Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Gorffennaf 2022

Penodol i Gymru

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Gorffennaf 2022

1. Crynodeb

1.1    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.  

1.2    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1    Daeth Adroddiad y Prif Weithredwr (FSA 22-06-03) (Saesneg yn unig) i law’r Bwrdd.

3. Ymgysylltu Allanol gan Uwch Reolwyr yr ASB yng Nghymru

3.1    Ers cyfarfod WFAC diwethaf ar thema benodol a gynhaliwyd ar 21 Ebrill, mae uwch reolwyr wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu allanol canlynol: 

  • 26 Ebrill – Cadeirydd, Susan Jebb, yn cwrdd â’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle. Ymhlith y pynciau a drafodwyd oedd materion labelu sy’n deillio o’r rhyfel yn Wcráin a Strategaeth newydd yr ASB. 
  • 27 Ebrill – rhoi i elusennau: Offer TG. Fe wnes i a Julie Pierce roi dyfeisiau wedi’u hailgylchu i elusennau yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect ehangach yr ASB ar y cyd â Computers for Charity. Roedd 4 elusen yn ddiolchgar am gael 40 gliniadur a 40 ffôn clyfar: Eglwys Noddfa, Eglwys Llanfair, Oasis a Llamau.
  • 17 Mai – Cyfarfod Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) – Ymhlith yr eitemau a drafodwyd oedd papur briffio ar strategaeth newydd yr ASB, a gafodd gefnogaeth gan yr aelodau ac sydd wedi rhoi cyfle i rwydweithio a thrafod ymhellach gyda sefydliadau sydd â buddiant ar y cyd. 
  • 16 Mehefin – Cynhadledd flynyddol Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI) ym Mryste. Cyflwynais Wobr Bwyd y CTSI i Felicity Broder o Brighton a Hove, a Gwobr Steve Whitehouse i Sarah Thomas-Grant o Rondda Cynon Taf am fod y fyfyrwraig orau ym maes safonau bwyd yng Nghymru. Yn y digwyddiad, lansiodd Dilys Harris o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf ganllawiau amlieithog ar alergenau mewn ieithoedd ychwanegol. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi cynhyrchu’r adnodd hwn, a gafodd groeso mawr .  
  • 21 Mehefin – cyfarfod â Llywodraeth Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu Cyhoedd Cymru a phartneriaid eraill, cyfarfod cadarnhaol iawn ar y lefel uchaf. Roedd hefyd gyfarfod gweithredol dilynol gydag arweinwyr strategol i drafod samplu a’r prosiect data i gymryd lle System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS).
  • 27 Mehefin – Digwyddiad ymgysylltu ag awdurdodau lleol mewn perthynas â’r Model Gweithredu Hylendid Bwyd. Cynhaliwyd gweminar ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn iddynt allu rhannu eu barn a’u mewnwelediad ar y prif ddull gweithredu a’r egwyddorion arfaethedig ar gyfer adolygu’r Model Gweithredu Hylendid Bwyd. Gwnaeth dros 490 o swyddogion awdurdodau lleol gymryd rhan yn y digwyddiad. Byddwn yn defnyddio adborth y digwyddiad i helpu i ddatblygu cynigion manylach ar gyfer moderneiddio’r model.
  • 5 Gorffennaf – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.

3.2    Rhagolwg ar waith ymgysylltu allanol: 

  • 18-21 Gorffennaf – Bydd gan yr ASB yng Nghymru stondin yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a byddaf yn mynd gyda Chadeirydd yr ASB ar un o’r dyddiau hyn. 
  • 30 Gorffennaf – 6 Awst – Bydd gan yr ASB yng Nghymru stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron.
  • 4 Awst – Cyfarfod cyswllt chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru
  • 12 Medi – cyfarfod Rheoleiddwyr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA)

4. Materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â’r ASB yng Nghymru

Adroddiad Blynyddol o Safonau Bwyd

4.3     Ar 27 Mehefin, lansiodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban Ein Bwyd: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU, sef adolygiad manwl o’n safonau bwyd. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i dryloywder ac er mwyn sicrhau bod aelodau’r Senedd, partneriaid masnachu a defnyddwyr gartref a thramor yn gallu parhau i fod yn ymwybodol o’r newidiadau i’n system fwyd a’r heriau sy’n ei hwynebu. Cynhaliwyd digwyddiad lansio yn y Senedd ar 6 Gorffennaf. 

5. Ymgynghoriadau

5.1 Ymgynghoriadau sydd ar agor:

          Dyddiad lansio: 21 Mawrth 2022
          Dyddiad cau: 20 Medi 2022

          Dyddiad lansio: 14 Ebrill 2022
          Dyddiad cau: 7 Gorffennaf 2022  

          Dyddiad lansio: 26 Mai 2022
          Dyddiad cau: 18 Awst 2022  

          Dyddiad lansio: 22 Mehefin 2022
          Dyddiad cau: 11 Medi 2022 

5.2 Edrych tua’r dyfodol: 

  • Mae Defra, yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn bwriadu lansio ymgynghoriad 12 wythnos ledled y pedair gwlad ar newidiadau arfaethedig i Reoliadau Bara a Blawd 1998 – wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd haf/dechrau hydref 2022. 
  • Mae’r ASB yn bwriadu lansio tri ymgynghoriad wyth wythnos ar ffactorau cyfreithlon eraill y ceisiadau bwydydd newydd a chyflasynnau, GM ac ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ail gyfres o geisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Disgwylir i’r cyntaf o’r ymgynghoriadau hyn gael ei lansio ddiwedd haf/dechrau hydref 2022.   
  • Mae’r ASB yn bwriadu lansio ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth arfaethedig i fynd i’r afael â diffygion yn sgil ymadawiad y Deyrnas â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ym meysydd hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Disgwylir i’r ymgynghoriad gael ei lansio ym mis Gorffennaf 2022. 
  • Mae’r canllawiau i awdurdodau lleol ar safleoedd cymeradwy wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa gan fod y Deyrnas Unedig wedi ymadael â’r UE. Mae’r ffurflenni cymeradwyo enghreifftiol hefyd wedi’u diwygio. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
  • Mae’r ASB yn bwriadu lansio ymgynghoriad deuddeg wythnos ar y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid a Chanllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid. Disgwylir i’r ymgynghoriad gael ei lansio yn ystod hydref 2022.
Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru