Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 7 – Technolegau genetig
Mae’r bennod hon yn crynhoi gwybodaeth yr ymatebwyr am dechnolegau genetig.
Cyflwyniad
Yr ASB sy’n gyfrifol am awdurdodi bwydydd newydd.
Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gylch gwaith eang ac mae’n chwarae rhan fawr wrth gynyddu cynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch y sectorau amaethyddiaeth, pysgota, bwyd a diod, gwella bioddiogelwch ar y ffin, a chodi safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, mae Defra yn goruchwylio’r gwaith o reoleiddio technolegau genetig fel organebau a addaswyd yn enetig (GMO), organebau sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) ac organebau wedi’u bridio’n fanwl. Yr ASB sy’n gyfrifol am awdurdodi bwydydd newydd.
Mae’r bennod hon yn crynhoi gwybodaeth yr ymatebwyr am dechnolegau genetig. (footnote 1)
Ymwybyddiaeth o fwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE), bwydydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) a bwydydd wedi’u bridio’n fanwl.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau a bwyd wedi’i fridio’n fanwl. Nododd yr ymatebwyr fod ganddyn nhw fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE) ac roedden nhw’n gwybod y lleiaf am fwyd wedi’i fridio’n fanwl. Er enghraifft, nid oedd 63% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl, (footnote 2) nid oedd 38% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE, (footnote 3) ac nid oedd 8% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM (footnote 4) (Ffigur 24).
Ffigur 24. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9
-
Mae mewnwelediadau manylach ar newidiadau i arferion bwyta defnyddwyr, dewisiadau amgen i gig a deietau cynaliadwy ar gael yn adroddiad Bwyd a Chi 2, Cylch 8.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl (precision bred)? Ymatebion: ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, na, dydw i erioed wedi clywed amdano, heb nodi. Sylfaen = 4634; pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a gwblhaodd fersiwn A o’r holiadur post.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi clywed am fwyd sydd wedi bod yn destun addasu genynnau (gene edited) neu olygu genomau (genome edited food)? Ymatebion: ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, na, dydw i erioed wedi clywed amdano, heb nodi. Sylfaen = 4634; pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a gwblhaodd fersiwn A o’r holiadur post.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi clywed am fwyd sydd wedi’i addasu’n enetig (bwyd GM)? Ymatebion: ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, na, dydw i erioed wedi clywed amdano, heb nodi. Sylfaen = 4634; pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a gwblhaodd fersiwn A o’r holiadur post.