Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ein Bwyd 2021: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Pennod 4: Hysbysu defnyddwyr, y datblygiadau diweddaraf o ran labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd

Bob dydd, mae defnyddwyr yn cael llwyth o wybodaeth am y bwyd y maent yn ei fwyta, boed ar labeli a’r deunydd pecynnu, gwefannau, neu ddeunyddiau marchnata a hysbysebu eraill.

Cipolwg

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • sut mae rheoliadau gwybodaeth am fwyd yn esblygu yn sgil ymadawiad y DU â’r UE
  • effaith y datblygiadau hyn ar y cyhoedd a’r diwydiant bwyd
  • pa ffactorau all ddylanwadu ar safonau gwybodaeth am fwyd yn y dyfodol

Cyflwyniad

Bob dydd, mae defnyddwyr yn cael llwyth o wybodaeth am y bwyd y maent yn ei fwyta, boed ar labeli a’r deunydd pecynnu, gwefannau, neu ddeunyddiau marchnata a hysbysebu eraill

Mae llawer o’r wybodaeth hon wedi’i chreu i’n helpu i wneud penderfyniadau gwrthrychol a gwybodus am ein dewisiadau bwyd – ac i rai pobl, gall hyn gael goblygiadau iechyd sylweddol, yn enwedig pobl sydd ag alergeddau bwyd neu gyflyrau hirdymor sy’n effeithio ar eu hanghenion deietegol.

Fodd bynnag, weithiau gall eglurder a chywirdeb yr wybodaeth hon fynd yn erbyn sut mae’r cynnyrch yn cael ei farchnata neu ei labelu. Pan fydd hyn yn digwydd, mae safonau gwybodaeth am fwyd yno i sicrhau bod cwmnïau bwyd yn onest ac yn dryloyw o ran yr hyn y maent yn ei ddweud, a bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth glir a chywir sydd ei hangen arnynt.

Mae’r bennod hon hefyd yn ystyried goblygiadau yn y maes hwn ers i’r DU ymadael â’r UE. Mae llawer o’r rheolau sy’n llywodraethu labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd yn y wlad hon yn seiliedig ar gyfraith bwyd Ewropeaidd. Gan fod llawer o’r DU bellach y tu allan i’r awdurdodaeth hon, rydym yn ystyried pa gamau sydd wedi’u cymryd i gynnal sefydlogrwydd a pharhad i fusnesau, a sut olwg sydd ar y dyfodol.

Rydym hefyd yn ystyried sut mae’r safonau ar gyfer labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, gan olrhain effaith newidiadau allweddol fel gwybodaeth well am alergenau, labelu maeth ar flaen deunydd pecynnu a nodi calorïau ar fwydlenni mewn bwytai a sefydliadau bwyd eraill y tu allan i’r cartref.

Yn olaf, rydym yn dangos canlyniadau arolwg basged o fwyd a oedd yn samplu diogelwch a chyfansoddiad detholiad o eitemau sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chanlyniadau rhaglen samplu bwyd blynyddol Safonau Bwyd yr Alban.

Pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ar label bwyd?

Food labelling must, by law, convey a number of important pieces of information.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i labeli bwyd gyfleu nifer o ddarnau pwysig o wybodaeth. Nodir isod y gofynion mwyaf cyffredin ar gyfer y rhan fwyaf o fwydydd wedi’u pecynnu. Ceir rhai eithriadau pwysig a chaiff y rhain eu hesbonio’n fanylach yn y canllawiau swyddogol ar gyfer busnesau.

1. Enw a disgrifiad: Rhaid i bob bwyd wedi’i becynnu ddisgrifio’n gywir beth yw’r bwyd. Rhaid i rai enwau bwyd fodloni safonau cyfansoddiadol penodol sy’n diogelu defnyddwyr trwy atal cynhwysion rhag cael eu disodli gan ddewisiadau eraill o ansawdd gwaeth. Er enghraifft, rhaid i fyrgyr cig eidion gynnwys o leiaf 62% o gig eidion er mwyn cael ei ddisgrifio felly [32].

2. Rhestr gynhwysion: Yn aml iawn, mae’r rhestr gynhwysion ar y label yn cynnwys yr holl wybodaeth fanwl am yr hyn sydd yn y bwyd. Yn amodol ar eithriadau, rhaid i unrhyw fwyd sy’n cynnwys dau gynhwysyn neu fwy eu rhestru i gyd yn ôl eu pwysau, o’r trymaf i’r ysgafnaf. Rhaid i’r rhestr bwysleisio unrhyw un o’r 14 prif alergen sydd yn y cynnyrch yn glir. Os nad oes safonau cyfansoddiadol penodol, rhaid nodi nifer (er enghraifft, canran) rhai cynhwysion. Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn enw’r bwyd neu’r rhestr gynhwysion fel bod defnyddwyr yn gwybod faint maent yn ei fwyta. Mae’n berthnasol mewn rhai amgylchiadau gan gynnwys pan fo cynhwysyn yn cael ei bwysleisio trwy eiriau neu luniau ar y label, neu mae’n berthnasol i gynhwysion y mae’r defnyddiwr yn eu cysylltu â’r bwyd fel y caws ar pizza margherita.

