Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB yn annog pobl i fod yn wyliadwrus rhag twyll bwyd wrth i ddyn gael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad i ddwyn twrci a dofednod gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd

Penodol i Loegr

Yn dilyn ymchwiliad gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), sy’n rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), dedfrydwyd dyn ar ôl iddo bledio’n euog o drin nwyddau wedi’u dwyn mewn achos sy’n gysylltiedig â thwyll ehangach o ddosbarthu dofednod gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ionawr 2026

Heddiw [Ddydd Mawrth, 27 Ionawr 2026], cafodd Liam Dooney, 53 oed o Wigan, ddedfryd o garchar ar ôl ymchwiliad ar y cyd gan yr NFCU i dwyll bwyd.

Yn Llys y Goron Bolton, dedfrydwyd Dooney i ddwy flynedd a chwe mis o garchar am drin nwyddau wedi’u dwyn gwerth dros £500,000. Rhaid iddo dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y ddalfa. Cafodd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr am saith mlynedd hefyd. 

Roedd Dooney yn gweithredu cwmni storio bwyd oer yn ardal Wigan yn flaenorol. Roedd wedi pledio'n euog yn gynharach yn Llys y Goron Bolton o drin nwyddau wedi’u dwyn, a chafodd mechnïaeth ei chaniatáu. 

Casglodd yr NFCU dystiolaeth ar ôl iddi gael gwybod am gyfres o droseddau lle roedd twyllwyr yn dynwared busnesau bwyd cyfreithlon yn y DU er mwyn sicrhau dosbarthiadau bwyd gan gyflenwyr tramor ac un cyflenwr yn y DU. Roedd hyn yn cynnwys manylion wedi’u clonio o fasnachfreintiau McDonald’s er mwyn dwyn cargo – yn yr achos hwn, cyw iâr a thwrci.  

Adferwyd 16.8 tunnell fetrig o ddofednod wedi’i ddwyn. Bu’n rhaid israddio’r cynnyrch yn ddiweddarach i fwyd anifeiliaid anwes oherwydd nad oedd modd ei olrhain.     

“Rydym yn falch o’r ddedfryd hon o garchar gan ei bod yn dangos nad oes lle yn y diwydiant bwyd i unrhyw fath o weithgarwch troseddol.   

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gefnogi’r diwydiant i gyflawni ei gyfrifoldebau a lleihau’r risg o unrhyw ladrad bwyd sy’n arwain at dwyll bwyd. Mae’r achos cymhleth hwn wedi cynnwys Heddlu Manceinion Fwyaf, Cyngor Wigan, a Gwasanaeth Erlyn y Goron.  

Dylai busnesau bwyd fod yn wyliadwrus o’r risg o dwyll bwyd a diogelu rhag hyn, a bod yn effro i’r potensial o gael cynnig nwyddau wedi’u dwyn. Gall busnesau bwyd helpu i sicrhau nad ydynt yn dioddef achosion o ddwyn drwy gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy gyda’u cyflenwyr a’u cwsmeriaid. 

Rydym wedi cynghori cannoedd o fusnesau ar sut i gynyddu eu gwydnwch yn erbyn twyll fel y gall pobl ymddiried bod y bwyd y maent yn ei brynu a’i fwyta yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.” 

Andrew Quinn, Pennaeth NFCU yr ASB

 

Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am achosion o ddwyn ac os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar food.gov.uk/report neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).