Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cyfarfod Bwrdd a Phwyllgor Busnes yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – Rhagfyr 2021

Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Rhagfyr 2021: Agenda a phapurau

Agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod Bwrdd yr ASB ar 8 Rhagfyr 2021 yng ngwesty‘r Gyfnewidfa Lo, Caerdydd a thrwy Zoom.

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Diweddariad ar Gyfnod Pontio’r Undeb Ewropeaidd
  • Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau 
  • Diweddariad ar Wyddoniaeth 2021
  • Diweddariad 2021 y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol
  • Deall Safbwyntiau Defnyddwyr 2021

Mae Cyfarfod Pwyllgor Busnes yr ASB yn dilyn cyfarfod Bwrdd yr ASB. 

Cwestiynau

Rhestr o'r cwestiynau a'r atebion a gyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod hwn.

Sylwch fod yr adroddiadau canlynol ar gael yn Saesneg yn unig.

09:00 – Cyflwyniad gan y Cadeirydd

Mae’r Athro Susan Jebb yn cyflwyno cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod blaenorol Bwrdd yr ASB ym mis Medi 2021. Mae’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Steven Pollock, yn rhannu’r cwestiynau a ddaeth i law cyn cyfarfod y Bwrdd ac mae Susan Jebb yn cyflwyno adroddiad y Cadeirydd.

09:20 – Adroddiad y Prif Weithredwr i Fwrdd yr ASB

Mae Emily Miles yn cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr i Fwrdd yr ASB.

09:55 – Diweddariad yr ASB ar Bolisi Pontio’r Undeb Ewropeaidd

Mae Rebecca Sudworth ac Anjali Juneja yn cyflwyno papur sy’n edrych ar y sefyllfa bresennol, flwyddyn ar ôl diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd (UE), gan ganolbwyntio ar feysydd gweithgarwch polisi posibl yn y dyfodol ar draws y pedair gwlad.

10:30 – Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau 

Mae Katie Pettifer a Carmel Lynskey yn cyflwyno papur sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC), ac yn enwedig y prosiect sy’n edrych ar reoleiddio ar lefel mentrau a’r gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud i feintioli lefel y risg a berir gan fwyd a werthir ar-lein.

11:05 – Egwyl

11:20 – Diweddariad ar Wyddoniaeth 2021

Mae Rick Mumford yn cyflwyno papur sy’n rhoi diweddariad blynyddol ar wyddoniaeth yr ASB, gan gynnwys:  rôl gwyddoniaeth yn yr ASB; buddion gwyddoniaeth yr ASB; disgrifiad o'n gallu gwyddonol; adolygiad o’r gwaith a wnaed ers y diweddariad diwethaf; a chrynodeb o’r prif flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt.

11:55 – Diweddariad 2021 y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol

Mae Julie Hill yn cyflwyno papur i roi’r diweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau’r Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol (ACSS).

12:15 – Deall Safbwyntiau Defnyddwyr 2021

Mae Michelle Patel yn cyflwyno papur sy’n rhoi amlinelliad o’r dulliau a ddefnyddir i gasglu mewnwelediadau defnyddwyr, crynodeb o’r tueddiadau ym mhryderon a buddiannau defnyddwyr, yr hyn a ddysgwyd o’n rhaglen i ddeall safbwyntiau defnyddwyr, ac amlinelliad o’r blaenoriaethau ar gyfer ein rhaglen i ddeall safbwyntiau defnyddwyr ar gyfer y flwyddyn i ddod.

12:35 – Adroddiad gan Gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Mae Colm McKenna yn rhannu crynodeb o gyfarfod ARAC ar 23 Tachwedd.

12:45 – Adroddiadau gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd

Adroddiadau llafar Cadeiryddion y Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd gan Colm McKenna a Peter Price.

12:55 – Unrhyw faterion eraill

Diwedd cyfarfod y Bwrdd

Pwysig