Mae’r label hwn yn dangos enw’r bwyd ynghyd â rhestr gynhwysion sy’n pwysleisio’r alergenau.

Label bwyd ar gyfer pasta penne Eidalaidd mewn saws tomato a basil, gyda mozzarella a cheddar aeddfed ar ei ben ynghyd â’r rhestr gynhwysion lawn gydag alergenau wedi’u hamlygu mewn print trwm.

3. Gwybodaeth am faeth: Rhaid i fwyd wedi’i becynnu nodi faint o egni, cyfanswm braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, protein a halen sydd mewn dogn (portion) arferol. Mae cynllun labelu maeth ar flaen pecynnau gwirfoddol a ddefnyddir gan lawer o weithgynhyrchwyr bwyd hefyd yn helpu defnyddwyr i gymharu cynnwys calorïau, braster, siwgr a halen yn fras mewn cynhyrchion bwyd.

Dyma enghraifft o label maeth, y cyfeirir ato’n aml fel gwybodaeth orfodol am faeth ar gefn y pecyn.

Enghraifft o label maeth, y cyfeirir ato’n aml fel gwybodaeth orfodol am faeth ar gefn y pecyn.

Dyma enghraifft o label maeth gwirfoddol ar flaen pecyn. Mae hyn yn seiliedig ar ailadrodd rhai elfennau o’r datganiad maeth gorfodol ar gefn pecynnau er mwyn rhoi syniad bras i ddefnyddwyr o’r egni a’r cynnwys maethol.

Enghraifft o label maeth gwirfoddol ar flaen y deunydd pecynnu, y cyfeirir ato’n aml fel labelu bwyd yn ôl lliwiau goleuadau traffig.

4. Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’: Dylai bwyd wedi’i becynnu gynnwys naill ai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Rhoddir dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ar fwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, fel cynhyrchion cig neu saladau parod i’w bwyta. Mae’r dyddiad yn dweud wrth y defnyddiwr pan na fydd y bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’, sy’n cael ei ddangos weithiau fel BBE (best before end), yn ymwneud ag ansawdd ac nid diogelwch. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau. Mae’r ddau ddyddiad ond yn gywir os dilynir yr wybodaeth storio ar y label yn iawn.

Enghraifft o ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar gynnyrch bwyd gyda gwybodaeth storio oddi tano yn dweud “Keep refrigerated”.

5. Rhybuddion: Rhaid i fwyd sy’n cynnwys rhai ychwanegion neu gynhwysion eraill gynnwys rhybuddion perthnasol hefyd – er enghraifft, rhaid i unrhyw ddiod, nad yw’n de neu goffi, sy’n cynnwys mwy na swm penodol o gaffein nodi, ‘Not suitable for children, pregnant women and persons sensitive to caffeine’.

Label diod egni gyda disgrifiad o’r cynnyrch, rhestr gynhwysion a datganiad rhybudd yn ymwneud â chynnwys caffein uchel y cynnyrch.

6. Man Tarddiad: Dylai rhai bwydydd hefyd gynnwys gwybodaeth yn nodi o ble y daw’r bwyd (ei darddiad). Ar gyfer rhai bwydydd fel porc, dofednod a physgod ffres ac wedi’u rhewi wedi’u pecynnu ymlaen llaw, mae angen gwybodaeth am darddiad bob amser. Yn achos bwyd wedi’i brosesu, mae angen gwybodaeth am darddiad os yw’r labelu’n awgrymu y gallai ddod o wlad neu safle penodol pan nad yw hyn yn wir. Os rhoddir gwybodaeth am darddiad, mae angen i’r label ddangos o ble y daw’r prif gynhwysion neu os nad ydynt yn dod o’r un man tarddiad.

Enghraifft o label a allai roi’r argraff bod bwyd yn dod o Wlad Groeg.

Delwedd o label bwyd sy’n dweud “Greek Style Yoghurt” mewn ffont mawr gyda’r testun oddi tano yn dweud “Produced in the UK” mewn ffont ychydig yn llai.

Enghraifft o label sy’n dangos bwyd wedi’i wneud gyda chynhwysyn o wlad arall.

Enghraifft o label bwyd sy’n dangos bwyd wedi’i wneud â chynhwysyn o wlad arall, sef coesyn sinsir o Awstralia yn yr achos hwn. Mae’r label yn dweud “Made in the UK with Australian stem ginger”.

