Diogelwch bwyd ar gyfer coginio cymunedol a banciau bwyd
Cyngor ar hylendid ac alergedd i unigolion a grwpiau sy’n paratoi prydau bwyd i’w rhannu yn eu cymuned.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad o ran diogelwch bwyd i unigolion neu grwpiau sy’n dymuno paratoi prydau bwyd gartref ar gyfer eu cymuned. Gall hyn gynnwys paratoi neu roi prydau bwyd i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol.
Rhaid i fwyd a ddarperir ar gyfer grwpiau cymunedol gydymffurfio â chyfraith bwyd a bod yn ddiogel i’w fwyta.
Efallai na fydd angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch i ddarparu bwyd ar gyfer grwpiau elusennol neu gymunedol. Fodd bynnag, mae angen lefel addas o wybodaeth arnoch i wneud yn siŵr eich bod chi’n trin bwyd yn ddiogel.
Cofrestru
Mae’n bosib y bydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd os ydych chi, neu’ch gweithrediad, yn darparu bwyd i’r gymuned, hyd yn oed os yw’n rhad ac am ddim, a hynny 28 diwrnod cyn i chi ddechrau darparu bwyd.
Mae gennym gyngor penodol o ran pryd a sut y dylech gofrestru fel busnes bwyd.
Cyn darparu bwyd i’r gymuned, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol i drafod y gofynion cofrestru.
Fel gweithredwr busnes bwyd, mae angen i chi ddilyn y gofynion diogelwch a hylendid bwyd perthnasol a amlinellir yn y canllawiau hyn. Mae cofrestru fel busnes bwyd yn golygu y gall eich gweithrediad fod yn destun arolygiadau gan swyddogion awdurdodedig, ac efallai y bydd yn cael sgôr hylendid bwyd, os yw’n gymwys ar gyfer un.
Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch chi’n darparu bwyd i’r gymuned, efallai na fydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd. Fodd bynnag, dylai’r bwyd a ddarperir gennych chi fod yn ddiogel i’w fwyta o hyd, ac rydym yn argymell eich bod yn dilyn yr arferion gorau o ran diogelwch a hylendid bwyd a restrir yn y canllawiau hyn. Gwiriwch gyda’ch tîm diogelwch bwyd lleol i weld a oes angen i chi gofrestru.
A chithau’n weithredwr busnes bwyd, gall eich tîm diogelwch bwyd lleol roi cymorth a chyngor pellach i chi mewn perthynas â’r materion yn y canllawiau hyn.
Mae gennym hefyd ganllawiau diogelwch a hylendid bwyd wrth gynnal neu ddarparu bwyd mewn digwyddiad cymunedol neu elusennol.
Fel busnes bwyd sydd eisoes yn bodoli, mae’n ofynnol i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol i roi gwybod am unrhyw newid sylweddol yn y gweithgareddau bwyd sy’n cael eu cynnal ar eich safle.
Byddai enghreifftiau o newid sylweddol yn cynnwys:
- gwneuthurwr cacennau cofrestredig sydd bellach yn paratoi prydau bwyd
- banc bwyd cofrestredig, a oedd yn arfer dosbarthu bwydydd risg isel wedi’u pecynnu ymlaen llaw, sydd bellach yn dosbarthu bwydydd risg uwch fel llysiau wedi’u plicio a bwydydd wedi’u paratoi ymlaen llaw
Bydd llawer o arlwywyr cartref a banciau bwyd presennol eisoes wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol, ond ni fydd rhai gweithredwyr wedi gorfod cofrestru wrth ddechrau gweithredu.
Os yw eich gweithgareddau wedi newid yn sylweddol, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol nawr. Bydd eich awdurdod yn eich helpu i asesu a oes angen mynd ati nawr i gofrestru eich gweithrediad nad oedd wedi’i gofrestru’n flaenorol.
