Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r newidiadau allweddol mewn perthynas â safonau bwyd o 2019 i 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, effeithiodd ein hymadawiad â’r UE a phandemig COVID-19 ar system fwyd y DU.

Cyflwyniad a chwmpas y gwaith 

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r newidiadau allweddol mewn perthynas â safonau bwyd o 2019 i 2021. Yn ystod y cyfnod hwn, effeithiodd ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd (UE) a phandemig COVID-19 ar system fwyd y Deyrnas Unedig (DU).

Mae safonau bwyd, wrth gwrs, yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. At ddibenion yr adroddiad hwn, rydym yn edrych ar safonau mewn dwy ffordd:

  1. Diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid (gan gynnwys rheoli alergenau) – hynny yw, sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta neu, yn achos bwyd anifeiliaid, yn ddiogel i’w gyflwyno i’r gadwyn fwyd. Ystyrir nifer o ffactorau wrth gynnig safonau diogelwch, gan gynnwys cyngor gan aseswyr risg yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ac arbenigwyr ehangach yn ogystal ag agweddau eraill fel yr egwyddorion a allai bennu’r risgiau sy’n dderbyniol i ddefnyddwyr.
  2. Safonau eraill sy’n cefnogi defnyddwyr ac yn rhoi sicrwydd – mae hyn yn cynnwys tarddiad a dilysrwydd, safonau cynhyrchu (er enghraifft, lles anifeiliaid a chynaliadwyedd), cyfansoddiad a maeth, labelu a hysbysebu bwyd, a gwybodaeth
    arall syʼn galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar y gwerthoedd sy’n bwysig iddynt.

Mae cydymffurfiaeth y diwydiant â safonau rheoleiddio, yn ogystal â chapasiti a gallu
awdurdodau i gynnal y gydymffurfiaeth honno, yn elfennau hanfodol wrth asesu a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal yn ymarferol. Er bod llawer o safonau yn orfodol yn ôl y gyfraith, ceir hefyd safonau gwirfoddol, a gynhelir gan y diwydiant neu a gefnogir gan gynlluniau sicrwydd annibynnol, a all fynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol a thawelu meddwl defnyddwyr wrth wneud dewisiadau bwyd gwybodus.

Yn yr adroddiad hwn rydym yn gofyn a yw ein bwyd yn ddiogel, yn faethlon, yn ddilys, ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, gyda’r nod o ddiogelu buddiannau defnyddwyr. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i ddod o hyd i’r ateb – gan gynnwys data gan awdurdodau lleol, ystadegau swyddogol y llywodraeth, ffurflenni cydymffurfio o wiriadau mewnforio, a’n hymchwil a’n gweithgarwch gwyliadwriaeth ein hunain yn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Ein nod yw dangos a yw safonau’n cael eu cynnal, gan ganolbwyntio eleni ar safonau rheoleiddio. Mae’r adroddiad at ei gilydd yn dadansoddi data ledled y DU gyfan ond, lle bo modd, rydym yn manylu ar ddata unigol y pedair gwlad.

Gall adroddiadau yn y dyfodol hefyd ystyried safonau cynhyrchu ehangach, fel materion mwy penodol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid ac effaith amgylcheddol cynhyrchu gan adlewyrchu ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd a’u diddordeb yn y ffordd y mae ein system
fwyd yn gweithio a’i heffaith ar y byd o’n cwmpas. Mae’r materion hyn hefyd yn berthnasol i gytundebau masnach rydd newydd, sydd wedi arwain at drafodaethau ymysg y pedair gwlad, oherwydd pryderon y gallent arwain at roi bwyd wedi’i gynhyrchu i safon is ar farchnad y DU. 

Yn olaf, rydym yn adrodd ar sut mae safonau bwyd yn cael eu gorfodi, gan archwilio’r system gadarn o reolaethau sy’n sail i gydymffurfiaeth busnesau, boed mewn lladd-dai, ffatrïoedd, ar y ffin, neu mewn mannau eraill. Ein nod yw mesur pa mor effeithiol y mae’r diwydiant bwyd yn cydymffurfio â’r rheolau hyn, a pha mor effeithiol ydym yn ei gefnogi i wneud hynny.