Cyfrifoldebau adrannau a gorfodi

Mae gwahanol adrannau ledled y DU yn gyfrifol am bolisi labelu bwyd a safonau cyfansoddiad bwyd.

Yn Lloegr, Defra sy’n gyfrifol am labelu bwyd a safonau cyfansoddiad bwyd yn gyffredinol, gyda’r ASB yn gyfrifol am labelu diogelwch bwyd a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn arwain ar labelu maeth.

Yn yr Alban, Safonau Bwyd yr Alban sy’n gyfrifol am labelu bwyd cyffredinol, gan gynnwys labelu diogelwch bwyd, safonau cyfansoddiadol, a labelu maeth.

Yng Nghymru, mae’r ASB yn gyfrifol am labelu cyffredinol a diogelwch bwyd, ac mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am labelu maeth.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r ASB yn gyfrifol am yr holl feysydd hyn.

Awdurdodau lleol sy’n gorfodi’r gofynion hyn, a gall adrannau iechyd yr amgylchedd neu safonau masnach fod yn gyfrifol am wneud hyn, yn dibynnu ar eu lleoliad yn y DU.

Effaith ymadawiad y DU â’r UE

Ymadael â’r UE

Er bod y rhan fwyaf o’r cyfreithiau labelu a gwybodaeth am fwyd sy’n dod o’r UE wedi’u cadw, ceir rhai newidiadau sy’n effeithio ar fasnach rhwng Prydain Fawr a’r UE, a busnesau Prydeinig sy’n anfon bwyd i Ogledd Iwerddon. Mae’r ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac adrannau’r llywodraeth, gan gynnwys Defra ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon wedi helpu’r diwydiant gyda’r newidiadau hyn.

Mae ymadawiad y DU â’r UE yn drobwynt sylweddol ar gyfer cyfreithiau gwybodaeth am fwyd y mae rheoliadau Ewropeaidd wedi dylanwadu arnynt yn drwm yn hanesyddol. O hyn ymlaen, bydd penderfyniadau ynghylch rheoleiddio a rheoli safonau labelu a gwybodaeth am fwyd yn cael eu gwneud ym Mhrydain Fawr.

O safbwynt defnyddwyr, ychydig iawn o effaith amlwg a fu hyd yn hyn – mae’r ffocws uniongyrchol wedi bod ar barhau â chyfreithiau presennol yr UE er mwyn lleihau unrhyw darfu ar gadwyni cyflenwi. Fodd bynnag, mae rhai sylfeini pwysig wedi’u rhoi ar waith mewn perthynas â safonau gwybodaeth am fwyd ar ôl ymadael â’r UE:

Diweddaru’r gyfraith

Mae cyfreithiau presennol yr UE sy’n llywodraethu labeli bwyd bellach wedi’u trosi’n gyfreithiau Prydeinig, gyda newidiadau cyfatebol i’r rheoliadau domestig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i ganiatáu i awdurdodau gorfodi barhau i orfodi’r cyfreithiau hyn.

Cael gwared ar gydnabyddiaeth gilyddol (mutual recognition) ar gyfer safonau cyfansoddiad bwyd

Mae trefniadau ‘cydnabyddiaeth gilyddol’ ar gyfer cynhyrchion sy’n cynnwys cig, brasterau taenadwy a blawd gwenith a gynhyrchir yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Norwy a Thwrci wedi’u dileu ym Mhrydain Fawr. Roedd cynhyrchion fel ceuled lemwn, briwgig, selsig, a marjarîn heb ei gyfnerthu yn flaenorol â chaniatâd i’w gwerthu yn y DU, hyd yn oed os nad oeddent yn bodloni safonau cyfansoddiadol y DU, ar yr amod eu bod wedi’u gwerthu’n gyfreithiol yn y wlad tarddiad. O 1 Hydref 2022 ymlaen, ni fydd hyn yn wir mwyach. Er enghraifft, bydd rhaid i flawd sydd wedi’i fewnforio bellach gael ei atgyfnerthu â chalsiwm, haearn, thiamin a niasin i’r lefel sy’n ofynnol ar gyfer blawd wedi’i felino ym Mhrydain.

Newidiadau i gyfeiriadau a labeli Gwlad Tarddiad

Bydd ymadawiad y DU â’r UE hefyd yn golygu newidiadau i gyfeiriadau a labelu gwlad tarddiad ar gyfer busnesau sy’n masnachu ym Mhrydain Fawr. Mae busnesau wedi cael tan ddiwedd mis Medi 2022 i wneud y newidiadau angenrheidiol. O 1 Hydref 2022 ymlaen, bydd angen i’r busnesau hynny nad ydynt wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr naill ai ddefnyddio mewnforwyr neu sefydlu endidau cyfreithiol yn y wlad hon.