Hylendid bwyd wrth goginio i’ch cymuned neu roi bwyd
Bydd hylendid bwyd da yn sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini yn ddiogel i’w fwyta. Sicrhewch fod eich gweithrediad yn gyfarwydd â’r pedwar prif faes ac yn eu dilyn:
Bydd dilyn canllawiau ar hylendid personol, fel golchi dwylo, hefyd yn helpu i sicrhau safonau diogelwch bwyd uchel.
Dyma rai awgrymiadau ymarferol cyffredinol pan fyddwch chi’n paratoi bwyd ar gyfer llawer o bobl:
- mae’n werth paratoi bwyd ymlaen llaw a’i rewi, os gallwch chi, ond gwnewch yn siŵr bod y bwyd wedi dadmer yn iawn cyn ei ddefnyddio
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr, gan ddefnyddio hylif diheintio dwylo (‘hand sanitisers’) os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael
- gwnewch yn siŵr eich bod chi bob amser yn golchi ffrwythau a llysiau ffres
- storiwch fwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân
- peidiwch â defnyddio bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ (‘use-by date’)
- darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio bob amser, a gwnewch yn siŵr bod bwyd wedi’i goginio’n iawn cyn ei weini
- gwnewch yn siŵr bod y mannau paratoi bwyd yn cael eu glanhau a’u diheintio’n briodol ar ôl eu defnyddio, a golchwch unrhyw offer rydych chi’n ei ddefnyddio â dŵr poeth a sebon
- cadwch fwyd allan o’r oergell am yr amser byrraf posib
Tymereddau coginio
Y cyngor safonol yw coginio bwyd nes ei fod wedi cyrraedd tymheredd craidd o 70°C am 2 funud.
Dyma’r cyfuniadau amser a thymheredd eraill:
- 60°C am 45 munud
- 65°C am 10 munud
- 75°C am 30 eiliad
- 80°C am 6 eiliad
Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir, ac am yr amser cywir, yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd.
Gallwch wirio tymheredd bwyd gan ddefnyddio prob glân. Sicrhewch fod pen y prob yng nghanol y bwyd neu yn y rhan fwyaf trwchus.
Os ydych chi’n rhoi neu’n paratoi bwyd, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n derbyn y bwyd yn gwybod beth sydd ynddo a sut i’w baratoi. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau nad oes perygl y bydd y bwyd yn eu gwneud yn sâl.
Bydd rhoi cynhyrchion bwyd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw yn sicrhau bod y bwydydd wedi’u labelu’n gywir a’u bod yn cynnwys cyfarwyddiadau fel y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gwybodaeth am alergenau a chanllawiau storio.
Mae’n bwysig iawn storio bwyd yn gywir i’w gadw’n ddiogel. Mae storio bwyd mewn cynwysyddion wedi’u selio ac ar y tymheredd cywir yn ei ddiogelu rhag bacteria niweidiol, yn atal gwrthrychau rhag disgyn i mewn iddo, ac yn atal croeshalogi â chynhwysion eraill.
O ran bwydydd sydd angen eu hoeri, fel brechdanau, dylid eu cadw allan o’r oergell am y cyfnod byrraf posib, a byth am fwy na phedair awr.
Ar ôl y cyfnod hwn, dylai unrhyw fwyd sydd dros ben gael ei daflu neu ei roi yn ôl yn yr oergell. Os byddwch chi’n rhoi’r bwyd yn ôl yn yr oergell, peidiwch â gadael y bwyd allan ar dymheredd yr ystafell pan fyddwch chi’n ei weini eto. Dylid ei fwyta cyn gynted â phosib.
Ailddosbarthu bwyd a rhoi i fanciau bwyd
Ni ellir gwerthu, ailddosbarthu na bwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni ddylid rhoi bwyd i fanciau bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Yr unig eithriad yw os yw’r bwyd wedi mynd trwy broses rewi neu goginio ddiogel cyn i’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ fynd heibio. Yn yr achos hwn, dylid ail-labelu’r bwyd yn briodol.
