Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau i fusnesau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (cell-cultivated), a’r broses awdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mehefin 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mehefin 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd?

Mae cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn cwmpasu amrywiaeth o fwydydd y gellir eu gwneud trwy ddefnyddio proses gynhyrchu heb ladd neu heb ddilyn arferion ffermio ac amaethyddol traddodiadol. Mae celloedd sydd wedi’u harunigo o anifeiliaid neu blanhigion – gan gynnwys celloedd o gig, bwyd môr, braster ac offal, neu wyau – yn cael eu tyfu mewn amgylchedd rheoledig, ac yna’n cael eu cynaeafu i wneud cynnyrch bwyd terfynol. 

ASB yn Esbonio

Ydy cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd yr un peth â chig a dyfir mewn labordy?

Weithiau cyfeirir at gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd anifeiliaid fel cig a dyfir mewn labordy (mae enwau eraill yn cynnwys cig wedi’i feithrin, cig wedi’i drin, cig wedi’i feithrin o gelloedd, neu gig sy’n seiliedig ar gelloedd). Yn ôl y diffiniad o gig a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn Atodiad 1 i Reoliad a gymathwyd (UE) 853/2004, fodd bynnag, ni ddiffinnir cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd fel cig. Yn hytrach, fe’u hystyrir yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid.

Statws cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ar farchnad Prydain Fawr

Rhaid awdurdodi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi bod yn destun asesiad diogelwch trwyadl ac annibynnol. Oherwydd yr amrywiaeth o gynhyrchion a thechnegau cynhyrchu cymhleth dan sylw, gall rheoliadau gwahanol fod yn gymwys i’r broses awdurdodi. Bydd angen iddynt hefyd gydymffurfio â’r holl reoliadau sy’n gymwys i bob bwyd ar y farchnad, fel rheolau hylendid neu gyfraith bwyd gyffredinol.

Gogledd Iwerddon

O dan drefniadau Fframwaith Windsor, gall cynhyrchion rheoleiddiedig (gan gynnwys cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd) a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr gael eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, ar yr amod eu bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) ac yn cael eu symud drwyddo.

Gwneud cais am awdurdodiad

Er mwyn rhoi eich cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd ar farchnad Prydain Fawr, mae’n rhaid i chi wneud cais am awdurdodiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn dewis y llwybr rheoleiddio cywir ar gyfer asesu eich cynnyrch. 

O ystyried y dulliau a ddefnyddir i greu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o geisiadau’n cael eu hasesu o dan y rheoliadau bwydydd newydd. Mae rheoliadau bwydydd newydd yn gymwys i fwydydd nad oes ganddynt hanes o gael eu bwyta yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997. 
 
Mewn rhai achosion, gellir asesu ceisiadau o dan y rheoliadau Organebau a Addaswyd yn Enetig (GMO). Os yw’r broses wedi cynnwys addasiad genetig, cysylltwch â ni i drafod eich cais. 

Gair i gall

Mae gennym Wasanaeth Cymorth Busnes ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd sydd wedi'i gynllunio i gefnogi cwmnïau sy'n dymuno cyflwyno ceisiadau am gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd i wasanaeth awdurdodi cynhyrchion i'w rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Sylwer bod y gwasnaeth hwn ar gael yn Saesneg yn unig am y tro am ei fod yn wasanaeth peilot.

Mae'n cefnogi'r ymgeisydd drwy gydol y cais, gan gynnig cymorth cyn ac ar ôl cyflwyno.

Gwneud cais am awdurdodiad o dan y rheoliadau bwydydd newydd 

Mae angen gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ac sy’n cael ei ystyried yn fwydydd newydd o dan reoliadau bwyd newydd (Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283). 

Darllenwch ein canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd i gael gwybod sut i wneud cais i awdurdodi eich cynnyrch fel bwyd newydd.

Gallwch weld pa gynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr yn ein cofrestr o awdurdodiadau bwydydd newydd.

Gwneud cais am awdurdodiad o dan y rheoliadau addasu genetig 

Mae rheoliadau GMO yn gymwys yn benodol i addasu deunydd genetig organeb (DNA) mewn ffordd nad yw’n digwydd yn naturiol trwy baru a/neu ailgyfuno naturiol. Mae’r rheoliadau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta gan bobl.

Darllenwch ein canllawiau ar awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig i gael gwybod sut i wneud cais i awdurdodi eich cynnyrch fel bwyd GM.

Gallwch weld y rhestr o GMOs sydd wedi’u hawdurdodi i’w mewnforio a’u defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr yn ein cofrestr o GMOs awdurdodedig

Diogelu data

Gallwch ofyn nad yw unrhyw ddata cyfrinachol sy’n cefnogi eich cais yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau eraill heb eich caniatâd, a hynny am bum mlynedd o ddyddiad yr awdurdodiad.

Diogelwch cynhyrchion

Mae pob cynnyrch rheoleiddiedig, ni waeth pa reoliadau maent yn dod oddi tanynt, yn destun asesiadau diogelwch trwyadl. 