Pwerau newydd i asesu ac awdurdodi honiadau maeth ac iechyd: 

Mae Prydain Fawr bellach yn gyfrifol am asesu ac awdurdodi’r honiadau maeth ac iechyd ar gynhyrchion. Mae Pwyllgor Hawliadau Maeth ac Iechyd newydd y DU (UKNHCC) wedi’i sefydlu er mwyn darparu cyngor a chraffu arbenigol i gefnogi’r penderfyniadau hyn.

Datblygiadau allweddol eraill mewn perthynas â safonau gwybodaeth am fwyd

Dylai gwybodaeth ar labeli bwyd ein helpu i wneud dewisiadau diogel a gwybodus am yr hyn rydym yn ei fwyta, ac mae’n arbennig o bwysig wrth helpu pobl ag alergeddau bwyd a gorsensitifrwydd i fwyd i gadw’n ddiogel.

Er ei bod yn annhebygol bod y mesurau uchod wedi cael unrhyw effaith dymor byr ar safonau gwybodaeth am fwyd, bydd rhai o’r newidiadau mawr canlynol i bolisi yn effeithio’n sylweddol ar y ffordd y mae defnyddwyr yn cael gwybodaeth am yr hyn y maent yn ei fwyta, ac mae sawl newid arall yn yr arfaeth.

Newidiadau i gyfreithiau labelu ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Cyflwynwyd rheoliadau newydd i ddiwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (a’r hyn sy’n cyfateb iddynt yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban)33, a elwir hefyd yn ‘Gyfraith Natasha’ ledled y DU o 1 Hydref 2021 ymlaen. Rhaid i bob bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) bellach gynnwys enw’r bwyd a rhestr gynhwysion ar y label, gan dynnu sylw at unrhyw alergenau o’r 14 prif alergen yn y rhestr honno. Mae’r gofynion yn cwmpasu’r holl fwydydd sy’n cael eu pecynnu ar y safle lle cânt eu gwerthu.

Sbardunwyd y newid hwn gan ymgyrch a arweiniwyd gan deulu Natasha Ednan- Laperouse, a brofodd adwaith alergaidd angheuol i baguette a oedd yn cynnwys sesame a brynwyd mewn siop.

Enghraifft o label a ddefnyddir ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol.

Enghraifft o label a ddefnyddir ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol, sef brechdan caws a phicl yn yr achos hwn. Mae’r holl gynhwysion wedi’u rhestru’n glir gydag alergenau wedi’u pwysleisio mewn print trwm.

Gwybodaeth orfodol am galorïau wrth fwyta allan yn Lloegr

Ym mis Ebrill 2022, daeth rheoliadau newydd i rym yn Lloegr yn ei gwneud yn ofynnol i gadwyni bwytai a busnesau mawr eraill â mwy na 250 o weithwyr ddarparu gwybodaeth am galorïau ar fwyd. Mae’r mesur yn rhan o Strategaeth Gordewdra Llywodraeth y DU, a’r bwriad yw helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau iachach yn ogystal ag annog busnesau i ailfformiwleiddio a chynnig dewisiadau â llai o galorïau. Mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Labelu Calorïau (Sector y Tu Allan i’r Cartref) (Lloegr) 2021. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn ar 1 Ebrill 2022 a bydd eu heffeithiolrwydd yn cael ei adolygu erbyn mis Ebrill 2026.

O dan gynllun cyflawni 2021 i 2022 Pwysau Iach: Cymru Iach, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar labelu calorïau gorfodol ar gyfer bwyd sy’n cael ei brynu a’i fwyta y tu allan i’r cartref yn 2022. Ymrwymodd cynllun gweithredu Llywodraeth yr Alban, Out of Home, i ymgynghori ar gynigion manwl ar gyfer labelu calorïau gorfodol ar fwyd a diodydd meddal a werthir y tu allan i’r cartref. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad hwn ar 8 Ebrill 2022.

Lleihau gwastraff bwyd

Yn 2019, gweithiodd yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban ac adrannau’r llywodraeth gyda sefydliadau lleihau gwastraff i gynhyrchu canllawiau swyddogol i helpu busnesau i ddefnyddio’r dyddiadau priodol ar eu cynhyrchion.

Mae’r canllawiau’n annog busnesau i ystyried eu dulliau cynhyrchu bwyd, a nodi a fyddai’n briodol defnyddio dyddiadau ‘ar ei orau cyn’, yn enwedig os na fydd y bwyd yn anniogel i’w fwyta gan bobl. Yn wahanol i gynhyrchion sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’, sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, nid oes angen taflu bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ o reidrwydd. Yn gyffredinol, po fwyaf y gall busnesau ddefnyddio dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ar eu cynhyrchion, y mwyaf o amser y bydd gan ddefnyddwyr i’w defnyddio, a fydd yn ei dro yn helpu i leihau gwastraff bwyd.