Gall bwyd sydd â dyddiad ‘ar ei orau cyn’ gael ei werthu, ei ailddosbarthu a’i fwyta’n gyfreithlon ar ôl y dyddiad hwn, os byddwch yn barnu ei fod o ansawdd digonol i’w roi a’i fod yn ddigon da i’w fwyta. Efallai na fydd y bwyd yn bodloni’r ansawdd a ddisgwylir gan y defnyddiwr. Mae gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) ganllawiau gwirio gweledol ar gyfer cyflenwi bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’.
Am fwy o wybodaeth, dylai busnesau bwyd fwrw golwg dros ganllawiau ailddosbarthu WRAP a’i restr wirio ar gyfer labelu bwyd sydd i’w ailddosbarthu.
Busnesau yn rhoi i fanciau bwyd
Gall busnesau bwyd ailddosbarthu unrhyw fwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’.
Wrth roi bwyd i fanciau bwyd, dylai busnesau gynnal asesiadau i weld a ellir ailddosbarthu cynhyrchion y tu hwnt i’w dyddiadau ‘ar ei orau cyn’. Dylai hyn gynnwys arolygiad gweledol, gan wirio pa mor ffres yw’r bwyd ac a oes unrhyw ddifrod. Mewn rhai achosion, gall deunydd pecynnu allanol sydd wedi’i rwygo neu ei ddifrodi fod yn dderbyniol os yw’r prif becyn mewn cyflwr da.
Dylai banciau bwyd ac ailddosbarthwyr weithio gyda manwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i gytuno ar y canlynol:
- y cyfnod derbyniol y tu hwnt i’r dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ar gyfer gwahanol gynhyrchion
- bod y gwiriadau angenrheidiol wedi’u cynnal i sicrhau bod cynhyrchion o ansawdd digonol a’u bod yn rhydd rhag unrhyw ddifrod
Dylai banciau bwyd ac ailddosbarthwyr gynnal eu harolygiadau gweledol eu hunain cyn i fwyd gael ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn pryd bwyd. Mae’r gwiriad olaf hwn yn sicrhau bod bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ o ansawdd digonol.
Mae’n drosedd i berson werthu neu gyflenwi bwyd nad yw’n bodloni gofynion diogelwch bwyd, neu nad yw o’r ‘natur, y sylwedd na’r ansawdd’ a ddisgwylir gan y defnyddiwr. Dylai fod system ar waith gan ailddosbarthwyr bwyd, sy’n seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), fel bod bwyd yn cael ei waredu os nad yw bellach o’r natur, y sylwedd neu’r ansawdd sy’n ofynnol.
Canllawiau ar alergenau wrth goginio i’ch cymuned neu roi bwyd
Mae’n bwysig rheoli alergenau’n effeithiol er mwyn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i gwsmeriaid sydd ag alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd neu glefyd seliag. Os ydych wedi cofrestru fel busnes bwyd, rhaid i chi ddilyn y rheolau ar alergenau a nodir ar gyfer busnesau bwyd, gan gynnwys:
- darparu gwybodaeth gywir am alergenau ar gyfer gwahanol fathau o fwyd, gan gynnwys bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw, bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol, a bwyd (rhydd) nad yw wedi’i becynnu ymlaen llaw
- trin a rheoli alergenau bwyd yn effeithiol mewn cegin neu wrth baratoi bwyd, fel atal croeshalogi
Os nad oes angen cofrestru eich gweithgarwch fel busnes bwyd, does dim rhaid i chi ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am alergenau sy’n bresennol yn y bwyd fel cynhwysion. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth am alergenau i gwsmeriaid â phosib, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl â gorsensitifrwydd i fwyd (alergeddau, anoddefiadau a chlefyd seliag) yn gallu gwneud dewisiadau diogel.
