Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022 i 2027

Ein strategaeth

Strategaeth a gweledigaeth bum mlynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer system fwyd well.

Gwaith yr ASB, a nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau yn y DU a Gogledd Iwerddon, ond rydym yn gweithredu’n annibynnol ac yn agored, dan arweiniad gwyddoniaeth a thystiolaeth.

Ein cenhadaeth sylfaenol yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Mae’r genhadaeth hon wedi aros yn gyson ers ein strategaeth flaenorol, a gyhoeddwyd yn 2015. Fodd bynnag, mae’r system fwyd yn esblygu ac, er mwyn gweithredu’r genhadaeth hon, mae angen i’n strategaeth adlewyrchu a rhagweld newid. 

Mae gan yr ASB fwy o gyfrifoldebau ers i’r DU ymadael â’r UE. Mae technolegau a modelau busnesau newydd a newid ymddygiad defnyddwyr yn golygu bod angen i’r ASB feddwl yn wahanol am sut rydym yn cyflawni ein cenhadaeth. Mae angen i ni hefyd ystyried pryder cynyddol y cyhoedd am iechyd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd bwyd.

Pan fyddwn yn cyfeirio at fwyd y gallwch ymddiried ynddo, rydym yn golygu’r canlynol:

Dyma ein gweledigaeth ar gyfer y system fwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  

Mae fersiwn lawn ar gael i’w lawrlwytho:

England, Northern Ireland and Wales

Livestock icon
 

Mae’r ASB yn adran anweinidogol o’r llywodraeth. Mae ein hamcanion, ein pwerau a’n dyletswyddau wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, yn bennaf Deddf Safonau Bwyd 1999.

Ein prif nod statudol yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn perthynas â bwyta bwyd (gan gynnwys y risgiau sy’n deillio o’r ffordd y caiff ei gynhyrchu neu ei gyflenwi) a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘fwyd’ yn ein strategaeth, rydym hefyd yn cynnwys y rôl ehangach yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu neu ei gyflenwi, er enghraifft bwyd anifeiliaid a lles anifeiliaid.

Rydym yn gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith o lunio polisi bwyd wedi’i ddatganoli, felly rydym yn cynnal perthynas waith gref â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ond rydym yn gweithredu’n annibynnol ar weinidogion ac yn cael ein llywodraethu gan fwrdd annibynnol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Safonau Bwyd yr Alban, corff cyhoeddus annibynnol sy’n gyfrifol am bolisi bwyd a gweithredu yn yr Alban. Rydym ni bob amser yn cynnwys amgylchiadau neu ddata sy’n benodol i bob cenedl yn y dulliau a ddefnyddiwn a’r cyngor a ddarparwn. Mae’r strategaeth hon yn ymdrin â’n rôl ym mhob gwlad, gan adlewyrchu ein dull ‘un ASB’.

Mae gennym ni fwy o ganllawiau ar gyfrifoldebau datganoledig a chydweithio ledled y DU yn gweithio ar draws y pedair gwlad.

Ein cyd-destun polisi

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn nodi eu cynlluniau eu hunain ar y cyfeiriad strategol ar gyfer y system fwyd a meysydd perthnasol eraill. Byddwn yn cydweithio’n agos â nhw wrth i ni gyflawni ein strategaeth. 

Er enghraifft, rydym yn bartner allweddol yn Fframwaith Strategaeth Fwyd Gogledd Iwerddon sy’n nodi gweledigaeth a rennir i arwain y broses o wneud penderfyniadau bwyd hirdymor. Cam dau fydd datblygu cynlluniau gweithredu a metrigau a fydd yn cael eu llywio ymhellach gan y Strategaeth Twf Gwyrdd (strategaeth aml-ddegawd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, cydbwyso hinsawdd, amgylchedd a’r economi) ac Adolygiad Kendall o Sector Bwyd-Amaeth Gogledd Iwerddon sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer nifer o fentrau cynaliadwyedd pellach.

Rydym yn bwriadu gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i gyflawni ei strategaeth ar gyfer y sector bwyd, yn dilyn yr argymhellion a gyhoeddwyd yn adolygiad annibynnol Henry Dimbleby o’r enw “National Food Strategy”. 

Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i lywio unrhyw newidiadau posib i gyfraith yr UE ar fwyd a ddargedwir yn y dyfodol, yn unol â Phapur Gorchymyn Manteision Brexit, ac i gyflawni ymrwymiadau a wnaed yn y Papur Gwyn Codi’r Gwastad. Wrth baratoi ein strategaeth, rydym ni wedi ystyried blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer ‘Diwygio’r Fframwaith ar gyfer Rheoleiddio Gwell’, a bydd y rhain yn llywio ein rhaglen waith mewn meysydd perthnasol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar amrywiol feysydd o ddiddordeb a rennir o’i Rhaglen Lywodraethu 2021-26, gan gynnwys yr ymrwymiadau i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru ac i ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. 