Gwella gwybodaeth ragofalus (precautionary) am alergenau

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i wella’r ffordd y mae busnesau bwyd yn cyfleu’r risg o groeshalogi alergenau mewn cynhyrchion bwyd, lle gellir canfod y mymryn lleiaf (traces) o alergenau mewn rhai cynhyrchion o ganlyniad i’r ffordd y caiff y bwyd neu’r cynhyrchion eu gweithgynhyrchu neu eu paratoi. O fis Rhagfyr 2021 i fis Mawrth 2022, ymgynghorodd yr ASB ar ddatblygu safonau gwell o ran gwybodaeth ragofalus am alergenau i dynnu sylw at y risgiau hyn.

Hyder y cyhoedd mewn gwybodaeth am fwyd

Felly, beth yw effaith hyn oll ar safbwynt y cyhoedd mewn perthynas â safonau gwybodaeth am fwyd?

Canfu ffigurau diweddaraf arolwg Bwyd a Chi 2 yr ASB fod dros wyth o bob deg o bobl (83%) yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir. Ymhlith y rheiny sy’n siopa i rywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd, roedd yr un gyfran (83%) yn teimlo’n hyderus yn yr wybodaeth am alergenau a ddarperir ar labeli bwyd.

Roedd pobl yn fwyaf hyderus o allu nodi alergenau mewn bwyd wrth siopa yn yr archfarchnad (71% yn y siop a 69% ar-lein), ac mewn siopau bwyd annibynnol (67%). Roedd yr ymatebwyr yn llai hyderus wrth brynu bwyd o farchnadoedd neu stondinau bwyd (57%).

Yn yr Alban, mae ffigurau o arolwg Safonau Bwyd yr Alban, Food in Scotland, yn dangos darlun tebyg, gyda 70% o bobl yn dweud eu bod yn ymddiried yn yr wybodaeth ar labeli bwyd. Ymhlith y rheiny ag alergeddau bwyd, roedd bron i dri chwarter (72%) yn ei chael hi’n hawdd iawn neu’n eithaf hawdd dod o hyd i wybodaeth am alergenau wrth brynu bwyd mewn archfarchnadoedd.

Mae hefyd rai meysydd ehangach sy’n peri pryder i’r cyhoedd. Mae ymchwil yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar fuddiannau, anghenion a phryderon cyhoedd y DU mewn perthynas â bwyd yn dangos bod tua chwech o bob deg ohonom yn credu bod bwydydd sy’n cael eu labelu fel ‘opsiynau iachach’ yn afiach mewn ffyrdd eraill.

Cydymffurfio â safonau gwybodaeth am fwyd

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cynnal gweithgarwch samplu rheolaidd i weld a yw’r cynhyrchion sydd ar gael mewn siopau ledled y wlad yn bodloni ystod o ofynion diogelwch, dilysrwydd a gwybodaeth am fwyd. Mae’r gweithgarwch samplu diweddaraf yn dangos i ba raddau y gwnaeth busnesau bwyd gynnal safonau yn ystod y pandemig.

Arolwg basged o fwyd

Yn 2020, ar ddechrau’r pandemig COVID-19, lansiodd yr ASB arolwg i wirio diogelwch a chyfansoddiad bwyd ar y farchnad yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd profion tebyg wedi hynny yn 2021 mewn arolwg ‘basged o fwyd’. Ei nod oedd cael cipolwg o gydymffurfiaeth â diogelwch a safonau bwyd, gan gynnwys presenoldeb alergenau a halogion, yn ogystal â gwybodaeth i ddefnyddwyr mewn perthynas â dilysrwydd a labelu.

Pennwyd y nwyddau a’r profion gan grŵp samplu traws-lywodraeth a oedd yn cynnwys yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban a Defra. Dewiswyd cynhyrchion oherwydd problemau dilysrwydd blaenorol (fel reis basmati, perlysiau a sbeisys), ynghyd â bwydydd sy’n cael eu bwyta yn gyffredin (fel bara a llaeth). Nid sampl ar hap o’r holl gynhyrchion a oedd ar gael ydoedd. At hynny, cymerwyd y mwyafrif o samplau gan fusnesau bwyd llai ledled y wlad (gan gynnwys siopau manwerthu ac ar-lein), sy’n cynnal gwaith samplu’n llai rheolaidd na busnesau bwyd mawr. Mae ffigur 30 yn dangos ble cafodd samplau eu casglu. Cynhaliwyd y gwaith samplu a phrofi gan Labordai Swyddogol y Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy’n gyfrifol am gynnal profion gorfodi ar fwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae ffigur 31 yn dangos y mathau o brofion a gynhaliwyd ar gyfer pob grŵp cynnyrch neu nwydd, nifer y samplau a brofwyd, a chanran y canlyniadau anfoddhaol. At ei gilydd, dangosodd canlyniadau’r arolwg fod 89% o’r cynhyrchion a brofwyd yn cydymffurfio â’r safon benodol a brofwyd gennym (ffigur 32). Roedd y mwyafrif o’r achosion o ddiffyg cydymffurfio a ganfuwyd yn ymwneud â labelu a chyfansoddiad.

