Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 4 Key findings

Pennod 6: Bwyta gartref

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel.

Cyflwyniad 

Gan fod pobl yn gyfrifol am baratoi a storio bwyd yn ddiogel yn eu cartref, mae Bwyd a Chi 2 yn gofyn i ymatebwyr am eu hymddygiad mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys a yw bwydydd penodol yn cael eu bwyta, a gwybodaeth ac ymddygiad mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. Mae’r ASB yn darparu canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref. Mae Bwyd a Chi 2 hefyd yn gofyn i ymatebwyr pa mor aml y maent yn paratoi neu’n bwyta rhai mathau o fwyd. 

Cafodd dwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’ eu creu – fersiwn gryno sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o gwestiynau allweddol, a fersiwn lawn sy’n cynnwys yr holl gwestiynau perthnasol. Cafodd y modiwl cryno ‘Bwyta gartref’ ei gynnwys yn arolwg Cylch 4 ac adroddir arno yn y bennod hon(footnote).

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd, deiet, ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Glanhau

Golchi dwylo yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn iddynt baratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd, a chyn trin bwyd parod i’w fwyta. 

Dywedodd y mwyafrif (73%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd. Fodd bynnag, dywedodd 26% o’r ymatebwyr nad ydynt bob amser (hynny yw, ‘y rhan fwyaf o’r amser’ neu’n llai aml) yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd(footnote).

Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (91%) eu bod nhw bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd. Fodd bynnag, dywedodd 8% o’r ymatebwyr nad ydynt bob amser (hynny yw, ‘y rhan fwyaf o’r amser’ neu’n llai aml) yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd(footnote).

Golchi dwylo wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, yr oeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio (sanitising gel) dwylo neu weips cyn bwyta pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd tua hanner (46%) yr ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, yn defnyddio hylif diheintio dwylo neu weips pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Roedd 49% yn gwneud hyn yn llai aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) ac nid oedd 4% byth yn gwneud hyn(footnote)

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar sut i oeri bwyd yn iawn i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu.  

Yw’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd yr oergell ac, os felly, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir tu mewn i oergell, dywedodd 62% o’r ymatebwyr y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd bron i un o bob pump (19%) o’r ymatebwyr y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd; dywedodd 3% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd; ac nid oedd 16% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell(footnote)

Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd, naill ai â llaw (47%) neu drwy larwm tymheredd mewnol (10%)(footnote). O blith yr ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell, dywedodd 84% eu bod yn gwirio tymheredd eu hoergell o leiaf unwaith y mis, yn unol ag argymhelliad yr ASB(footnote).

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd.  Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nid yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir. 

Dywedodd y mwyafrif (79%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ond dywedodd 21% nad ydynt bob amser yn gwneud hyn(footnote)

Pan ofynnwyd i'r ymatebwyr nodi pa mor aml maent yn bwyta cyw iâr neu dwrci pan fydd y cig yn binc neu pan fydd y suddion yn binc(footnote), dywedodd y mwyafrif nad ydynt byth yn bwyta cig cyw iâr neu dwrci pan fydd y cig yn binc neu pan fydd y suddion yn binc. Fodd bynnag, nododd 7% o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta cyw iâr neu dwrci o leiaf yn achlysurol pan fydd yn binc(footnote).

Ailgynhesu

Ffigur 20: Sut mae ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta

Ffigur 20: Sut mae ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta
Dull a ddefnyddir Canran yr ymatebwyr (%)
Defnyddio chwiliedydd/thermomedr 9
Rhoi llaw drosto/ei gyffwrdd 14
Blasu 23
Gwirio bod y tymheredd yn gyson drwyddo 27
Troi 29
Defnyddio amserydd 29
Gweld stêm yn dod ohono 32
Gweld ei fod yn ffrwtian (bubbling) 34
Dilyn y cyfarwyddiadau ar y label 42
Gwirio bod y canol yn boeth 59

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (59%), a’r dull lleiaf cyffredin oedd defnyddio chwiliedydd neu thermomedr (9%), (Ffigur 20)(footnote).
 
Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (81%). Byddai 10% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a dim ond 3% fyddai’n ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith(footnote).

Bwyd dros ben

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba mor hir y byddent yn cadw bwyd dros ben yn yr oergell. Dywedodd bron i ddwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn 2 ddiwrnod; dywedodd tua chwarter (26%) yr ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn 3-5 diwrnod; a dim ond 2% a ddywedodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu hirach(footnote).   