Ni all yr adroddiad hwn wneud cyfiawnder â phob agwedd ar safonau bwyd, er yr hoffem i’r adroddiad blynyddol hwn dyfu dros amser ac i’n dadansoddiad o’r data a’n sylwebaeth ddatblygu yn sgil hynny. Am y tro, rydym yn nodi’n glir ar ddechrau pob pennod pa agweddau penodol ar ein diffiniad o safonau bwyd rydym yn canolbwyntio arnynt. 

Prif ganfyddiadau

Mae’r dystiolaeth a nodir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod safonau diogelwch bwyd cyffredinol wedi’u cynnal i raddau helaeth yn ystod 2021. Fodd bynnag, ni allwn fod yn gwbl hyderus yn y casgliad hwn. Gwnaeth y pandemig darfu ar arolygiadau, samplu ac archwiliadau rheolaidd ym mhob rhan o’r system fwyd, gan olygu bod llai o ddata ar gael i ni ei ddefnyddio wrth asesu cydymffurfiaeth busnesau yn erbyn gofynion cyfraith fwyd. Newidiodd hefyd batrymau ymddygiad defnyddwyr. Er bod safonau diogelwch bwyd wedi’u cynnal i raddau helaeth, mae’r ddau sefydliad yn cydnabod bod risgiau sylweddol ar y gorwel.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddau faes penodol sy’n peri pryder. Yn gyntaf, bu gostyngiad yn lefel arolygiadau awdurdodau lleol o fusnesau bwyd. Mae’r sefyllfa wrthi’n cael ei hunioni, yn enwedig o ran arolygu hylendid bwyd caffis a bwytai. Fodd bynnag, mae cynnydd wedi’i gyfyngu o ganlyniad i adnoddau ac argaeledd gweithwyr proffesiynol cymwys.
Mae’r ail yn ymwneud â mewnforio bwyd o’r UE. Er mwyn gwella lefelau sicrwydd mewn perthynas â bwyd risg uwch o’r UE fel cig, llaeth ac wyau, a bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi dod i’r DU drwy’r UE, mae’n hanfodol bod rheolaethau gwell yn cael eu rhoi ar waith yn unol â’r amserlen y mae Llywodraeth y DU wedi’i phennu (erbyn diwedd 2023). Po hiraf y bydd y DU yn gweithredu heb sicrwydd gan y wlad sy’n allforio fod cynhyrchion yn bodloni safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid uchel y DU, y lleiaf hyderus y gallwn fod ynghylch nodi digwyddiadau diogelwch posibl yn effeithiol.

Mae’n hanfodol bod y DU yn gallu atal mynediad i fwyd anniogel, nodi risgiau sy’n newid ac ymateb iddynt. Er ein bod wedi ystyried yr heriau hyn yn ofalus ac wedi rhoi trefniadau eraill sydd o fewn ein rheolaeth ar waith, nid ydynt yn ddigonol yn ein barn ni. Rydym felly wedi ymrwymo i weithio gydag adrannau’r llywodraeth i sicrhau bod cyflwyno’r rheolaethau mewnforio gwell hyn yn darparu lefelau uchel o amddiffyniad i ddefnyddwyr yn y DU.

Crynodeb o’r adroddiad

Mae’r adroddiad yn cynnwys pum prif bennod, ac mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar system fwyd y DU. Rydym wedi rhestru pwyntiau allweddol pob pennod isod. Er bod y rhan fwyaf o’r data a ddarperir yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2021, rydym wedi cynnwys data hanesyddol lle y bo’n briodol, yn ogystal â’n hymchwil defnyddwyr diweddaraf ar fuddiannau, anghenion a phryderon cyhoedd y DU mewn perthynas â bwyd a gynhaliwyd ddechrau 2022.

Plât y genedl

Mae’r bennod hon yn ystyried y mathau o fwyd sydd ar blât y genedl a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ynghylch i ba raddau rydym yn dilyn argymhellion deietegol. Mae hefyd yn edrych ar ein harferion bwyta a’n hymddygiad prynu, gan gynnwys y ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn.

