Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgynghoriad ar awdurdodiadau cyntaf arfaethedig ar gynnyrch bwyd CBD

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr argymhelliad arfaethedig i awdurdodi’r cynhyrchion bwyd canabidiol (CBD) cyntaf fel bwydydd newydd ym Mhrydain Fawr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Awst 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Awst 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae CBD yn ganabinoid heb ei reoli sy’n cael ei echdynnu o’r planhigyn canabis. Mae’n bresennol mewn planhigion cywarch (‘hemp’) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig. 

Mae cynhyrchion CBD yn cael eu gwerthu fel bwydydd, yn aml fel atchwanegiadau bwyd, yn y DU. Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:  

  • olewau, capsiwlau a melysion
  • losin/fferins
  • diodydd

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar dri chais (RP07, RP350 ac RP 427), sef y ceisiadau cyntaf sydd wedi symud yn llwyddiannus trwy’r camau asesu diogelwch cychwynnol. Mae’r ASB yn ymgynghori ar eu hargymhellion drafft i weinidogion yng Nghymru a Lloegr i awdurdodi’r ceisiadau hyn gyda gofynion labelu clir sy’n darparu gwybodaeth am ddefnydd diogel a phriodol er mwyn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am gynhyrchion CBD. Os cânt eu cymeradwyo gan weinidogion, dyma fydd y cynhyrchion bwyd CBD cyntaf sydd wedi’u rheoleiddio’n llawn i fod ar gael ar farchnad y DU, a hynny’n amodol ar fodloni manylebau’r awdurdodiad.  

Mae argymhellion drafft yr ASB yn cynnwys y cynnig y dylai pob cynnyrch CBD awdurdodedig gael labeli rhybuddio clir sy’n nodi: 

  • Nad yw’n addas i bobl o dan 18 oed 
  • Nad yw’n addas i fenywod sy’n feichiog neu sy’n bwydo ar y fron, nac ar gyfer y rheiny sy’n ceisio beichiogi. 
  • Dylai’r rheiny sy’n cymryd meddyginiaethau neu sydd â system imiwnedd wan, siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn defnyddio’r cynnyrch hwn. 

Mae'r ASB yn croesawu safbwyntiau a sylwadau’r holl randdeiliaid a phartïon sydd â buddiant yn ystod y broses ymgynghori a fydd ar agor am 12 wythnos, gan gau ar 20 Tachwedd 2025. 

Mae Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn bwriadu cyhoeddi’r ymgynghoriad cyfatebol ar gyfer yr Alban ddiwedd yr haf. 

Mae hwn yn gam arall ymlaen yng ngwaith yr ASB i sicrhau bod cynhyrchion CBD yn cydymffurfio â’r gyfraith. Rydym yn annog y rhai sydd â buddiant yn y maes hwn i ymateb i’r ymgynghoriad fel y gallwn ystyried ystod lawn o safbwyntiau cyn cyflwyno ein hargymhellion i weinidogion y Llywodraeth. 

‘Gyda’r argymhellion hyn, rydym yn symud yn agosach at farchnad reoleiddiedig ar gyfer CBD a fydd yn cefnogi twf yn y diwydiant wrth gynnal safonau diogelwch uchel.’
 
Bydd awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD yn cefnogi agenda twf y Llywodraeth drwy ganiatáu i fusnesau sydd â chynhyrchion cymeradwy ailfformiwleiddio a datblygu brandiau a chynnyrch newydd. Ar hyn o bryd, nid oes gan unrhyw gynhyrchion bwyd CBD awdurdodiad cyfreithiol yn y DU.

Thomas Vincent, yr Asiantaeth Safonau Bwyd