Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 4 Key findings

Cyflwyniad: Bwyd a Chi 2 Cylch 4

Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 4 rhwng 18 Hydref 2021 a 10 Ionawr 2022.

Cyflwyniad

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran lywodraethol anweinidogol sy'n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon(footnote). Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Bwyd a Chi 2

Yn 2019, Comisiynwyd Ipsos gan yr ASB i lunio a chynnal arolwg newydd, ‘Bwyd a Chi 2’, ddwywaith y flwyddyn, i’w gynnal yn bennaf ar-lein.
 
Disodlodd arolwg Bwyd a Chi 2 arolwg Bwyd a Chi yr ASB a gynhaliwyd wyneb yn wyneb (2010-2018)(footnote), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (2014-2019). Gan fod cynnwys y cwestiynau, y dull cyflwyno a’r dull ymateb yn wahanol, ni ddylid cymharu’r arolygon cynharach hyn ag arolwg Bwyd a Chi 2 yn uniongyrchol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hanes a'r fethodoleg yn Atodiad A. 

Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 4 rhwng 18 Hydref 2021 a 10 Ionawr 2022. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,796 o oedolion o 4,026 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 28.5%).  

Casglwyd data Bwyd a Chi 2: Cylch 4 yn ystod cyfnod o newid ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a’r pandemig COVID-19. Mae’r cyd-destun hwn yn debygol o fod wedi cael effaith ar y lefelau diogeledd bwyd, y pryderon a’r ymddygiadau sy’n ymwneud â bwyd a nodwyd yn Bwyd a Chi 2(footnote) .  

Arolwg sy’n seiliedig ar fodiwlau yw Bwyd a Chi 2, gyda modiwlau 'craidd' sy’n cael eu cynnwys ym mhob cylch, modiwlau 'cylchdro' sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, a modiwlau 'unigryw' sy’n cael eu cynnwys unwaith yn unig. Mae’r modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys: ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd); ‘Pryderon am fwyd’ (craidd), ‘Diogeledd bwyd’ (craidd); ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ (cylchdro), ‘Alergeddau ac anoddefiadau bwyd a mathau eraill o orsensitifrwydd’ (cylchdro); ‘Bwyta gartref’ (cylchdro); ‘Siopa am fwyd: cynaliadwyedd a’r effaith amgylcheddol’ (cylchdro); a ‘Deietau cynaliadwy, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig’ (cylchdro).

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2:  Cylch 4. Nid yw'r holl gwestiynau a ofynnir yn arolwg Cylch 4 wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Mae'r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn cysylltiedig.  

Dehongli’r canfyddiadau 

I dynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo'r gwahaniaethau absoliwt yn 10 pwynt canran neu ragor ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p <0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi'u cynnwys lle bo'r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canran pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. 

Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae'r cyfryw ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:   

  • Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r dewisiadau o ymateb (ymatebion). 
  • Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddynt, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
  • Mae ‘Pwysig:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i'w hystyried wrth ddehongli'r canlyniadau.  

Cynlluniau cyhoeddi yn y dyfodol

Ymhlith y modiwlau y disgwylir adrodd amdanynt yn yr adroddiad Bwyd a Chi 2:  Prif Ganfyddiadau Cylch 5 mae 'Bwyd y gallwch ymddiried ynddo' (craidd), 'Pryderon am fwyd' (craidd), 'Mynediad at gyflenwad bwyd' (craidd), ‘Siopa am fwyd’ (cylchdro) a 'Bwyta gartref' (cylchdro). Fodd bynnag, bydd y canfyddiadau a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiadau am brif ganfyddiadau Bwyd a Chi 2  yn ymateb i faterion ac arsylwadau sy'n dod i'r amlwg ac y bernir eu bod yn newydd neu’n nodedig. Bydd cyfres o adroddiadau eilaidd yn archwilio modiwlau allweddol mewn mwy o fanylder.