  1. Ychydig iawn o newid sydd wedi bod o ran faint o faethynnau y mae’r genedl yn eu bwyta dros y degawd diwethaf, gyda llawer o bobl yn dal i fethu â bodloni argymhellion deietegol swyddogol. Fodd bynnag, bu gostyngiad nodedig o ran faint o siwgrau rhydd sy’n cael eu bwyta ar gyfartaledd, yn enwedig ymhlith plant (er ei fod yn dal i fod yn llawer uwch na’r hyn a argymhellir). Mae pobl hefyd yn bwyta llai o gig coch a chig wedi’i brosesu. Dywed un o bob pedwar eu bod bellach yn mabwysiadu arferion bwyta ‘hyblyg’, sy’n golygu eu bod yn dal i fwyta cig, cynnyrch llaeth ac anifeiliaid ond dim cymaint ohonynt.
  2. Mae’n ymddangos bod effaith y pandemig ar ddeietau pobl wedi amrywio. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhai pobl wedi paratoi a bwyta prydau iachus gartref oherwydd y cyfyngiadau, ond eu bod hefyd wedi cyfrannu at duedd pobl i fwyta byrbrydau a bwyd tecawê afiach. Nododd pobl sy’n dod o gartrefi â diogeledd bwyd is neu gartrefi llai diogel yn ariannol eu bod yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau, llai o bysgod ac yn yfed mwy o ddiodydd meddal wedi’u melysu â siwgr na’r rhai a oedd yn fwy diogel yn ariannol neu â mwy o ddiogeledd bwyd.
  3. Mae ymchwil ddiweddaraf yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn dangos mai’r prif beth y mae’r cyhoedd yn pryderu amdano yw cael mynediad at fwyd iachus am bris fforddiadwy. Dywedodd mwy na thri chwarter (76%) eu bod yn poeni neu’n poeni’n fawr am gost bwyd. 
  4. Mae’r cynnydd ym mhrisiau bwyd yn ddiweddar yn cyflwyno peryglon cynyddol i safon y bwyd y mae pobl yn ei fwyta. Dywedodd mwy na hanner o ddefnyddwyr (53%) eu bod yn teimlo na allant fforddio prynu bwyd iachus, ac mae un o bob pedwar defnyddiwr bellach yn teimlo mai’r unig fwydydd sydd ar gael iddynt yn ymarferol yw bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth. Mae hyn yn cynyddu i oddeutu hanner defnyddwyr ar gyfer cartrefi sy’n wynebu diffyg diogeledd bwyd. Wrth i bwysau ariannol ar incwm cartrefi ddwysáu eleni, mae’n debygol y bydd hyn yn effeithio ar ansawdd y bwyd sydd ar blât y genedl.

Safbwynt byd-eang

Mae’r bennod hon yn edrych ar ddiogelwch bwyd wedi’i fewnforio dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r trafodaethau cynyddol ar sut rydym yn cynnal safonau cynhyrchu ehangach wrth i’r DU ymrwymo i bartneriaethau masnachu newydd. Mae hyn yn bwysig oherwydd nid yw diogelwch bwyd ar ei ben ei hun yn gwarantu safonau uchel.

5. Mae tua 40 miliwn o dunelli o fwyd yn cael ei fewnforio o dramor bob blwyddyn. Yr UE yw’r cyflenwr mwyaf o bell ffordd, gan gyfrif am fwy na 90% o’r holl gynhyrchion cig eidion, llaeth, wyau a phorc a fewnforir i’r DU, a bron i ddwy ran o dair (65%) o’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid nad yw’n dod o anifeiliaid.

6. Er gwaethaf anweddolrwydd diweddar o ran patrymau mewnforio, nid oes unrhyw arwydd o newid uniongyrchol neu gyfan gwbl i’r llif masnachu yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, er bod mewnforion pysgod, cig oen a chig dafad, a phorc wedi gostwng rhwng 2019 a 2021.

7. Mae dadansoddiad o lefelau cydymffurfio mewn gwiriadau rheolaethau mewnforio a gynhaliwyd rhwng 2020 a 2021 yn dangos na fu unrhyw newid ystyrlon yn safon y nwyddau a fewnforir o ganlyniad i’r pandemig neu ymadawiad y DU â’r UE.

8. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar y byddai rheolaethau mewnforio llawn ar gyfer nwyddau sy’n dod o’r UE i Brydain Fawr yn cael eu gohirio ac y bydd dull modern o reoli’r ffin yn disodli’r dull presennol, a hynny erbyn diwedd 2023. Tan hynny, bydd awdurdodau diogelwch bwyd y DU yn parhau i reoli risgiau trwy hysbysiadau ymlaen llaw [1], a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2022 ar gyfer rhai mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel, a thrwy wella gallu a chapasiti a roddwyd ar waith fel rhan o’r cynllunio ar gyfer ymadael â’r UE i nodi digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid, ac ymateb iddynt yn effeithiol.

9. Er nad oes tystiolaeth i ddangos bod safonau mewnforion yr UE wedi gostwng, mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban o’r farn bod y sefyllfa bresennol yn lleihau ein gallu i atal bwyd nad yw’n bodloni safonau uchel y DU rhag cael ei roi ar ein marchnad. Mae’r diffyg rheolaethau mewnforio yn golygu nad ydym yn cael sicrwydd swyddogol gan y wlad sy’n allforio fod eu mewnforion yn bodloni safonau diogelwch uchel y DU ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Gallai absenoldeb archwiliadau ar y ffin hefyd effeithio ar y ffordd rydym yn nodi ac yn ymateb i risgiau yn y dyfodol, gan olygu bod angen mwy o adnoddau ar y DU i gynnal lefelau sicrwydd diogelwch bwyd ar gyfer y mewnforion hyn.

10. Mae cytundebau masnach rydd newydd gydag Awstralia a Seland Newydd wrthi’n cael eu cadarnhau ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn. Mae gan Lywodraeth y DU rwymedigaeth statudol i roi gwybod i Senedd y DU a yw pob cytundeb masnach rydd yn diogelu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu’r amgylchedd ar lefel statudol. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn darparu cyngor ar ddiogelwch statudol er budd iechyd pobl yn ystod y broses hon.

Diogel a chadarn

Mae’r bennod hon yn ystyried faint o ddigwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt dros y cyfnod dan sylw, ac yn archwilio’r gwahanol ffactorau sy’n dylanwadu arnynt. Mae hefyd yn disgrifio’r tueddiadau diweddaraf o ran troseddau bwyd a’r hyn sy’n llywio ein hymateb iddynt.

11. Mae ein dadansoddiad o ddigwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt yn dangos gostyngiad yn nifer y digwyddiadau yn 2020. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu’r ffaith bod llai o fusnesau bwyd wedi masnachu yn ystod y cyfnod clo, a bod archfarchnadoedd wedi cyfyngu ar yr ystod o gynhyrchion. Ers hynny, mae’r nifer o hysbysiadau wedi dychwelyd i lefelau cyfartalog hanesyddol.

12. Roedd cynnydd yn nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yr adroddwyd amdanynt yn ystod 2020 a 2021. Roedd hyn o ganlyniad i wyliadwriaeth well (yn benodol, cyflwyno Dilyniannu Genom Cyfan i olrhain ffynhonnell yr achosion) ac effaith benodol brigiad o achosion o salmonela mewn cynhyrchion cyw iâr mewn briwsion bara a arweiniodd at gynnydd mewn gwaith samplu.


13. Roedd gostyngiad yn nifer y digwyddiadau’n ymwneud ag alergenau bwyd rhwng 2019 a 2021, a allai ddangos bod ymwybyddiaeth ac arferion y diwydiant yn gwella yn dilyn nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae adroddiadau eang am ethylen ocsid mewn hadau sesame yn yr UE a’r DU yn cyfrif am lawer o’r achosion o halogiad cemegol yr adroddwyd amdanynt yn 2020 a 2021.

14. Mae ymadawiad y DU â’r UE yn golygu nad oes gan y DU fynediad llawn at System Rhybuddio Cyflym y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) erbyn hyn, er ein bod yn parhau i gael hysbysiadau sy’n ymwneud â’r DU. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi creu trefniadau amgen gyda phartneriaid rhyngwladol eraill yn ogystal â buddsoddi mewn dulliau gwyliadwriaeth newydd. Mae lefelau’r hysbysiadau a gafwyd ac a anfonwyd, gan wledydd yn yr UE a gwledydd y tu allan i’r UE, wedi aros yn sefydlog.

