Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Rhagfyr 2021

Mae'r agenda a'r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2021 wedi'u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 November 2021

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, a'i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.00am ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 ac mae’n ddigwyddiad ar-lein oherwydd pandemig COVID-19. Gallwch chi gofrestru i wylio ar-lein.    

Mae'r agenda'n cynnwys:                         

  • Deall Safbwyntiau Defnyddwyr 2021
  • Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
  • Diweddariad ar Gyfnod Pontio’r Undeb Ewropeaidd 
  • Diweddariad ar Wyddoniaeth 2021

Bydd Adroddiad Blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd hefyd yn cael ei gyflwyno i adran Pwyllgor Busnes Bwrdd mis Rhagfyr.  

Mae'r agenda lawn a'r papurau sydd wedi'u cyhoeddi ar gael ar dudalennau'r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig).

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2021 yn cael ei gynnal ar-lein, gyda dim ond aelodau’r bwrdd yn y cyfarfod ei hun, ond gobeithiwn y gallwn groesawu cynulleidfaoedd unwaith eto yn y dyfodol agos. Gallwch chi gofrestru i wylio'r cyfarfod yn fyw ar-lein. 

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Cyflwyno cwestiwn

Gallwch chi gyflwyno cwestiynau i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd hyd at hanner dydd ar 7 Rhagfyr drwy anfon e-bost at board.sec@food.gov.uk.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar 8 Rhagfyr, yn cael eu hateb trwy ohebiaeth yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno cwestiynau ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.

 

COVID-19 a newidiadau i Gyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2021

Oherwydd y pandemig COVID-19, rydym ni’n parhau i ffrydio'r cyfarfodydd Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes ar-lein, gyda dim ond aelodau'r Bwrdd yn cael eu gwahodd i fod yno’n bersonol, ond gobeithiwn groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i'n cyfarfodydd yn y dyfodol.

Mae manylion amserlen y cyfarfodydd ar gael ar dudalen we ein Bwrdd.