Wrth lunio a chyflawni ein strategaeth, rydym ni hefyd wedi ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd. Er nad ydym yn gorff a enwir o dan y ddeddf, rydym yn gweithio i’r egwyddorion sydd ynddi.

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi pennu uchelgeisiau sero net mwy cyffredinol, gan gynnwys Strategaeth Sero Net y DU, Cynllun Cymru Gyfan a Strategaeth Twf Gwyrdd Gogledd Iwerddon. Yn yr un modd, mae pob llywodraeth wedi gosod nodau yn ymwneud ag iechyd pobl. Rydym yn gweithio gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar eu Papur Gwyn sydd ar y gweill ar Wahaniaethau ar Sail Iechyd, i ddarparu mewnwelediad a sicrhau bod cymunedau ar draws y DU yn cael mynediad at ddeietau iach a maethlon. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cynllun gweithredu Pwysau Iach Cymru Iach i atal a lleihau gordewdra. Bydd y cynllun hwn yn helpu i gefnogi adferiad gwyrdd a newid y ffordd yr ydym yn symud ac yn bwyta. Mae’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn arwain ar y Fframwaith Trawsadrannol, Dyfodol Mwy Heini i Bawb, sy’n ceisio atal gorbwysedd a gordewdra gydol oes y boblogaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu strategaeth olynol. Mae gan y sector bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth gyflawni’r rhain.

Mae bwyd yn ddiogel

Mae bwyd yn hanfodol i bawb, bob dydd. Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddisgwyl na fydd y bwyd rydym yn ei fwyta yn ein gwneud yn sâl.

Dyna pam y byddwn yn blaenoriaethu cadw lefel clefydau a gludir gan fwyd yn isel. Gwnawn hyn mewn sawl ffordd; o’n gwaith arolygu uniongyrchol yn y diwydiannau cig, llaeth a gwin i’n rhaglenni gwyliadwriaeth a’n rhaglenni ataliol. 

Er mwyn cyflawni’r rhan hon o’r weledigaeth bydd angen i ni barhau i arloesi, esblygu ac ymateb i newidiadau ar draws y system fwyd.

Gweithredu Rheolaethau Swyddogol

Mae’r ASB yn uniongyrchol gyfrifol am arolygu, archwilio a sicrhau busnesau sy’n cynhyrchu cig, gwin a chynnyrch llaeth yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gweithredu Rheolaethau Swyddogol mewn lladd-dai a sefydliadau trin anifeiliaid hela, ac rydym yn archwilio ac yn arolygu ffatrïoedd torri cig, cynhyrchwyr gwin a sefydliadau cynhyrchu llaeth ar ffermydd. Mae’r ASB yn cynnal rheolaethau pysgod cregyn ar y cyd ag awdurdodau lleol. Mae rheoleiddio’r meysydd hyn yn effeithiol yn parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau.

Yn y maes, o ddydd i ddydd, mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig yn cynnal arolygiadau i sicrhau bod busnesau yn y diwydiant cig yn cyflawni eu rhwymedigaethau o ran diogelwch bwyd ac iechyd a lles anifeiliaid, er mwyn diogelu defnyddwyr a chefnogi masnach ryngwladol.

Gweithio gydag awdurdodau lleol

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyflawni gweithgareddau fel arolygiadau, archwiliadau, gwyliadwriaeth a samplu (a elwir yn Rheolaethau Swyddogol) yn y rhan fwyaf o sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r rheolaethau hyn yn ymwneud â hylendid bwyd (ansawdd microbiolegol bwyd a halogiad bwyd gan ficro-organebau neu ddeunydd allanol) a safonau bwyd (cyfansoddiad, halogiad cemegol, difwyno, a labelu bwyd).

Rydym yn gweithio gyda phob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, 344 o awdurdodau lleol yn Lloegr ac 11 o awdurdodau lleol yng Ngogledd Iwerddon a chydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DAERA) sydd hefyd yn gweithredu rhai rheolaethau yng Ngogledd Iwerddon. O’r awdurdodau lleol hyn, mae 89 hefyd yn cynnal rheolaethau iechyd porthladdoedd ar y ffin ynghyd â phedwar awdurdod iechyd porthladd ar wahân.

Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Dylai defnyddwyr fod yn hyderus bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dyna pam y byddwn yn sicrhau bod bwyd yn ddilys ac wedi’i ddisgrifio’n gywir. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd, a’n partneriaid masnachu rhyngwladol, yn parhau i fod yn hyderus am fwyd y DU. Mae cysylltiad agos hefyd rhwng dilysrwydd bwyd a diogelwch bwyd.

ASB yn Esbonio

Yn 2008, canfuwyd bod rhai cynhyrchion llaeth a gynhyrchwyd yn Tsieina wedi’u difwyno (adulterated) â melamin. Arweiniodd yr halogiad hwn at farwolaethau chwech o fabanod. Effeithiwyd ar gannoedd ar filoedd o blant, gyda dros 50,000 yn yr ysbyty. Amcangyfrifir bod sgandal melamin mewn llaeth wedi costio £7.7 biliwn i’r economi fyd-eang.

Amcangyfrifir bod sgandal cig ceffyl 2013, pan ganfuwyd olion DNA ceffyl a phorc mewn cynhyrchion cig, wedi costio tua £850 miliwn i ddiwydiant y DU.

Troseddau bwyd

Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd. Amcangyfrifir bod troseddau bwyd, sy’n aml yn peryglu dilysrwydd bwyd, yn costio hyd at £3.6 biliwn y flwyddyn i’r gymdeithas. Mae gwaith yr Uned yn hanfodol i helpu i ddiogelu enw da allforion y DU, ond hefyd i leihau baich troseddau bwyd ar economi’r DU.

Gorsensitifrwydd i fwyd

Yn y DU, amcangyfrifir bod dwy filiwn o bobl wedi cael diagnosis o alergedd bwyd a bod gan chwe chan mil o bobl glefyd seliag. Mae’r ASB yn gyfrifol am labelu alergenau a darparu canllawiau i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd (sy’n cynnwys alergedd bwyd, clefyd seliag, ac anoddefiad bwyd).

Rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau bwyd i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau ac yn ymgorffori mesurau rheoli gorsensitifrwydd i fwyd mewn diwylliant diogelwch bwyd cadarn. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr wneud dewisiadau mwy diogel am y bwyd y maent yn ei brynu.

Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae iechyd deietegol a chynaliadwyedd yn flaenoriaethau cynyddol i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac i’r defnyddwyr yr ydym yn diogelu eu buddiannau.

Er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau hyn, mae angen i’r system fwyd gyfrannu. 

Mae angen i ni chwarae ein rhan wrth gefnogi partneriaid y llywodraeth ac eraill yn y system fwyd ehangach i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ddeiet iachach a mwy cynaliadwy. 

Mae’r materion hyn hefyd yn effeithio ar rannau eraill o’n gweledigaeth. Er enghraifft, mae tymereddau sy’n codi yn golygu bod cadwyni bwyd a bwyd anifeiliaid mewn mwy o berygl o bathogenau a pheryglon eraill, fel afflatocsinau – y sylweddau gwenwynig a achosir gan ffwng. Os nad ydym yn gweithredu nawr a chwarae ein rhan i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, bydd yn llawer anoddach i ni gadw bwyd yn ddiogel. Gall tywydd eithafol effeithio ar gadwyni cyflenwi, a all yn ei dro olygu nad yw labelu wedi’u hargraffu ymlaen llaw yn gywir mwyach os caiff cynhwysion eu hamnewid ar fyr rybudd. Bydd yr awydd am broteinau cynaliadwy yn arwain at arloesi yn y diwydiant bwyd, ac mae angen i’r ASB gynnal asesiad risg o unrhyw fwydydd newydd. 

Rydym yn gwybod bod defnyddwyr am weld newid. Dywedodd dros dri o bob pump o’r rhai a ymatebodd i arolwg diweddaraf yr ASB – a oedd yn olrhain mewnwelediad defnyddwyr – eu bod yn pryderu am effaith cynhyrchu bwyd ar yr amgylchedd. Nododd dros hanner yr ymatebwyr eu bod yn pryderu ynghylch pa mor iach yw eu deiet personol (Traciwr Mewnwelediad Defnyddwyr yr ASB Tachwedd 2021).

Mae adrannau eraill yn gyfrifol yn benodol am iechyd a chynaliadwyedd, ond fel unig gorff y llywodraeth sy’n edrych ar fwyd yn unig, gallwn ni helpu i gefnogi ymdrechion y tair llywodraeth i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau polisi penodol mewn perthynas â safonau maeth yng Ngogledd Iwerddon.

