Pennod 2: Pryderon am fwyd
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta.
Cyflwyniad
Gwaith yr ASB, a nodir mewn cyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon ymatebwyr am fwyd.
Pryderon cyffredin
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (86%) unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta, a dim ond 14% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder(footnote).
Ffigur 3: Y deg pryder mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd yn ddigymell
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder esbonio'n gryno eu pryderon am y bwyd maent yn ei fwyta. Roedd y pryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (31%), a oedd yn cynnwys defnyddio ychwanegion (fel cyffeithyddion a lliwiau bwyd) mewn cynhyrchion bwyd (14%), defnyddio plaladdwyr a neu/wrtaith i dyfu bwyd (12%), a sut mae bwyd wedi cael ei gynhyrchu neu ei brosesu (6%) (Ffigur 3).
Roedd yr ail bryder mwyaf cyffredin yn ymwneud â phryderon amgylcheddol a moesegol (23%), a oedd yn cynnwys lles anifeiliaid / sut caiff anifeiliaid eu trin (gan gynnwys eu cludo) (12%), taith bwyd (hynny yw, y pellter y bydd bwyd yn ei deithio) (5%), ac effaith cynhyrchu / bwyta cig ar yr amgylchedd (5%) (Ffigur 3)(footnote).
Ffigur 4: Y deg pryder mwyaf cyffredin mewn perthynas â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am ystod o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â gwastraff bwyd (63%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%) a lles anifeiliaid (56%). Roedd tua hanner yr ymatebwyr yn pryderu am brisiau bwyd (53%), faint o fraster sydd mewn bwyd (52%) faint o halen sydd mewn bwyd (52%), a hormonau, steroidau a/neu wrthfiotigau mewn bwyd (50%) (Ffigur 4)(footnote).
Ffigur 5: Lefel y pryder am bynciau sy'n ymwneud â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi lefel uchel o bryder am les anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (35%). Nododd tua 3 o bob 10 o’r ymatebwyr lefel uchel o bryder am fforddiadwyedd bwyd (32%) a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (31%) (Ffigur 5)(footnote).