Ein dull ni o weithio a’r cyd-destun yr ydym ni'n gweithio ynddo
Rydym ni’n defnyddio dull gwyddonol, seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Mae hyn yn rhoi’r grym i fusnesau a defnyddwyr wneud y peth iawn i gadw bwyd yn ddiogel. Rydyn ni'n dweud y gwir am fwyd.
Ein nod yw:
- Bod yn llais dibynadwy ar safonau bwyd er budd defnyddwyr
- Ei gwneud hi'n hawdd i fusnesau gynnal diogelwch a safonau bwyd
- Cydweithio â’r rhai mwyaf dylanwadol yn y system fwyd i wella diogelwch a safonau bwyd
- Manteisio i’r eithaf ar ddata a gallu digidol yn fewnol ac yn allanol i gryfhau ein dylanwad
- Gweithredu'n dryloyw ac yn agored

Y cyd-destun yr ydym ni'n gweithio ynddo
Mae sector bwyd y DU yn cynnwys:
- 4.1 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector bwyd-amaeth yn Chwarter 4 2019 (Prydain Fawr)
- Gwerth £23.6 biliwn o allforion bwyd, bwyd anifeiliaid a diod yn 2019 (Y Deyrnas Unedig)
- £234 biliwn oedd gwariant defnyddwyr ar fwyd, diod ac arlwyo yn 2019 (Y Deyrnas Unedig)
- £120.2 biliwn oedd cyfraniad y sector bwyd-amaeth i'r Gwerth Ychwanegol Gros cenedlaethol yn 2018 (Y Deyrnas Unedig)
Ffynhonnell: Food Statistics in your pocket Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Mae'r 500,000+ o sefydliadau bwyd (2018/2019) yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys:
- 413,000 Bwytai ac Arlwywyr
- 124,000 Manwerthwyr
- 17,000 Gweithgynhyrchwyr a Phecynwyr
- 9,000 Dosbarthwyr/Cludwyr
- 4,000 Cynhyrchwyr Cynradd
- 1,000 Mewnforwyr/Allforwyr
Ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol ar Waith Gorfodi Cyfraith Bwyd Awdurdodau Lleol 2018-2019