ASB yn Esbonio

Junk food icon

Mae deiet gwael yn faich mawr a chynyddol ar iechyd y cyhoedd, gan gostio £10 biliwn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a £27 biliwn i’r gymdeithas ehangach. Mae risgiau deietegol yn parhau i fod yn un o’r ffactorau mwyaf a all gynyddu eich risg o ddatblygu clefyd (Baich Clefydau Byd-eang, Hydref 2020). Yn Lloegr, y mwyaf ymhlith y ffactor risg y gellir ei haddasu yw Mynegai Màs y Corff (BMI) uchel ac mae mwy na hanner y rhestr o’r 20 prif risg i iechyd yn gysylltiedig â deiet. (Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Proffil Iechyd Lloegr 2017.)

Mae bwyd yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd. Mae bwyd a diod yn gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, ac mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn dweud bod newidiadau i fwyd, er enghraifft lleihau gwastraff neu newid deiet, yn rhan allweddol o gyflawni sero net.

Rhaglen ‘Bwyta’n Dda Dewis yn Well’

Mae ein rhaglen Bwyta’n Dda Dewis yn Well (EWCB) yn cefnogi busnesau bwyd bach a chanolig eu maint yng Ngogledd Iwerddon i leihau faint o galorïau, siwgr, braster dirlawn a halen sydd yn y bwyd y maent yn ei gynhyrchu, ei werthu neu ei weini, yn ogystal â lleihau maint y dognau er mwyn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach. Mae rhaglen EWCB yn cyd-fynd â rhaglen lleihau siwgr Llywodraeth y DU a rhaglen ailfformiwleiddio ehangach gyda manwerthwyr a chynhyrchwyr y DU sy’n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon.

I gyflwyno’r rhaglen hon, rydym yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr o bob rhan o Ogledd Iwerddon, yr Adran Iechyd, Adran Iechyd Gweriniaeth Iwerddon, Invest NI, y diwydiant bwyd, cynghorau dosbarth a sefydliadau academaidd.

Sicrhau bod gan bawb fwyd y gallant ymddiried ynddo

Mae cenhadaeth yr ASB – bwyd y gallwch ymddiried ynddo – yn ganlyniad yr ydym ei eisiau i bawb, ble bynnag y maent yn byw yn y DU a beth bynnag fo’u hamgylchiadau personol. Bydd hyn ond yn bosib os yw pawb yn gallu cael gafael ar y bwyd sydd ei angen arnynt ac yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am y bwyd y maent yn ei fwyta. Mae’r materion hyn yn berthnasol i bob un o’r tair rhan o’n gweledigaeth.

Felly, mae angen i ni ddeall y ffactorau sy’n effeithio ar allu pobl i gael mynediad at fwyd a’r dewisiadau maent yn eu gwneud. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar ddata o ansawdd uchel yn y meysydd hyn, i lywio ein gwaith ni a gwaith y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y system fwyd.

ASB yn Esbonio

Mae ansicrwydd bwyd mewn cartrefi a phrisiau cynyddol yn destun pryder cynyddol. Cynyddodd pryderon am fforddiadwyedd yn ystod y pandemig COVID-19, ac maent wedi cynyddu eto yn ystod y misoedd diwethaf. Dywedodd 25% o’r defnyddwyr a holwyd ym mis Tachwedd 2021 eu bod yn poeni am fforddiadwyedd bwyd, a 21% yn dweud eu bod yn lleihau maint prydau bwyd neu’n hepgor prydau am nad ydynt yn gallu fforddio prynu bwyd (Traciwr Deall Safbwyntiau Defnyddwyr, Tachwedd 2021).

ASB yn Esbonio
ASB yn Esbonio

Bob munud yn y DU, mae pum person yn mynd yn sâl ar ôl bwyta bwyd wedi’i halogi. Mae mwy na 2.4 miliwn o achosion yn ymwneud â chlefydau a gludir gan fwyd bob blwyddyn, ac mae 15,500 ohonynt yn cael triniaeth ysbyty, ac amcangyfrifir bod 160 o bobl yn marw o’r clefydau hyn.

Campylobacter icon

Mae hyn yn costio tua £9.1 biliwn y flwyddyn i gymdeithas y DU (Baich Clefydau a Gludir gan Fwyd, yr ASB, 2018). Mae ein gwaith yn lleihau’r tebygolrwydd o achosion o glefydau a gludir gan fwyd.

Mae’r ASB hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni ataliol fel y Strategaeth Lleihau Campylobacter, a wnaeth atal tua 100,000 o achosion yn 2016 (Adroddiad Blynyddol a chyfrifon cyfunol 2016/17), o gymharu â nifer cyfartalog yr achosion rhwng 2009 a 2013.