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar sut i atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai ymatebwyr olchi cig amrwd. O olchi cig amrwd, gellir lledaenu bacteria niweidiol ar eich dwylo, eich dillad, eich offer a’ch arwynebau gwaith.

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (56%) nad ydynt byth yn golchi cyw iâr amrwd, tra bo 40% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod yn golchi cyw iâr amrwd o leiaf yn achlysurol (hynny yw, 63T ’yn achlysurol’ neu’n amlach)(footnote).  

Sut a ble mae ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i'w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (67%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (49%). Dywedodd traean o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd wedi’u gorchuddio â ffilm/ffoil (33%) neu mewn cynhwysydd wedi’i selio (34%), gyda llai yn cadw’r cynnyrch ar blât (13%)(footnote).

Dywedodd bron i ddwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 2 o bob 10 (20%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd lle bynnag y bo lle yn yr oergell; dywedodd 11% eu bod yn eu storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell; a dywedodd 5% eu bod yn storio yn rhan uchaf yr oergell(footnote).

Dyddiadau 'defnyddio erbyn' ac 'ar ei orau cyn'

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd.  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Dywedodd dros ddwy ran o dair (69%) o’r ymatebwyr taw y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy'n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i'w fwyta mwyach. Fodd bynnag, dywedodd 9% o’r ymatebwyr mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach(footnote).

Dywedodd tua dwy ran o dair (67%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddynt goginio neu baratoi bwyd, a dywedodd tua chwarter (23%) yr ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser. Dywedodd bron i 1 o bob 10 (8%) eu bod yn gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn llai aml (hynny yw, tua hanner yr amser neu’n achlysurol),  a dim ond 1% a ddywedodd nad ydynt byth yn gwirio dyddiadau defnyddio erbyn(footnote).

Ffigur 21: Mathau o fwyd yr oedd ymatebwyr wedi’u bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn y mis blaenorol

Ffigur 21: Mathau o fwyd yr oedd ymatebwyr wedi’u bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn y mis blaenorol
Canran yr ymatebwyr Pysgod cregyn Pysgod eraill Pysgod mwg
Heb fwyta bwyd tu hwnt i’w ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ 90 82 76
Wedi bwyta bwyd tu hwnt i’w ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ 5 9 14

Lawrlwytho’r siart hon

 Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd wedi bwyta bwydydd penodol yn ystod y mis diwethaf nodi a oeddent wedi bwyta’r bwyd hwnnw tu hwnt i’w ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. O’r ymatebwyr hyn, dywedodd y rhan fwyaf nad oeddent wedi bwyta pysgod cregyn (90%), pysgod eraill (82%), pysgod mwg (76%) neu gig amrwd (fel cig eidion, cig oen, porc neu ddofednod) (71%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn y mis blaenorol. , tra nad oedd dros hanner yr ymatebwyr wedi yfed llaeth (57%), bwyta cig wedi’i goginio (56%) nac iogwrt (53%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn y mis blaenorol. Roedd llai na hanner yr ymatebwyr wedi bwyta salad mewn bagiau (46%) neu gaws (42%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn y mis blaenorol (Ffigur 21)(footnote).

Ffigur 22: Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd

Ffigur 22. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.
Canran yr ymatebwyr Caws Salad mewn bag Iogwrt Cig wedi'i goginio Llaeth Pysgod mwg
Mwy nag 1 wythnos 17 1 5 1 1 2
5 - 6 diwrnod 12 4 6 3 4 4
3 - 4 diwrnod 16 19 13 12 12 8
1 - 2 ddiwrnod 25 45 36 40 37 31
Ddim wedi yfed/bwyta hyn ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ 26 28 38 42 44 53

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

 
Gofynnwyd i ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. O’r ymatebwyr hyn, dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (77%), na physgod eraill (68%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai dros hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (56%) na physgod mwg (53%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Pan fydd bwydydd yn cael eu bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, cânt eu bwyta fel arfer 1-2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio erbyn (er enghraifft, byddai 45% o’r ymatebwyr yn bwyta salad mewn bagiau 1-2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’). O’r bwydydd dan sylw, dywedodd ymatebwyr y byddent yn fwyaf tebygol o fwyta salad mewn bagiau a chaws ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua 7 o bob 10 o’r ymatebwyr yn bwyta salad mewn bagiau (70%) a chaws (71%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai bron i 2 o bob 10 (17%) o’r ymatebwyr yn bwyta caws fwy nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 22)(footnote).