Penodiadau i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn falch o fod wedi penodi dau aelod newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC).
Mae John Richards ac Ifan Lloyd wedi’u penodi i’r Pwyllgor am dymor o dair blynedd, yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2025.
Caiff WFAC ei gadeirio gan y Dr Rhian Hayward, Aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys arbenigwyr annibynnol a ddewiswyd am eu profiad ymarferol a’u gwybodaeth arbenigol mewn meysydd gan gynnwys gorfodi, y diwydiant bwyd, amaethyddiaeth, gwyddorau sy’n gysylltiedig â bwyd, a buddiannau defnyddwyr.
Dywedodd Dr Hayward:
"Rwy’n falch iawn o groesawu John Richards ac Ifan Lloyd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru. Bydd eu profiad mewn amaethyddiaeth yng Nghymru ac ym maes milfeddygaeth, ynghyd â’u cefndiroedd cryf yn y diwydiant, yn amhrisiadwy wrth gryfhau gallu’r Pwyllgor i roi cyngor cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i’r ASB ar faterion bwyd sy’n effeithio ar Gymru."
Mae WFAC yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru.
Cafodd WFAC ei sefydlu o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999, yn unol â gofyniad statudol, er mwyn rhoi cyngor annibynnol i’r ASB ar faterion sy’n effeithio ar Gymru.