Ffigur 30: Lleoliad samplau’r arolwg basged o fwyd a’r canlyniadau

Map of England and Wales showing the locations of samples taken as part of the basket of foods survey. The majority of samples were satisfactory and are marked on the map with a green dot. But the graphic also has red dots showing the location of unsatisfactory samples. Whilst there appear to be more samples taken in South East England and South Wales, there are no clear patterns in the distribution of red dots.

Dangosodd gwaith samplu’r ASB lefelau uchel o gydymffurfiaeth yn y rhan fwyaf o gategorïau – gyda rhai eithriadau nodedig

Ffigur 31: Arolwg basged o fwyd yr ASB: canlyniadau yn ôl categori bwyd

Dangosir nifer y samplau a gymerwyd ym mhob categori bwyd, gyda nifer y samplau nad oeddent yn cydymffurfio wedi’u nodi mewn cromfachau.

 

Nwydd Labelu Dilysrwydd Alergen Cyfansoddiad Halogi Difwyno
Reis basmati - 18 (3) - - - -
Bara 26 (2) - 26 (6) - - -
Caws 29 (0) 29 (0) - - - -

Heb gynnyrch llaeth (dairy free from)

29 (1) - 29 (1) - - -
Heb glwten 30 (4) - 30 (0) - - -
Llaeth 31 (0) - - 31 (6) - -
Olew olewydd 29 (1) 29 (0) - 29 (1) - -
Sudd oren 30 (2) - - 30 (0) - -
Oregano - 30 (1) - 30 (4) 30 (0) 30 (0)
Pasta - - - - - 30 (0)
Heb bysgnau (peanut free from) 30 (4) - 30 (0) - - -
Tyrmerig - 30 (0) - - 30 (2) 30 (0)
Cynhyrchion figan 24 (3) - 24 (0) - - -
Cyfanswm % yr achosion o ddiffyg cydymffurfio (yn ôl mater 7 3 5 9 3 0

Ffigur 32: % gyffredinol y samplau y barnwyd eu bod yn foddhaol, gyda math a chyfran yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yn ôl categori bwyd

Efallai na fydd canrannau’n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.

Graff bar yn dangos canran samplau’r Asiantaeth Safonau Bwyd y barnwyd eu bod yn foddhaol fesul categori. Mae hyn yn amrywio o basta a chaws y barnwyd eu bod 100% yn foddhaol i fara a oedd yn 69% yn foddhaol. Mae’r graff hefyd yn dangos canran y samplau nad oeddent yn foddhaol am wahanol resymau. Er enghraifft, o fewn y categori bara, methodd 8% o samplau oherwydd labelu, a 23% oherwydd diffyg cydymffurfio ag alergenau.

Roedd pryderon nodedig yn cynnwys presenoldeb alergenau na chawsant eu datgan ar y label mewn 7 sampl, gyda phob pryder ond un yn ymwneud â bara. Mae hyn yn cyfateb i 5% o’r samplau a brofwyd ar gyfer alergenau heb eu datgan, a chafodd y rhain eu nodi fel digwyddiadau gan yr ASB. Nodwyd achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â dilysrwydd mewn un sampl o oregano (wedi’i ddifwyno (adulterated) â dail olewydd) a thri sampl o reis basmati (wedi’u difwyno â reis nad oedd yn reis basmati). Roedd y samplau hyn yn cyfateb i 3% o gyfanswm y samplau a brofwyd o ran dilysrwydd.

Cafwyd achosion hefyd lle nad oedd y cyfansoddiad yn gyson â’r gofynion cyfreithiol. Nid oedd cynnwys braster 19% o’r samplau llaeth a brofwyd yn gyson â’r hyn oedd ar y label, gyda rhai yn cynnwys mwy a rhai yn cynnwys llai na’r hyn a ddatganwyd, a’r cyfan y tu allan i’r lefelau a ganiateir (gyda gwyriad yn amrywio o 2% i 17% oddi wrth y lefelau a ganiateir).