Rhaid i bob busnes bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd. Er bod rhai eithriadau, mae hyn yn gymwys i bob rhan o’r cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid.

Er mwyn gallu rhoi bwyd diogel ar y farchnad, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • sicrhau olrheiniadwyedd bwyd
  • cyflwyno bwyd mewn modd priodol
  • darparu gwybodaeth addas am fwyd
  • galw neu dynnu bwyd anniogel yn ôl 
  • sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio, a’u hallforio o’r DU, yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. 

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllawiau ar reoli diogelwch bwyd.

Prif nod Rheoliad a gymathwyd (UE) 178/2002, y cyfeirir ato hefyd fel ‘cyfraith bwyd gyffredinol’ yw diogelu iechyd pobl a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Labelu

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol am gynhyrchion bwyd a roddir ar y farchnad, a hynny er mwyn cydymffurfio â’r rheolau labelu. Mae hyn yn cynnwys cynhwysion cynhyrchion, gan gynnwys alergenau, yn ogystal â gwybodaeth am ba mor hir y byddant yn para (dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’). Gallwch ddod o hyd i ofynion labelu penodol yn ein canllawiau ar becynnu a labelu

O dan Erthygl 9 o’r rheoliadau bwydydd newydd, rydym yn cadw’r hawl i fynnu gofynion labelu penodol ychwanegol os ydym o’r farn ei fod er budd defnyddwyr.

Os caiff cynnyrch ei asesu o dan y drefn GMO, caiff ei labelu fel un ‘wedi’i addasu’n enetig’ (genetically modified). 

Mae Rheoliad yr UE a gymathwyd (UE) 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn nodi'r holl reolau o ran labelu bwyd yn gyffredinol a labelu maeth, gan ffurfio un ddarn o ddeddfwriaeth.

Ymchwil ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Rydym yn gosod safonau uchel o ran diogelwch bwyd. Mae ein hymchwil yn dangos ein hymrwymiad i nodi’r ffordd orau o reoleiddio dulliau cynhyrchu bwyd newydd ac arloesol.

Ym mis Mawrth 2023, comisiynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban adroddiad i nodi’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau cynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Pwrpas yr ymchwil oedd llywio ein proses asesu risg ar gyfer awdurdodi’r cynhyrchion hyn.

Mae’r adroddiad hwn yn gyfuniad o ymchwil wrth y ddesg, yn seiliedig ar adolygiad trylwyr o’r llenyddiaeth academaidd ac anacademaidd ac o’r lleoliad cychwyn proteinau amgen. Mae’n cyflwyno dadansoddiad o’r farchnad sy’n dod i’r amlwg ar gyfer proteinau amgen, y goblygiadau posib a’r ymatebion polisi posib efallai y bydd angen i’r ASB eu hystyried.

Cynhaliwyd adolygiad tystiolaeth hefyd yn 2025 i archwilio ymatebion defnyddwyr i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (cig, bwyd môr, cynnyrch llaeth a phlanhigion)

Adroddiad gan FAO a WHO

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) adroddiad a oedd yn casglu ac yn gwerthuso’r holl dystiolaeth hyd yn hyn ar ddiogelwch bwyd mewn perthynas â chynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.

Treialon blasu bwydydd newydd

Caniateir treialon blasu bwydydd newydd heb eu hawdurdodi os mai’r bwriad yw cynnal ymchwil i ddatblygu’r bwyd newydd. Mae’r ASB yn argymell bod treialon blasu’n cael eu llywio gan gyngor a gyhoeddir gan y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) sydd i’w gael yn y canllawiau ar dreialon blasu. Gall cwmnïau roi gwybod eu bod wedi cynnal treial blasu trwy weithgarwch yn y cyfryngau lle mae cyhoeddusrwydd o’r fath yn cefnogi prif ddiben y treial fel ymchwil a datblygu.

Os mai bwriad treial blasu yw hyrwyddo cynnyrch neu frand cwmni, yna gall hyn fod yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd heb ei awdurdodi ar y farchnad yn anghyfreithlon.

Mae canllawiau ACNFP yn dal yn gywir, ond mae’r manylion cyswllt ar y dudalen bellach yn hen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, anfonwch e-bost i ccpsandbox@food.gov.uk.

Cymorth

Canllaw yn unig yw’r cyngor hwn ac nid yw’n gynhwysfawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses o wneud cais, cysylltwch â’r Tîm Cynhyrchion Rheoleiddiedig yn: regulatedproducts@food.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn fwy cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Blwch Tywod CCP yn: ccpsandbox@food.gov.uk

Ymwadiad

Mae’r dudalen hon er gwybodaeth yn unig.  Nid yw’n sicrhau y bydd eich cynnyrch yn cael ei asesu o dan lwybr rheoleiddio penodol. Rydym yn cadw’r hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Mae croeso cysylltu â ni am gyngor pellach.