15. Nododd dwy uned troseddau bwyd y DU bron i 100 o ‘darfiadau’ [2] llwyddiannus ar weithgarwch troseddol yn y gadwyn fwyd yn 2021. Yn yr Alban, mae pum achos wedi’u cyfeirio at Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Cyllidol, gyda thri o’r rhain yn cael eu hystyried o dan y weithdrefn ddeisebu a gedwir ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol. Y llynedd, gwelwyd yr erlyniad cyntaf o ganlyniad i ymchwiliad gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd, yn ymwneud â gwerthu 2,4 deunitroffenol (DNP) ochr yn ochr â throseddau eraill a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau a reolir a meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig.

16. Er gwaethaf y pwysau ar y gadwyn cyflenwi bwyd yn sgil y pandemig ac ymadawiad y DU â’r UE, ni fu unrhyw dystiolaeth o droseddwyr yn camfanteisio’n sylweddol. Ni fu unrhyw gynnydd canfyddadwy mewn troseddau bwyd dros y cyfnod hwn.

Hysbysu defnyddwyr

Mae’r bennod hon yn ystyried y goblygiadau i wybodaeth am fwyd ar ôl ymadael â’r UE, gan gynnwys y camau a gymerwyd i ddarparu parhad busnes ar ôl y cyfnod pontio, y newidiadau i bolisi domestig er mwyn diogelu a rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr, a’r datblygiadau yn y dyfodol ar gyfer gwella tryloywder labelu bwyd. 

17. Arweiniodd ymadawiad y DU â’r UE at gyfres o gamau gweithredu gyda’r nod o sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, gan gynnwys deddfwriaeth newydd, newid safonau cyfansoddiadol a labelu gwlad tarddiad. Sefydlwyd Pwyllgor Hawliadau Maeth ac Iechyd newydd y DU (UKNHCC) i ddarparu cyngor a chraffu arbenigol ar honiadau marchnata bwyd. Mae’r trefniadau presennol yn parhau yng Ngogledd Iwerddon o dan delerau Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon.

18. Mae gwaith samplu a gynhaliwyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ystod y pandemig yn rhoi sicrwydd rhesymol bod diogelwch sylfaenol y rhan fwyaf o gynhyrchion yn cael ei gynnal. Fodd bynnag, roedd nifer sylweddol o gynhyrchion a brofwyd heb fodloni’r safonau gofynnol ar gyfer o leiaf un elfen, yn arbennig yn nhermau ansawdd a chywirdeb gwybodaeth i ddefnyddwyr. Mae hyn yn tanlinellu’r angen am waith monitro parhaus a mwy o fuddsoddiad mewn ystod ehangach o weithgareddau samplu.

19. Mae hwn hefyd wedi bod yn gyfnod arwyddocaol o ran datblygu polisi domestig sy’n ymwneud â gwybodaeth am fwyd, ar ôl cyflwyno diwygiadau i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 a’r hyn sy’n cyfateb iddynt yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon [3]. Mae’r Rheoliadau hyn, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn mynnu bod yr holl fwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol yn cynnwys gwybodaeth gliriach am gynhwysion ac alergenau. Hefyd, cafodd labelu calorïau gorfodol ei gyflwyno mewn safleoedd bwyd mawr ledled Lloegr. 

20. Er mwyn cynnal safonau dilysrwydd bwyd a gwybodaeth am fwyd yn y dyfodol, bydd yn rhaid ymdrin yn barhaus ag ystod o heriau hirdymor – o fynd i’r afael â phrinderau capasiti arolygu, i fireinio ac ehangu graddfa gweithgarwch samplu a gynhelir gan awdurdodau diogelwch bwyd. Mae’r twf mewn masnach ar-lein hefyd yn creu mwy o gymhlethdod drwy gynyddu nifer y busnesau ar-lein y mae angen eu goruchwylio a darparu sicrwydd yn eu cylch.

