Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Prif Ganfyddiadau

Bwyd a Chi 2, Cylch 10: Pennod 3: Bwyta allan a bwyd tecawê

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2026

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Fel arfer, rhoddir sgoriau i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, a faniau a stondinau bwyd.

Mae’r ASB yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, a hynny er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod safonau hylendid yn dda iawn, ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.

Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr o dan y Cynllun. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith (footnote 1). Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB.

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Amlder bwyta allan ac archebu bwyd tecawê 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ble roeddent wedi bwyta bwyd yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Y math mwyaf cyffredin o sefydliad yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo oedd bwyty (59%) neu gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i fwyta ar y safle neu i fynd â bwyd oddi ar y safle) (59%). Roedd dros bedwar o bob deg person wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty (46%), neu mewn tafarn neu far (45%), tra bod 38% wedi bwyta bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd); ac roedd 31% wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Nid oedd bron i un o bob deg (8%) o’r ymatebwyr wedi bwyta yn unrhyw un o’r busnesau bwyd a restrwyd yn ystod y 9 wythnos flaenorol (Ffigur 10) (footnote 2)

Ffigur 9. Math o fusnes bwyd yr oedd yr ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Dim un o’r rhain 8
Facebook Marketplace 1
Ap rhannu bwyd 6
Lleoliad adloniant 10
Fan bwyd symudol neu stondin fwyd 10
Mewn gwesty, safle Gwely a Brecwast, neu lety 16
Ffreutur 16
Bwyd tecawê trwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein 31
Safle bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd); 38
Tafarn neu far 45
Bwyd tecawê yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty 46
Caffi / siop goffi / siop frechdanau 59
Bwyty 59

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10 

Bwyta allan a bwyd tecawê yn ôl pryd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i frecwast, cinio a swper. Roedd ymatebwyr yn lleiaf tebygol o fwyta allan neu brynu tecawê i frecwast, gyda 43% o’r ymatebwyr erioed yn gwneud hyn. Dywedodd tua thri o bob deg (29%) o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i ginio unwaith yr wythnos neu’n amlach. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fwyta allan neu brynu bwyd tecawê i swper, gyda 63% yn gwneud hyn 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml a 25% yn gwneud hyn tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (Ffigur 10) (footnote 3).

Ffigur 10. Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pryd Tua unwaith yr wythnos neu'n amlach 2-3 gwaith y mis neu'n llai aml). Byth
Brecwast 14 41 43
Cinio 29 54 15
Swper 25 63 11

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 10

Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan 

Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan mewn bwytai, tafarndai, bariau, caffis, siopau coffi neu siopau brechdanau. Roedd y rheiny sy’n bwyta allan yn fwyaf tebygol o ystyried ansawdd y bwyd (81%) a’u profiad blaenorol o’r lle (77%) wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd tua pedwar o bob deg (41%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 11) (footnote 4).

Ffigur 11. Ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Ffactorau a ystyrir Canran yr ymatebwyr (%)
A oes gwybodaeth am galorïau ar gael 5
A oes gwybodaeth am alergenau ar gael 9
A yw’r lle’n croesawu plant 13
A oes dewisiadau iachach ar gael 18
A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn 20
Adolygiadau 37
A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael 40
Y Sgôr Hylendid Bwyd 41
Awyrgylch 47
Y math o fwyd 51
Ansawdd y gwasanaeth 61
Argymhellion 64
Hylendid y lle 66
Lleoliad 66
Pris 70
Profiad blaenorol o’r lle 77
Ansawdd y bwyd 81

Lawrlwytho’r siart hon

Y ffactorau a ystyrir wrth archebu bwyd tecawê

Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 5) Roedd y rheiny a oedd yn archebu bwyd tecawê yn fwyaf tebygol o ystyried eu profiad blaenorol o’r siop tecawê (77%) ac ansawdd y bwyd (70%) wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. Roedd tua thraen (35%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 12). (footnote 6)

 

Ffigur 12. Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê.

Ffigur 12. Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê.
Ffactorau a ystyriwyd Canran yr ymatebwyr (%)
A ddarperir gwybodaeth am galorïau 3
A ddaperir gwybodaeth am alergenau 8
Yn annibynnol neu'n rhan o gadwyn 10
P'un a oes dewisiadau iachach ar gael 11
Dewis dosbarthu neu gasglu 24
Adolygiadau 30
P'un a yw’n bosib archebu bwyd ar-lein 31
Amseroedd dosbarthu/casglu 32
Sgôr Hylendid Bwyd 35
Cynigion arbennig neu mae disgownt ar gael 35
Lleoliad y siop tecawê 36
Math o fwyd 47
Argymhellion 49
Pris (gan gynnwys cost dosbarthu) 57
Ansawdd y bwyd 70
Profiad blaenorol o'r siop tecawê 77

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Dywedodd tua chwech o bob deg (62%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am y CSHB a bod ganddyn nhw o leiaf ychydig o wybodaeth amdano. (footnote 7)  (footnote 8)

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (89%), Cymru (94%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Ffigur 15).

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (73%) a Gogledd Iwerddon (66%)** yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (61%).

Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 91% ohonyn nhw eu bod nhw wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn uwch yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (95%) nag yn Lloegr (91%)**. (footnote 9)

Ffigur 13. Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad.

Ffigur 13. Canran o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad.
Gwlad Wedi clywed am y Cynllun Sgorio Erioed wedi clywed am y Cynllun Sgorio
Lloegr 89 11
Cymru 94 6
Gogledd Iwerddon 92 8

Lawrlwytho’r siart hon

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua phedwar o bob deg (44%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol. (footnote 10)

Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (43%) a Gogledd Iwerddon (49%)**.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf pa fathau o fusnesau bwyd yr oeddent wedi’u gwirio. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau bwyd yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr bwyd oedd  bwytai (73%) a siopau bwyd tecawê (69%). Roedd yr ymatebwyr yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd (9%), stondinau marchnad/bwyd stryd (8%), neu ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill (8%) (Ffigur 14). (footnote 11)

 

Ffigur 14. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ffigur 14. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Busnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Mewn siopau bwyd eraill 5
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 8
Ar stondinau marchnad/bwyd stryd 8
Mewn archfarchnadoedd 9
Mewn gwestai\gwely a brecwast 14
Mewn tafarndai 33
Mewn siopau coffi neu frechdanau 35
Mewn caffis 50
Mewn siopau tecawê 69
Mewn bwytai 73

Lawrlwytho’r siart hon