Ar gyfer llawer o gynhyrchion eraill (fel cynhyrchion figan a chynhyrchion 'rhydd rhag'), roedd canlyniadau anfoddhaol yn ymwneud ag agweddau technegol ar labelu, ac nid oeddent yn cynrychioli risg penodol i iechyd y cyhoedd – er enghraifft, materion yn ymwneud â pha mor hawdd i’w ddarllen oedd y math o ffont a ddefnyddiwyd i ddarparu gwybodaeth am alergenau a datganiadau croeshalogi rhagofalus i ddefnyddwyr.

At ei gilydd, mae’r arolwg hwn yn rhoi hyder rhesymol yn niogelwch y mwyafrif o gynhyrchion, yn enwedig o ystyried bod gwaith samplu wedi’i dargedu at feysydd risg uchel. Nodwyd nifer bach o faterion diogelwch (llai na 3% o gyfanswm y samplau a brofwyd), gan atgyfnerthu’r angen am raglen samplu a gorfodi reolaidd, yn enwedig ar gyfer alergenau. Fodd bynnag, nid oedd nifer sylweddol o’r cynhyrchion a brofwyd yn bodloni’r safonau gofynnol mewn o leiaf un maes, yn enwedig o ran labelu a darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr, gan bwysleisio’r angen am ganllawiau pellach i’r diwydiant a monitro parhaus.

Er nad oedd hwn yn arolwg cynrychioliadol, mae’n tynnu sylw at yr angen am wyliadwriaeth barhaus ac mae’r ASB yn cynllunio gwaith samplu pellach yn 2022-23. Ymdrinnir â gwaith samplu cig a chynhyrchion cig yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Rhaglen samplu bwyd wedi’i thargedu flynyddol Safonau Bwyd yr Alban

Mae Safonau Bwyd yr Alban hefyd yn cynnal rhaglen samplu bwyd wedi’i thargedu bob blwyddyn. Caiff blaenoriaethau samplu a ddewisir bob blwyddyn eu llywio gan wybodaeth a thueddiadau o Gronfa Ddata Samplu Bwyd yr Alban (SFSD), gweithgareddau sganio’r gorwel, materion a nodir gan awdurdodau lleol a thrwy gysylltu ag eraill (gan gynnwys yr ASB).

Mae’r rhaglen yn ymdrin â materion diogelwch bwyd a safonau bwyd. Mae safonau bwyd yn cynnwys dilysrwydd a phrofi alergenau, yn ogystal â dadansoddi labeli. Mae data a gyflwynir yn y bennod hon yn canolbwyntio ar faterion safonau bwyd yn unig, ac nid yw’n cynnwys unrhyw ddata am ddiogelwch bwyd a ddaeth i law yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae canlyniadau gwaith samplu wedi’i dargedu a gynhaliwyd yn 2021 yn dangos lefelau uchel o gydymffurfiaeth ar y cyfan, gyda 90.2% o’r samplau yn rhoi canlyniadau boddhaol (ffigur 33). Nifer isel o ganlyniadau anfoddhaol a gafwyd ar gyfer y mwyafrif o nwyddau a brofwyd, sy’n rhoi lefel resymol o hyder bod y cynhyrchion a samplwyd yn bodloni’r safonau bwyd gofynnol.

Fodd bynnag, roedd y gyfradd fethu uchaf yn ymwneud â briwgig eidion wedi’i becynnu ymlaen llaw (25%), lle’r oedd lefel y braster yn y cynnyrch terfynol yn uwch na’r hyn a nodwyd ar y label, ac mae hyn yn peri pryder. Er nad yw hyn yn broblem diogelwch bwyd, mae angen i ddefnyddwyr allu ymddiried yng nghywirdeb gwybodaeth labelu, sy’n tanlinellu’r angen am fuddsoddiad priodol mewn gwaith samplu a monitro parhaus a, lle bo angen, gamau gorfodi. Bydd unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodir yn llywio blaenoriaethau samplu Safonau Bwyd yr Alban yn y dyfodol.

Ffigur 33: % gyffredinol o samplau a gafodd eu hasesu i fod yn foddhaol neu’n anfoddhaol fel rhan o waith samplu Safonau Bwyd yr Alban (2021)

Graff bar yn dangos canran samplau Safonau Bwyd yr Alban yr aseswyd eu bod yn foddhaol neu’n anfoddhaol fesul categori. Mae’r canlyniadau’n amrywio o laeth cnau coco y gellir ei yfed a grawnfwyd heb glwten, a bariau grawnfwyd a chacennau – sy’n dangos bod 100% o’r samplau’n foddhaol – i friwgig eidion wedi’i becynnu ymlaen llaw sy’n dangos mai dim ond 75% o samplau oedd yn foddhaol, a 25% yn anfoddhaol.