Pwysigrwydd hylendid

Mae’r bennod hon yn asesu safonau hylendid mewn gwahanol fathau o sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n olrhain y data diweddaraf sydd ar gael ar gydymffurfiaeth gyfreithiol, yn ogystal â sut mae busnesau bwyd yn perfformio yn unol â’r ddwy system sgorio hylendid bwyd. Gan gydnabod y tarfu yn sgil y pandemig, mae’r bennod hefyd yn edrych ar ba gamau sy’n cael eu cymryd i adfer a chryfhau systemau arolygu ar gyfer y dyfodol.

21. Mae awdurdodau lleol ledled y DU yn gyfrifol am gynnal amrywiaeth o wiriadau ac ymyriadau mewn sefydliadau bwyd. Roedd effaith y pandemig yn tarfu’n ddifrifol ar arolygiadau, a oedd yn effeithio ar allu timau arolygu i ymweld â llawer o sefydliadau. Mae angen cadw hyn mewn cof wrth ystyried data’r bennod hon.

22. Mae’r data cydymffurfio diweddaraf yn dangos bod dros 95% o’r busnesau bwyd a arolygwyd gan awdurdodau lleol yn cydymffurfio i raddau helaeth (neu well) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr un modd yn yr Alban, mae statws cydymffurfio â chyfraith bwyd yn uwch na 96%.

23. Enillodd tri chwarter y sefydliadau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o bump o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd sy’n rhoi sgôr rhwng 0 a 5, ond cafodd 3% sgôr o ddau neu is, sy’n golygu bod angen gwella, angen gwella yn sylweddol neu angen gwella ar frys. O dan Gynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yr Alban, sy’n rhoi sgôr ‘pasio’ neu ‘angen gwella’, cafodd bron i 94% o fusnesau yn yr Alban sgôr pasio dros y tair blynedd diwethaf, gyda thua 6% o fusnesau angen gwella. Mae’r data’n seiliedig ar giplun o sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd ar 31 Rhagfyr 2021. Mae hyn yn cynnwys asesiadau sgorio a gynhaliwyd yn ystod a chyn y pandemig.

24. Roedd sefydliadau cig, sefydliadau llaeth a busnesau bwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â safonau hylendid i lefel uchel a sefydlog, wrth i’r rhan fwyaf ohonynt gael eu barnu’n gwbl lân. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y cyfyngiadau cymdeithasol wedi effeithio ar y gweithgarwch archwilio ac arolygu, gyda llawer o wiriadau’n cael eu cynnal o bell. Dylai darlun mwy pendant ddod i’r amlwg yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

25. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gweithio gydag awdurdodau lleol wrth iddynt ailddechrau arolygu busnesau bwyd, gan ddechrau gyda’r sefydliadau hynny sydd â hanes o ddiffyg cydymffurfio neu y tybir eu bod yn rhai risg uchel. Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod arolygwyr awdurdodau lleol yn gweld lefelau uwch o ddiffyg cydymffurfio yn y busnesau y maent wedi’u harolygu ers dechrau’r pandemig. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i allu dweud a yw’r gostyngiad hwn mewn safonau yn cael ei adlewyrchu’n ehangach mewn busnesau eraill.

26. Ymhlith y ffactorau eraill sy’n debygol o effeithio ar safonau hylendid bwyd yn y dyfodol mae’r cynnydd mewn marchnadoedd ar-lein. Nid yw’r rhain yn peri risg o reidrwydd, ond maent yn galluogi busnesau bwyd newydd i ymddangos yn gyflym iawn, gyda’r risg gysylltiedig y gallai llawer ohonynt fod heb eu cofrestru ac yn gweithredu heb oruchwyliaeth nac arolygiad digonol o’u harferion.

27. Mae recriwtio a chadw’r gweithlu hefyd yn cyflwyno heriau. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn rhoi mesurau ar waith i recriwtio a chadw milfeddygon swyddogol ac arolygwyr hylendid cig, ac ar yr un pryd maent hefyd yn cefnogi ymdrechion awdurdodau lleol i wneud yr un peth ar gyfer swyddogion iechyd yr amgylchedd a swyddogion safonau masnach. Byddwn yn adolygu’r cynnydd a wneir yn y meysydd