Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Prif ganfyddiadau Cylch 5: crynodeb gweithredol

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. 

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 5 rhwng 26 Ebrill a 24 Gorffennaf 2022. Cafodd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ (push-to-web) ei gwblhau gan gyfanswm o 6,770 o oedolion o 4,727 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y fethodoleg). 

Ymhlith y modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn mae ‘Bwyd y gallwn ymddiried ynddo’, ‘Pryderon am fwyd’, ‘Diogeledd bwyd’, ‘Bwyta gartref’ a ‘Siopa am fwyd’.
 

Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Hyder mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd, a’r gadwyn cyflenwi bwyd

  • Dywedodd 91% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta.
  • Roedd 86% o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir.
  • Dywedodd 74% o’r ymatebwyr fod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

  • Roedd 91% o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB.
  • Dywedodd 75% o’r ymatebwyr a oedd yn meddu ar o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB eu bod yn ymddiried ynddi i sicrhau bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.
  • Dywedodd 80% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r adran lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd); roedd 76% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd, ac roedd 80% yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy’n gysylltiedig â bwyd ei nodi.

Pryderon am fwyd 

  • Nid oedd gan 80% o’r ymatebwyr unrhyw bryderon am y bwyd maent yn ei fwyta, a dim ond 20% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt bryder.
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd â phryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd y maent yn ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (25%), a diogelwch a hylendid bwyd (24%). 
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi a oedd ganddynt bryderon am ystod o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â phrisiau bwyd (66%), gwastraff bwyd (60%) a faint o siwgr sydd mewn bwyd (59%). 

Diogeledd bwyd 

  • Ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 80% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (67% diogeledd bwyd uchel, 13% diogeledd bwyd ymylol), a chafodd 20% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (10% diogeledd isel, 10% diogeledd isel iawn).
  • Dywedodd 80% o’r ymatebwyr yn Lloegr fod ganddynt ddiogeledd bwyd uchel neu ymylol, gyda 78% yng Ngogledd Iwerddon, a 74% yng Nghymru. Dywedodd 20% o’r ymatebwyr yn Lloegr, 22% yng Ngogledd Iwerddon, a 26% yng Nghymru fod ganddynt ddiogeledd bwyd isel neu isel iawn.

Siopa am fwyd a labelu bwyd

O ble mae’r ymatebwyr yn prynu bwyd?

  • Dywedodd 83% o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o archfarchnad neu archfarchnad fach tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (83%). 
  • Dywedodd 51% o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o siopau annibynnol (gwerthwyr llysiau, cigyddion, pobyddion, gwerthwyr pysgod) a 44% eu bod yn prynu bwyd o siop leol / siop gornel neu siop bapur newydd 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml. 

Hyder mewn labelu alergenau

  • Roedd 83% o’r ymatebwyr sy’n siopa am fwyd gan ystyried rhywun ag alergedd bwyd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol. 
  • Roedd yr ymatebwyr a brynodd bwyd yn rhydd yn fwy hyderus wrth nodi’r bwydydd hyn mewn archfarchnadoedd (67%), wrth siopa mewn archfarchnad ar-lein (67%) ac wrth siopa mewn siopau bwyd annibynnol (63%) o gymharu â phrynu bwyd o farchnadoedd bwyd neu stondinau bwyd. (52%).

Llwyfannau ar-lein

  • Dywedodd 60% o’r ymatebwyr eu bod wedi archebu bwyd neu ddiod o wefannau bwyty, siop tecawê neu gaffi, tra bod 55% o’r ymatebwyr wedi archebu gan gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Roedd 27% o’r ymatebwyr wedi archebu trwy farchnad ar-lein (er enghraifft Amazon, Gumtree, Etsy); roedd 10% wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go), ac roedd 8% wedi archebu trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor).

Bwyta gartref

Glanhau

  • Dywedodd 49% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta.
  • Dywedodd 74% o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd.

Atal croeshalogi 

  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o nodi eu bod (o leiaf yn achlysurol) yn golchi pysgod neu fwyd môr (43%) a chyw iâr amrwd (39%) o gymharu â chig oen, cig eidion neu borc (29%) a hwyaden, gŵydd neu dwrci amrwd (27%).

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’

  • Dywedodd 66% o’r ymatebwyr mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach.
  • Dywedodd 65% o’r ymatebwyr eu bod nhw bob amser yn edrych ar y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddyn nhw goginio neu baratoi bwyd.
  • Dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (72%), na physgod eraill (64%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai dros hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (52%) na physgod mwg (50%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd ac arferion bwyta 

  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwneud newidiadau i’w harferion bwyta yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y newidiadau mwyaf cyffredin yn ymwneud â beth roedd ymatebwyr yn ei fwyta, ble roeddent yn bwyta, lleihau costau bwyd a mwy o ymddygiadau rheoli bwyd.
  • Y prif resymau a roddwyd dros newid arferion bwyta oedd rhesymau ariannol (69%), rhesymau iechyd (47%) ac oherwydd COVID-19 a’r cyfnodau clo (41%). 

Diolchiadau 

Yn gyntaf oll, diolchwn i’r holl ymatebwyr am roi eu hamser i gymryd rhan yn yr arolwg. 

Hoffem ddiolch i’r tîm yn Ipsos a wnaeth gyfraniad sylweddol i’r prosiect, yn enwedig Kavita Deepchand, Kathryn Gallop, Hannah Harding, Sally Horton, Christy Lai, Amber Parish, Dr Patten Smith a Kelly Ward. 

Hoffem ddiolch i weithgor yr ASB, yr Uned Iaith Gymraeg, a’n cydweithwyr yn yr ASB – Joanna Disson a Clifton Gay. 

Yn olaf, diolch i’n cynghorwyr allanol – yr Athro George Gaskell, yr Athro Anne Murcott, a Joy Dobbs am eu cyfarwyddyd a’u harweiniad gwerthfawr. 

Awduron: Dr Beth Armstrong, Lucy King, Robin Clifford, Mark Jitlal, Ayla Ibrahimi Jarchlo, Katie Mears, Charlotte Parnell, Dr Daniel Mensah.