Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyflwyniad i newidiadau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)

Yr hyn y mae angen i fusnesau ei wybod am y rheolau labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS)

Nod y cyflwyniad hwn yw eich helpu i ddeall a oes angen i’ch busnes ddilyn y gofynion labelu alergenau, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, a beth y mae angen i chi ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith. 

Mae’n ofynnol i unrhyw fusnes sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu gydag enw’r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion, gan bwysleisio’r cynhwysion alergenaidd ar y rhestr. 

Mae’r labelu yn helpu i ddiogelu eich defnyddwyr drwy ddarparu gwybodaeth am alergenau a all achub bywydau ar y deunydd pecynnu. 

Mae angen i fusnesau wirio a oes angen labelu PPDS ar eu cynhyrchion a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith.

Beth yw bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol neu fwyd PPDS?

Mae bwyd PPDS yn cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae’n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr ac mae yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis.

Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (er enghraifft, o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy’n cael ei werthu mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Pwysig
Gwiriwch a yw’ch busnes yn gwerthu bwyd PPDS gyda’n hadnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd. Dysgwch ragor am y gwahanol ofynion ar gyfer labelu a’r hyn y mae angen i chi ei wneud.

Bwyd nad yw’n PPDS

  • Unrhyw fwyd nad yw mewn deunydd pecynnu neu syn cael ei becynnu ar ôl cael ei archebu gan y defnyddiwr. Mae’r rhain yn fathau o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ac nid oes angen label arnynt gydag enw, cynhwysion ac alergenau wedi’u pwysleisio. Rhaid parhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau ond gellir gwneud hyn trwy ddulliau eraill, gan gynnwys ar lafar.
  • Bwyd wedii becynnu gan un busnes ai gyflenwi i fusnes arall. Mae hwn yn fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw ac mae’n rhaid iddo fod wedi’i labelu’n llawn yn barod, gan gynnwys enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn, gyda chynhwysion alergenaidd yn cael eu pwysleisio.

Gwerthu o bell

Nid yw’r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd PPDS a werthir o bell, fel bwyd y gellir ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. 
 
Mae angen i fusnesau sy’n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i’r defnyddiwr cyn iddo brynu’r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau:

  • cyn i’r cwsmer brynu'r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (ar wefan, mewn catalog neu ar fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)
  • wrth ddosbarthu’r bwyd – gall hyn fod yn ysgrifenedig (sticeri am alergenau ar fwyd neu gynnwys copi o fwydlen) neu ar lafar (dros y ffôn)

Dylai gwybodaeth am alergenau fod ar gael i gwsmer yn ysgrifenedig ar adeg rhwng y cwsmer yn archebu’r bwyd a’r cwsmer yn cael y bwyd. 

Dylid labelu prydau tecawê yn glir fel bod cwsmeriaid yn gwybod pa brydau sy’n addas ar gyfer y rhai hynny sydd ag alergedd.

Pwysig

Enghreifftiau o fwyd PPDS

Gall bwyd wedi’i becynnu i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) gynnwys y canlynol:

  • brechdanau a chynhyrchion becws sy’n cael eu pecynnu ar y safle cyn i ddefnyddiwr eu dewis neu eu harchebu
  • bwyd cyflym wedi’i becynnu cyn ei archebu, fel byrgyr o dan lamp boeth lle na ellir newid y bwyd heb agor y deunydd pecynnu 
  • cynhyrchion sy’n cael eu pecynnu ymlaen llaw ar y safle yn barod i’w gwerthu, fel pizzas, cyw iâr rôtisserie, saladau a photiau pasta
  • byrgyrs a selsig wedi’u pecynnu ymlaen llaw gan gigydd ar y safle yn barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr
  • samplau o gwcis a roddir i ddefnyddwyr am ddim a gafodd eu pecynnu ar y safle
  • bwydydd sy’n cael eu pecynnu ac yna’u gwerthu mewn man arall gan yr un gweithredwr mewn stondin farchnad neu safle symudol

Bydd hefyd angen labelu bwyd PPDS mewn ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a lleoliadau tebyg eraill.

Illustration of two people in shop with labelled PPDS food

Beth sydd angen bod ar y label? 

Mae angen i’r label ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion gyda’r 14 alergen y mae’n ofynnol eu datgan yn ôl y gyfraith wedi’u pwysleisio.

Rhaid i’r rhain fod yn unol â’r gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i enwi’r bwyd a rhestru cynhwysion.

Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion gwybodaeth a labelu bwyd perthnasol presennol ar gyfer y wlad y maent yn gweithredu ynddi. 

Dyma ein gwybodaeth am yr 14 alergen a sut i gyfeirio atynt, lle byddwch chi’n dod o hyd i’r rheolau manwl am gynnwys, ffurf a chyflwyniad enw, cynhwysion a gwybodaeth am alergenau.

Label bwyd PPDS brechdan caws a phicl

Sut i fodloni’r gofynion

Os yw’ch busnes yn gwerthu neu’n cyflenwi bwyd PPDS mae angen i chi gydymffurfio â’r gyfraith.

Defnyddiwch ein hadnodd penderfynu ar gyfer labelu alergenau a chynhwysion ar fwyd.

Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd i gynnwys y gofynion newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran gofynion labelu a gwybodaeth am alergenau bwyd y Canllawiau Technegol.

Mae gennym ni hefyd wybodaeth am labelu alergenau ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd.

Amlinellir y gofynion labelu alergenau yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE.

Pwysig

Gallwch chi wylio recordiad o’n gweminar labelu bwyd PPDS ar gyfer busnesau bwyd y DU i gael cyngor a chanllawiau pellach.

Cyfraith Natasha - pam cafodd newidiadau i wybodaeth am alergenau eu cyflwyno?

Cyn 1 Hydref, gellid darparu’r wybodaeth am alergenau ar gyfer y cynhyrchion hyn mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn cynnwys cael eich hysbysu ar lafar gan staff.

Mae llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y bydd angen darparu gwybodaeth am gynhwysion ac alergenau ar labeli’r bwydydd hyn o 1 Hydref 2021.

Mae hyn yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a gafodd adwaith alergaidd a achoswyd drwy fwyta baguette nad oedd yn rhaid cynnwys label alergenau arno ar y pryd.

England, Northern Ireland and Wales