Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 4 Key findings

Pennod 1: Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd(footnote)

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (er enghraifft, eu bod yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus). Dywedodd 92% o'r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent ei brynu yn ddiogel i'w fwyta; a dywedodd 86% o'r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir(footnote).

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • NS-SEC(footnote): roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 94% o'r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel i'w fwyta nag ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (77%).

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:  

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd ymatebwyr ag incwm dros £96,000 (96%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â'r rheiny ag incwm llai na £95,999 (er enghraifft, 84% o’r rheiny ag incwm rhwng £19,000 a £31,999). 
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 88% o'r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir o gymharu ag ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (74%).

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd 

Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (76%) fod ganddynt hyder (hynny yw, hyderus iawn neu’n weddol hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd(footnote).

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:  

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed (83%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu ag oedolion iau (er enghraifft, 70% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed).
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 78% o'r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (64%). 
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (78%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd nag oedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (68%).
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (77%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (68%)**. 
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd ymatebwyr nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd (77%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu ag ymatebwyr ag anoddefiad bwyd (69%).

Ffigur 1: Hyder bod y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta

Ffigur 1: Hyder bod y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta
Y sawl sydd â rhan yn y gadwyn cyflenwi bwyd Defnyddwyr sydd â hyder yn y sawl sydd â rhan yn y gadwyn cyflenwi bwyd (%)
Gwasanaethau dosbarthu bwyd 45
Siopau tecawê 61
Lladd-dai a llaethdai 77
Gweithgynhyrchwyr bwyd 80
Bwytai 82
Siopau ac archfarchnadoedd 85
Ffermwyr 88

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i'r ymatebwyr nodi pa mor hyderus oeddent fod y rheiny sydd â rhan allweddol yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel i'w fwyta. Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder (hynny yw, yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) mewn ffermwyr (88%) a siopau ac archfarchnadoedd (85%) nag mewn siopau tecawê (61%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd, er enghraifft Just Eat, Deliveroo, Uber Eats (45%), (Ffigur 1)(footnote).

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Roedd y rhan fwyaf (92%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASBDAERA), (Gogledd Iwerddon) Gweithredaeth Iechyd a Diogelwch Gogledd Iwerddon (HSENI), (Gogledd Iwerddon) Safefood. Sylfaen = 3745, pob un a wnaeth ymateb ar-lein. Pwysig: Roedd yr holl ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr arolwg wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg gan Ipsos, a wnaeth grybwyll yr ASB. Mae diffyg ymateb yn dangos nad oedd yr ymatebydd wedi clywed am y sefydliad neu nad oedd wedi ateb y cwestiwn.</p> " href="#">(footnote).

Roedd ymwybyddiaeth o'r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB nag ymatebwyr iau. Er enghraifft, dywedodd 96% o'r rheiny rhwng 65 a 74 oed eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â 81% o'r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 96% o'r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB nag ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (70%), a myfyrwyr amser llawn (80%).
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (95%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB nag oedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (85%).
  • Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (94%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu ag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (82%). 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (93%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt yn coginio (77%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa am fwyd (94%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (74%).

Ffigur 2: Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ffigur 2: Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Lefel wybodaeth Canran yr ymatebwyr
Erioed wedi clywed am yr ASB 4
Heb glywed am yr ASB nes cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg 5
Wedi clywed am yr ASB, ond ddim yn gwybod dim amdani 33
Yn gwybod ychydig am yr ASB a'i gwaith 51
Yn gwybod llawer am yr ASB a'i gwaith 7

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a'i gwaith; a dywedodd 51% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a'i gwaith. Dywedodd tua 4 o bob 10 (42%) o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod am yr ASB; dywedodd 33% eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oeddent yn gwybod unrhyw beth amdani. Nid oedd 5% wedi clywed am yr ASB cyn iddynt gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2; ac nid oedd 4% wedi clywed am yr ASB (Ffigur 2)(footnote)

Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr rhwng 45 a 64 oed (er enghraifft, 69% o'r rheiny rhwng 45 a 54 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu ag ymatebwyr iau (50% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed; 54% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (41% o’r rheiny 75 oed a hŷn). 
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na'r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (53%), y rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (45%), neu fyfyrwyr amser llawn (46%).
  • Gwlad: roedd ymatebwyr yng Nghymru (68%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny yn Lloegr (57%). Dywedodd chwech o bob deg (60%) o’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon eu bod yn gwybod am yr ASB.
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd ymatebwyr ag alergedd (70%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu ag ymatebwyr ag anoddefiad bwyd (56%) neu’r rheiny nad oedd ganddynt orsensitifrwydd i fwyd (58%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydynt yn coginio (34%). 
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa (35%).

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB i ba raddau maent ymddiried ynddi i gyflawni ei gwaith, sef sicrhau bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’. Dywedodd 77% o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud hyn(footnote).

Dywedodd mwy nag 8 o bob 10 (85%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy'n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd); roedd 80% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu'n agored â'r cyhoedd ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â bwyd, ac roedd 83% yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy'n gysylltiedig â bwyd ei nodi(footnote).