wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd tua pedwar o bob deg (41%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 11) (footnote 4).
Ffigur 11. Ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan.
Lawrlwytho’r siart hon
Y ffactorau a ystyrir wrth archebu bwyd tecawê
Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 5) Roedd y rheiny a oedd yn archebu bwyd tecawê yn fwyaf tebygol o ystyried eu profiad blaenorol o’r siop tecawê (77%) ac ansawdd y bwyd (70%) wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. Roedd tua thraen (35%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 12). (footnote 6)
Ffigur 12. Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê.
Lawrlwytho’r siart hon
Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Dywedodd tua chwech o bob deg (62%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am y CSHB a bod ganddyn nhw o leiaf ychydig o wybodaeth amdano. (footnote 7) (footnote 8)
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (89%), Cymru (94%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Ffigur 15).
Roedd ymatebwyr yng Nghymru (73%) a Gogledd Iwerddon (66%)** yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (61%).
Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 91% ohonyn nhw eu bod nhw wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn uwch yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (95%) nag yn Lloegr (91%)**. (footnote 9)
Ffigur 13. Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad.
Lawrlwytho’r siart hon
Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua phedwar o bob deg (44%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol. (footnote 10)
Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (43%) a Gogledd Iwerddon (49%)**.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf pa fathau o fusnesau bwyd yr oeddent wedi’u gwirio. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau bwyd yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr bwyd oedd bwytai (73%) a siopau bwyd tecawê (69%). Roedd yr ymatebwyr yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd (9%), stondinau marchnad/bwyd stryd (8%), neu ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill (8%) (Ffigur 14). (footnote 11)
Ffigur 14. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Lawrlwytho’r siart hon
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol arddangos sgoriau’r CSHB yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016.
-
Cwestiwn: Yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf, ydych chi wedi bwyta bwyd o’r canlynol….? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol) Ymatebion : Wedi archebu bwyd tecawê yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty; O gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd); Wedi archebu bwyd tecawê trwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats); O safle bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd); Mewn bwyty; Mewn tafarn/bar; O ffreutur (er enghraifft, yn y gwaith, yr ysgol, y brifysgol, neu’r ysbyty); O fan bwyd symudol neu stondin fwyd; Mewn gwesty, safle Gwely a Brecwast, neu lety; O leoliad adloniant (er enghraifft, sinema, ale fowlio, clwb chwaraeon); Trwy ap rhannu bwyd (er enghraifft, Olio neu Too Good To Go); O Facebook Marketplace (er enghraifft, bwyd neu brydau wedi’u paratoi ymlaen llaw); Dim un o’r rhain. Sylfaen = 5690, pawb a ymatebodd. Sylwer, nid yw’r canrannau a ddangosir yn dod i gyfanswm o 100% gan y gellid dewis ymatebion lluosog.
-
Cwestiwn: Ar hyn o bryd, pa mor aml, os o gwbl, ydych chi'n bwyta allan neu'n prynu bwyd tecawê ar gyfer...? A) Brecwast, B) Cinio, C) Swper/te. Ymatebion : Sawl gwaith yr wythnos, Tua unwaith yr wythnos, Tua 2-3 gwaith y mis, Tuag unwaith y mis, Llai nag unwaith y mis, Byth, Methu cofio. Sylfaen = 3926; pawb a ymatebodd ar-lein.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n bwyta allan, beth byddwch chi’n ei ystyried pan fyddwch chi’n penderfynu ble i fynd? Meddyliwch am fwyta allan mewn bwytai, tafarndai/bariau, a chaffis/siopau coffi/siopau brechdanau. Ymatebion : Ansawdd y bwyd, Fy mhrofiad blaenorol o’r lle, Pris, Lleoliad, Argymhellion teulu neu ffrindiau, Glendid y lle, Ansawdd y gwasanaeth, Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan), Awyrgylch y lle, Y Sgôr Hylendid Bwyd, A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael, Adolygiadau, er enghraifft, ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newyddion neu gylchgronau, A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn, A oes dewisiadau iachach ar gael, A yw’r lle’n croesawu plant, A oes gwybodaeth am alergenau ar gael, A oes gwybodaeth am galorïau ar gael, Dim o’r rhain, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3812, pawb a ymatebodd ar-lein ac eithrio’r rhai nad ydynt yn bwyta allan.
-
Mae hyn yn cynnwys bwyd tecawê a archebir yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty, neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, wrth archebu bwyd o siopau tecawê (naill ai'n uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein fel Just Eat, Uber Eats neu Deliveroo) beth ydych chi'n ei ystyried wrth benderfynu o ble i archebu? Ymatebion : Fy mhrofiad blaenorol o’r siop tecawê, Ansawdd y bwyd, Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd), Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan), Argymhellion teulu neu ffrindiau, Y Sgôr Hylendid Bwyd, Lleoliad y siop tecawê, A oes dewisiadau dosbarthu neu gasglu ar gael, A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael, Yr amseroedd danfon/casglu, A oes modd archebu’r bwyd ar-lein er enghraifft, drwy wefan neu ap, Adolygiadau er enghraifft, ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd neu gylchgronau, A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn, A oes dewisiadau iachach ar gael, A oes gwybodaeth am alergenau ar gael, A oes gwybodaeth am galorïau ar gael, Dim o’r rhain, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3325, pawb a ymatebodd ar-lein ac eithrio’r rhai nad ydynt yn archebu bwyd tecawê.
-
Cwestiwn: Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, Nac ydw, dydw i erioed wedi clywed amdano. Sylfaen = 4804, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
-
Mae ymatebion i gwestiynau eraill ar y Cynllun Sgorio nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Bydd adroddiad manylach ar y Cynllun Sgorio yn cael ei gyhoeddi ar wahân.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi gweld y sticer hwn o’r blaen? Ymatebion: Ydw, Nac ydw, Ddim yn gwybod/Ddim yn siŵr. Sylfaen = 4804, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r busnesau bwyd canlynol ydych chi wedi gwirio’r sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn siopau tecawê, Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai a safleoedd gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn siopau bwyd eraill, Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gwneuthurwyr (masnachwyr busnes-fusnes), Rhywle arall, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 2309, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a lenwodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r busnesau bwyd canlynol ydych chi wedi gwirio’r sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn siopau tecawê, Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai a safleoedd gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn siopau bwyd eraill, Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gwneuthurwyr (masnachwyr busnes-fusnes), Rhywle arall, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 2309, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a lenwodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.