Mae cael sgwrs â’r defnyddiwr am alergenau yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi i sicrhau bod modd paratoi bwyd yn ddiogel a bodloni gofynion alergenau, ac i alluogi’r defnyddiwr i wneud dewis diogel a gwybodus ynghylch pa fwyd i’w fwyta. Gweler ein Canllawiau Arferion Gorau am fwy o wybodaeth am gael sgwrs am ofynion alergenau.
Gall coginio ar gyfer rhywun sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd fod yn bryderus os nad ydych chi wedi arfer gwneud hynny. Gallwch chi gynllunio pryd bwyd diogel trwy:
- ofyn beth maen nhw’n gallu ei fwyta a beth na allant ei fwyta
- sicrhau eich bod yn cadw alergenau ar wahân i fwydydd eraill er mwyn atal croeshalogi
- ail-ddarllen rhestrau cynhwysion ar fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i wirio’r wybodaeth am alergenau
- gwirio’r cynhwysion gyda’r person a ddarparodd y bwyd, os cafodd ei roi
- osgoi ychwanegu unrhyw beth at brydau a allai fel arall fod yn rhydd rhag unrhyw alergenau
- glanhau arwynebau ac offer yn drylwyr i gael gwared ar olion unrhyw fwyd y gallech fod wedi’i goginio o’r blaen
Yn aml, mae dewisiadau eraill da ar gael ar gyfer cynhwysion y mae rhai yn gorfod eu hosgoi. Cofiwch ofyn am help ac awgrymiadau ar gynhwysion gan y bobl hynny ag alergedd bwyd rydych chi’n coginio ar eu cyfer.
Lawrlwythwch ein harwydd alergedd ac anoddefiad i’w arddangos ar eich safle er lles y defnyddiwr.
Gall rheolwyr ddefnyddio a rhannu adrannau o’n rhestr wirio alergenau â staff er mwyn sicrhau arferion gorau ym maes alergeddau bwyd.
Gall staff ymgymryd â’n hyfforddiant alergedd bwyd am ddim.
Lawrlwythwch ein poster alergeddau i’w arddangos ar eich gwefan ar gyfer eich staff. Mae hefyd ar gael yn:
Bwyd sydd angen gofal ychwanegol
Ni ddylai bwydydd sy’n peri risg diogelwch bwyd i’r defnyddiwr gael eu dosbarthu. Ni ddylid chwaith ddosbarthu bwydydd nad ydynt yn bodloni gofynion labelu cyfreithiol.
Mae angen gofal ychwanegol gyda rhai bwydydd, fel wyau.
Er mwyn cadw wyau yn y cyflwr gorau posib, mae canllawiau a bennir gan gynllun diogelwch wyau y Llew Prydeinig yn argymell:
- storio wyau ar dymheredd gwastad ac o dan 20°C yn eu blychau neu becynnau allanol
- eu storio mewn lle sych oddi wrth fwydydd sydd â gwynt cryf a halogion posib
- peidio â’u storio na’u harddangos yn agos at ffynonellau gwres fel fentiau oergell a gwresogyddion gwyntyll nac mewn golau haul uniongyrchol
- eu cadw oddi wrth fwydydd wedi’u coginio ymlaen llaw neu fwydydd amrwd
- eu trin mewn ffordd sy’n lleihau difrod
Unwaith y bydd yr wyau wedi cyrraedd y defnyddiwr, dylid storio’r wyau mewn man oer a sych. Yn ddelfrydol, yn yr oergell.
Dyma rai bwydydd eraill y mae angen rhoi gofal ychwanegol iddynt:
- reis
- codlysiau
- pysgod cregyn
- pysgod
Os ydych chi’n darparu unrhyw rai o’r bwydydd hyn, edrychwch ar yr adran “Bwydydd y mae angen gofal ychwanegol arnynt” yn y pecyn Bwyd Mwy Diogel Busnes Gwell (SFBB). Mae bwydydd parod i’w bwyta fel arfer yn dod gyda dyddiadau ‘defnyddio erbyn’, felly mae angen mwy o ofal arnynt. Gallant gael eu halogi â pathogenau fel listeria, a all achosi salwch difrifol iawn neu farwolaeth. Am fwy o wybodaeth, gallwch fwrw golwg dros ein tudalen ar Listeria i helpu i leihau’r risg.
