Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion planhigion a chynhyrchion llysieuol

Penodol i Gymru a Lloegr

Gwybodaeth am fewnforio cynhyrchion planhigion a llysieuol, gan gynnwys ychwanegion, labelu a diogelwch cemegol. Nid yw hyn yn cynnwys ffrwythau na llysiau.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'n rhaid i gynhyrchion planhigion a chynhyrchion llysieuol a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau hylendid bwyd a bod yn destun i’r un gweithdrefnau â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Mae'r dudalen hon yn trafod cynhyrchion planhigion fel:  

  • ffacbys (chickpeas)
  • ffa coch
  • tofu
  • pys
  • ffa
  • codlysiau
  • mycoproteinau fel quorn
  • cynhyrchion soi fel protein llysiau ansoddedig (textured vegetable protein)
  • miled (millet)
  • hadau blodyn yr haul
  • hadau pwmpen

Ar gyfer mewnforion te a choffi, cymerwch gip hefyd ar Mewnforio diodydd a Mewnforio ffrwythau a llysiau.

Trwyddedau mewnforio

Efallai na fydd angen trwydded iechyd nac hylendid arnoch chi i fewnforio bwyd, ond mae llawer o fwydydd o drydydd gwledydd yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu.

Lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd

Gall rhai cynhyrchion planhigion a llysieuol gynnwys lliwiau, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion bwyd. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n tîm Ychwanegion Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein

Labelu

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar GOV.UK. I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach eich awdurdod lleol neu eich Adran Iechyd yr Amgylchedd leol.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â'r Tîm Mewnforion Organig trwy wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig (gan gynnwys labelu) o fewn y Deyrnas Unedig (DU), cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Organig.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rheiny a ddefnyddir i becynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y DU a ddargedwir (retained UK law) ym Mhrydain Fawr. Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd. I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, gan gynnwys bwyd wedi'i rewi a hadau y bwriedir eu hegino, cysylltwch â'n Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Plaladdwyr

I gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae rhai cyfyngiadau/gofynion mewnforio sy’n gallu bod yn berthnasol i gynhyrchion planhigion neu gynhyrchion llysieuol. Mae'r rhain fel a ganlyn:

Cynhyrchion ‘risg uwch’

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel mannau rheoli ar y ffin y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg. Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar fycotocsinau.

Afflatocsinau

Ers 1 Ionawr 2010, mae mewnforion rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol yn destun amodau arbennig oherwydd y risg eu bod wedi’u halogi ag afflatocsinau. Bydd hyn yn golygu mai drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol yn unig, sy’n fannau rheoli ar y ffin, y gellir mewnforio'r cynhyrchion hyn i Brydain Fawr, lle byddant yn destun rheolaethau swyddogol. Dyma ragor o wybodaeth am afflatocsinau i fusnesau yn ein canllawiau ar fycotocsinau.

Bwydydd llysieuol sy'n cynnwys cynhyrchion llaeth

Mae llawer o fwydydd llysieuol yn cynnwys cynhyrchion llaeth ac felly maent yn cael eu hystyried fel cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghaerliwelydd ar 01228 403 600 (dewis 3) neu dros e-bost imports@apha.gsi.gov.uk. Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol sy'n perthyn i Defra.

Gofynion iechyd planhigion

Mae nifer o o gynhyrchion planhigion sydd un ai wedi'u gwahardd rhag dod i mewn i Brydain Fawr o drydydd gwledydd, neu mae angen tystysgrif ffytoiechydol (phytosanitary) arnynt i wneud hynny. Mae rheolaethau swyddogol a chyfyngiadau ar fewnforio, symud a chadw planhigion, plâu planhigion a deunyddiau eraill (fel pridd) yn hanfodol er mwyn atal cyflwyno a lledaenu organebau niweidiol.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ofynion iechyd planhigion, neu p’un a oes angen tystysgrif ffytoiechydol ar y ffrwythau neu'r llysiau yr ydych chi am eu mewnforio, cysylltwch â’r Tîm Iechyd Planhigion ar wefan APHA.

Add to smarter communications search Off