Edrych i’r dyfodol

Er mwyn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol, rhaid i safonau gwybodaeth am fwyd fodloni anghenion y defnyddiwr a’r datblygiadau allweddol yn ein system fwyd.

Mae technoleg yn offeryn arbennig o bwysig. Wrth i fwy o bobl brynu bwyd ar-lein, mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn archwilio sut y gallant weithio gyda busnesau i sicrhau bod cysondeb ac ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr yn cael ei chynnal, boed hynny wrth brynu bwyd yn y siop neu ar wefan.

Yn yr un modd, mae’r nifer cynyddol o fusnesau bwyd sy’n masnachu ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy farchnadoedd ar-lein eraill yn ei gwneud hi’n anoddach monitro cydymffurfiaeth â chyfreithiau gwybodaeth am fwyd mewn ffordd gyson.

Mae pwysau eraill ar safonau gwybodaeth am fwyd yn faterion allanol. Mae tarfu mawr ar gadwyni cyflenwi – fel y gwelwyd yn ddiweddar o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin – yn debygol o gynyddu’r risg o labelu camarweiniol, yn enwedig os caiff cynhwysion neu gynhyrchion eu newid ar fyr rybudd. Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant bwyd a swyddogion gorfodi yn yr achosion hyn i sicrhau bod defnyddwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ac yn olaf, rhaid i unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ar safonau gwybodaeth am fwyd ym Mhrydain Fawr barhau i roi sylw manwl i newidiadau i gyfraith yr UE yng ngoleuni Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon.

Sganio’r gorwel: datblygiadau rhyngwladol allweddol

Mae’r UE yn ystyried sawl newid pwysig i’w rheolau ar labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd a fydd, os cânt eu gweithredu, yn effeithio ar Ogledd Iwerddon ac ar fusnesau ym Mhrydain Fawr sy’n allforio i’r UE. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cynnig ar gyfer dynodi tarddiad cynhyrchion penodol, a fyddai’n ymestyn y gofynion o ran gwybodaeth tarddiad sydd eisoes yn berthnasol i fwyd fel cig eidion, dofednod, pysgod, wyau, ac olew olewydd.
  • proffiliau maethynnau newydd i roi sgôr gyffredinol ar gyfer bwyd yn hytrach na manylu ar yr egni a’r maeth unigol. Gallai’r rhain gael eu defnyddio i gyfyngu ar y defnydd o honiadau iechyd ar gyfer cynhyrchion sy’n cynnwys llawer o egni, halen, siwgrau rhydd a braster dirlawn, ac o bosibl i gefnogi gwybodaeth am faeth sy’n cael ei nodi ar flaen y deunydd pecynnu trwy roi cipolwg i ddefnyddwyr ar ba mor iachus yw’r bwyd.
  • datblygu fframwaith labelu bwyd cynaliadwy sy’n ymdrin ag agweddau maethol, hinsawdd, amgylcheddol a chymdeithasol ar gynhyrchion bwyd – disgwylir hyn erbyn 2024 a’r nod yw gwella gwybodaeth i ddefnyddwyr am sut a ble y caiff bwyd ei gynhyrchu.

Bydd angen i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban adolygu’r newidiadau hyn yng nghyd- destun y DU, a byddwn yn gweithio gyda Chomisiwn Codex Alimentarius i gefnogi cysondeb yn rhyngwladol lle y bo’n briodol – er enghraifft, o ran labelu alergenau.

I grynhoi

  • Mae hwn wedi bod yn gyfnod o gydgrynhoi yn sgil ymadawiad y DU â’r UE. Mae deddfwriaeth helaeth wedi’i rhoi ar waith a gwaith manwl wedi’i wneud gyda’r diwydiant bwyd i gynnal parhad busnes a mynediad i’r farchnad, er na fydd llawer o’r gwaith hwn wedi cael effaith amlwg ar y defnyddiwr hyd yn hyn.
  • Mae cyfreithiau labelu bwyd y DU wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Disgwylir y bydd cyflwyno rheolau newydd ar labelu alergenau a chyfreithiau gwybodaeth calorïau gorfodol ar fwydlenni yn gwella ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr. Byddwn yn monitro effeithiolrwydd y newidiadau, gan ystyried adborth gan ddefnyddwyr, busnesau a’r rheiny sy’n gorfodi’r newidiadau hyn. Cynhelir adolygiad o’r newidiadau i labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu yn uniongyrchol yn 2022.
  • Sefydlwyd hefyd systemau a strwythurau ar ôl ymadael â’r UE ar gyfer goruchwylio safonau gwybodaeth am fwyd, er enghraifft creu Pwyllgor Honiadau Maeth ac Iechyd newydd y DU i asesu honiadau maeth ac iechyd arfaethedig.