Dylech fod yn ymwybodol bod rhai pobl mewn mwy o berygl o fynd yn sâl oherwydd gwenwyn bwyd. Gall y rhain gynnwys plant ifanc, menywod beichiog, pobl hŷn, a phobl â chyflwr iechyd isorweddol. Mae’n bwysig nodi bod gan rai bwydydd – er enghraifft, cawsiau meddal wedi’u haeddfedu â llwydni, cig deli, a physgod mwg – risg uwch o listeria. Cymerwch ofal ychwanegol wrth weini’r bwydydd hyn, ac yn arbennig wrth eu gweini i bobl yn y grwpiau risg uwch hyn.
Cynwysyddion prydau bwyd
Os ydych chi’n dymuno darparu bwyd mewn cynwysyddion, mae’n bwysig dewis deunydd pecynnu bwyd o safon briodol. Mae hyn yn golygu deunydd pecynnu sydd wedi’i fwriadu at sawl defnydd, fel Tupperware neu focsys tecawê. Bydd hyn yn sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei gludo yn ddiogel a bod ei ansawdd yn cael ei gynnal. Er enghraifft, efallai y bydd gofyn i ddeunyddiau pecynnu allu gwrthsefyll hylifau er mwyn atal bwyd rhag gollwng, neu i atal papur rhag cael ei wlychu drwyddo draw. Heb y math hwn o ddeunydd pecynnu, gallai halogion cemegol neu germau drosglwyddo i’r bwyd. Bydd caeadau sy’n ffitio’n dda hefyd yn lleihau unrhyw risgiau o ran hylendid neu fwyd yn gollwng.
Mae’n ddiogel ailddefnyddio cynwysyddion gwydr a phlastig, cyn belled â’u bod yn rhydd rhag tolciau a chraciau. Sicrhewch fod cynwysyddion yn cael eu glanhau’n drylwyr i atal croeshalogi â germau, alergenau a halogion ffisegol. Os ydynt yn addas i’w rhoi mewn peiriant golchi llestri, mae’n well eu glanhau mewn peiriant o’r fath oherwydd y tymheredd uchel y mae’n ei gyrraedd. Dylid golchi cynwysyddion yn drylwyr â dŵr poeth a sebon os nad oes peiriant golchi llestri ar gael.
Cludo bwyd yn ddiogel
Canllawiau ar gyfer cludo bwyd i’r defnyddiwr.
Rhaid i fwyd sy’n cael ei ddosbarthu i ddefnyddwyr fod yn ddiogel ac yn addas i’w fwyta. Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:
- caiff bwyd ei gludo mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sy’n atal halogiad
- caiff bwydydd sydd wedi’u hoeri a’u rhewi eu dosbarthu i ddefnyddwyr mewn ffordd sy’n sicrhau na fyddant yn mynd yn anniogel neu’n anaddas i’w bwyta (er enghraifft, trwy ddefnyddio bagiau a blychau oeri, neu faniau oergell)
- caiff bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta eu cadw ar wahân
Dilynwch ein canllawiau ynghylch diogelwch bwyd wrth ddosbarthu bwyd i gael mwy o wybodaeth.
Os cafodd pryd heb alergenau ei archebu, dylai fod yn glir wrth ei ddosbarthu ym mha gynhwysydd y mae wedi’i gadw. Gallwch chi ddefnyddio sticeri neu roi nodyn ar y cynhwysydd i labelu pob pryd. Dylid cymryd gofal i atal croeshalogi wrth gludo’r bwyd a dylid hysbysu’r defnyddiwr os yw hyn yn risg. Gweler ein Canllawiau Arferion Gorau ynghylch nodi gwybodaeth am alergenau wrth werthu o bell ac archebu ymlaen llaw.
Hanes diwygio
Published: 7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mai 2025