Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyflwyniad i newidiadau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS)

Yr hyn y mae angen i fusnesau ei wybod am y rheolau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS)

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Hydref 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Nod y cyflwyniad hwn yw eich helpu i ddeall a oes angen i'ch busnes ddilyn y gofynion labelu alergenau, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, a beth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith. 

Mae'n ofynnol i unrhyw fusnes sy'n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu gydag enw'r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion, gan bwysleisio’r cynhwysion alergenaidd ar y rhestr. 

Mae'r labelu yn helpu i ddiogelu eich defnyddwyr drwy ddarparu gwybodaeth am alergenau a all achub bywydau ar y deunydd pecynnu. 

Mae angen i fusnesau wirio a oes angen labelu PPDS ar eu cynhyrchion a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith.

Beth yw bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol neu fwyd PPDS?

Mae bwyd PPDS yn cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr ac mae yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis.

Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (er enghraifft, o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy'n cael ei werthu mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Pwysig

 
Pwysig
Gwiriwch a yw'ch busnes yn gwerthu bwyd PPDS gyda'n adnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd. Dysgwch ragor am y gwahanol ofynion ar gyfer labelu a'r hyn sydd angen i chi ei wneud.

Bwyd nad yw'n PPDS

  • Unrhyw fwyd nad yw mewn deunydd pecynnu neu sy'n cael ei becynnu ar ôl cael ei archebu gan y defnyddiwr. Mae'r rhain yn fathau o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ac nid oes angen label arnynt gydag enw, cynhwysion ac alergenau wedi'u pwysleisio. Rhaid parhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau ond gellir gwneud hyn trwy ddulliau eraill, gan gynnwys ar lafar.
  • Bwyd wedi'i becynnu gan un busnes a'i gyflenwi i fusnes arall. Mae hwn yn fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ac mae'n rhaid iddo fod wedi’n labelu llawn yn barod, gan gynnwys enw'r bwyd a rhestr gynhwysion lawn, gyda chynhwysion alergenaidd yn cael eu pwysleisio.

Gwerthu o bell

Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd PPDS a werthir o bell, fel bwyd y gellir ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. 
 
Mae angen i fusnesau sy'n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i'r defnyddiwr cyn iddo brynu'r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.


Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau:

  • cyn i’r cwsmer brynu'r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (ar wefan, catalog neu fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
  • wrth ddosbarthu’r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (sticeri am alergenau ar fwyd neu gynnwys copi o fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)

Dylai gwybodaeth am alergenau fod ar gael i gwsmer yn ysgrifenedig ar bwynt rhwng y cwsmer yn archebu’r bwyd a’r cwsmer yn cael y bwyd. 

Dylid labelu prydau tecawê yn glir fel bod cwsmeriaid yn gwybod pa brydau sy'n addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag alergedd.
 

Pwysig

Enghreifftiau o fwyd PPDS

Gall bwyd wedi'i becynnu i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) gynnwys y canlynol:

  • Brechdanau a chynhyrchion becws sy'n cael eu pecynnu ar y safle cyn i ddefnyddiwr eu dewis neu eu harchebu.
  • Bwyd cyflym wedi'i becynnu cyn ei archebu, fel byrgyr o dan lamp boeth lle na ellir newid y bwyd heb agor y deunydd pecynnu. 
  • Cynhyrchion sy'n cael eu pecynnu ymlaen llaw ar y safle yn barod i'w gwerthu, fel pizzas, cyw iâr rotisserie, saladau a photiau pasta.
  • Byrgyrs a selsig wedi'u pecynnu ymlaen llaw gan gigydd ar y safle yn barod i'w gwerthu i'r defnyddiwr.
  • Samplau o gwcis a roddir i ddefnyddwyr am ddim a gafodd eu pecynnu ar y safle.
  • Bwydydd sy’n cael eu pecynnu ac yna'u gwerthu mewn man arall gan yr un gweithredwr mewn stondin farchnad neu safle symudol.
  • Bydd hefyd angen labelu bwyd PPDS mewn ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a lleoliadau tebyg eraill.
Illustration of two people in shop with labelled PPDS food

Beth sydd angen bod ar y label? 

Mae angen i'r label ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion gyda'r 14 alergen y mae'n ofynnol eu datgan yn ôl y gyfraith wedi'u pwysleisio.

Rhaid i'r rhain fod yn unol â'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i enwi'r bwyd a rhestru cynhwysion.

Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion gwybodaeth a labelu bwyd perthnasol presennol ar gyfer y wlad y maent yn gweithredu ynddi. 

Dyma ein gwybodaeth am yr 14 alergen a sut i gyfeirio atynt, lle byddwch chi'n dod o hyd i'r rheolau manwl am gynnwys, ffurf a chyflwyniad enw, cynhwysion a gwybodaeth am alergenau.

Label bwyd PPDS brechdan caws a phicl

Sut i fodloni'r gofynion


Os yw'ch busnes yn gwerthu neu'n cyflenwi bwyd PPDS mae angen i chi gydymffurfio â'r gyfraith.

Defnyddiwch ein hadnodd penderfynu ar gyfer labelu alergenau a chynhwysion ar fwyd.

Pwysig

Gweler ein canllawiau labelu ar gyfer cynhyrchion bwyd wedi'i becynnu  ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS). Mae'r canllawiau hyn yn darparu arfer gorau a chyngor rheoleiddiol i fusnesau bwyd y mae gofynion newydd labelu alergenau PPDS yn effeithio arnynt.

Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd i gynnwys y gofynion newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran gofynion labelu a gwybodaeth am alergenau bwyd y Canllawiau Technegol

Mae gennym ni hefyd wybodaeth am labelu alergenau ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd.

Amlinellir y gofynion labelu alergenau yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE.

Pwysig

Gallwch chi wylio recordiad o'n gweminar labelu bwyd PPDS ar gyfer busnesau bwyd y DU i gael cyngor a chanllawiau pellach.

Cyfraith Natasha - pam cafodd newidiadau i wybodaeth am alergenau eu cyflwyno?

Cyn 1 Hydref, gellid darparu'r wybodaeth am alergenau ar gyfer y cynhyrchion hyn mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn cynnwys cael eich hysbysu ar lafar gan staff.

Mae llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y bydd angen darparu gwybodaeth am gynhwysion ac alergenau ar labeli’r bwydydd hyn o 1 Hydref 2021.

Mae hyn yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a gafodd adwaith alergaidd a achoswyd drwy fwyta baguette nad oedd yn rhaid cynnwys label alergenau arno ar y pryd.

England, Northern Ireland and Wales

Resources

England, Northern Ireland and Wales